Telerau ac Amodau

Diolch am ymweld â llyfrgell luniau ar-lein Amgueddfa Cymru. Mae'r telerau a'r amodau hyn yn berthnasol wrth gyflenwi delweddau o'r llyfrgell luniau ar-lein drwy gyfrwng ein gwefan, www.amgueddfacymru.ac.uk. Darllenwch y telerau a'r amodau hyn yn ofalus cyn archebu unrhyw ddelweddau o'n gwefan. Trwy archebu delweddau gennym dylech ddeall eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau a'r amodau hyn oni bai ein bod wedi cytuno'n bendant fel arall gyda chi.

1. Amdanom ni

Mae www.amgueddfacymru.ac.uk yn wefan dan reolaeth Mentrau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru, cwmni cyfyngedig preifat (rhif cwmni: 2449224 a rhif TAW GB 783454110) gyda'i swyddfa gofrestredig (a'i gyfeiriad masnachu) ym Mharc Cathays, Caerdydd CF10 3NP (“AOCC”).

Mae AOCC yn is-gwmni yn gyfan gwbl dan feddiant Amgueddfa Cymru. Caiff elw AOCC i gyd ei ddychwelyd i Amgueddfa Cymru i helpu i gefnogi ei gwaith.

2. Diffiniadau

At ddibenion y telerau a'r amodau hyn, mae i'r termau a ganlyn yr ystyron a ganlyn:

ystyr “Archeb” yw archeb am gyflenwi delweddau a wneir gennych chi drwy gyfrwng ein gwefan ni;
ystyr “Contract” yw'r contract rhyngom ni a chi a ffurfir yn unol ag Amod 3;
ystyr “Cydnabyddiaeth Archeb” yw ein cydnabyddiaeth ysgrifenedig i'ch Archeb a anfonir atoch drwy e-bost;
ystyr “chi” ac “eich” yw'r person y cawn Archeb ganddo i gyflenwi Delweddau;
ystyr “Defnydd a Ganiateir” yw'r defnydd ar y Delweddau a ganiateir gennym ni fel y'i hamlinellir yn y Drwydded;
ystyr “Delweddau” yw'r ddelwedd neu'r delweddau a gyflenwir gennym ni i chi dan y Contract, mewn fformat digidol, CD, ffotograff neu dryloywlun;
ystyr “Ffioedd” yw'r cyfanswm sy'n daladwy gennych am gyflenwi Delweddau yn unol ag Amod 7;
ystyr “ni” ac “ein” yw Mentrau Amgueddfeydd ac Orielau Cymru Cyfyngedig;
ystyr “Trwydded” yw trwydded i ddefnyddio'r Delweddau y byddwn yn eu rhoi i chi yn unol ag Amod 4.3.

3. Ffurfio Contract

Mae eich Archeb yn gynnig i ni gyflenwi'r Delweddau i chi yn unol â'r telerau a'r amodau hyn ac mae'n amodol ar i ni dderbyn y cynnig. Dim ond pan fyddwn yn rhoi Cydnabyddiaeth Archeb y derbynnir eich Archeb gennym ni ac y caiff contract ei ffurfio rhyngoch chi a ni.

4. Cyflenwi Delweddau

4.1 Mae pob delwedd ac unrhyw ddelwedd a gyfenwir i chi dan Gontract, ym mha fformat bynnag a geisir gennych, yn parhau yn eiddo i Amgueddfa Cymru ar bob adeg.

4.2 Ni sydd yn berchen ar bob hawl ac unrhyw hawl yn y Delweddau ac iddynt gan gynnwys, heb gyfyngiad, hawlfraint sy'n bodoli yn y Delweddau. Rhoddir caniatâd i chi ddefnyddio'r delweddau at y Defnydd a Ganiateir yn y Drwydded ac am gyfnod cyfyngedig yn unig.

4.3 Wedi i chi gyflwyno Archeb byddwn yn rhoi Trwydded ichi i ddefnyddio'r Delweddau y mae'n rhaid ei llofnodi a'i dychwelyd i ni cyn i ni anfon y Delweddau. Gellir gweld sampl o'n

Trwydded dempled.

4.4 Er gwaethaf telerau'r Drwydded, rydych yn cytuno:

  • (a) i beidio â chwtogi, difwyno na “masgio” unrhyw rai o'r Delweddau mewn unrhyw fodd;
  • (b) i beidio â chreu unrhyw ddyblygiadau o Ddelweddau a anfonir ar fformat tryloywlun neu CD am unrhyw reswm;
  • (c) i beidio â storio'r Delweddau nac unrhyw rai o'r Delweddau ym mha fformat bynnag y'u darperir i chi yn electronig neu fel arall;
  • (d) i gadw'r Delweddau mewn cyflwr da ac yn ddiogel ar bob adeg tra byddant yn eich meddiant neu dan eich rheolaeth;
  • (e) i ddinistrio'r holl Ddelweddau i'w lawrlwytho neu Ddelweddau digidol (gan gynnwys CDau) a gyflenwir i chi wedi cwblhau'r Defnydd a Ganiateir neu ar derfyn cyfnod y Drwydded, p'un bynnag fydd gyntaf;
  • (f) i ddychwelyd y Delweddau mewn fformat tryloywlun neu ffotograff i ni erbyn y dyddiad a bennir yn y Drwydded. Bydd methiant i ddychwelyd y Delweddau erbyn y dyddiad hwn yn golygu ffi ychwanegol o £100;
  • (g) i ychwanegu'r gydnabyddiaeth ganlynol at bob Delwedd: “Amgueddfa Genedlaethol Cymru — National Museum of Wales”;
  • (h) i beidio â chyhoeddi'r Delweddau (yn unol â'r Defnydd a Ganiateir) tan i ni gymeradwyo cyhoeddiad o'r fath ymlaen llaw drwy ebost, sef cymeradwyaeth ymlaen llaw nad yw i gael ei gohirio na'i gwrthod yn afresymol.

5. Dosbarthu Delweddau

5.1 Ac eithrio wrth ddosbarthu Delweddau mewn fformat i'w lawrlwytho, byddwn yn dosbarthu'r Delweddau i'r cyfeiriad a gyflenwir gennych yn yr Archeb.

5.2 Byddwn yn ymdrechu i ddosbarthu'r delweddau fel a ganlyn:

  • (a) i gyfeiriad yn y DU, o fewn saith (7) Niwrnod Gwaith (h.y. dydd Llun i ddydd Gwener, heb gynnwys penwythnosau a gwyliau cyhoeddus y DU) wedi i chi osod eich Archeb;
  • (b) i gyfeiriad yn yr UE (heblaw y DU), o fewn deng (10) Niwrnod Gwaith wedi i chi osod eich Archeb; ac
  • (c) i gyfeiriad y tu allan i'r UE, o fewn pymtheng (15) Niwrnod Gwaith wedi i chi osod eich Archeb.

5.3 Bras amcan yn unig fydd unrhyw ddyddiadau dosbarthu a ddarparwn ni ac ni fydd hawl gennych i wrthod derbyn dosbarthiad hwyr nac i drin dosbarthiad hwyr fel tor-contract gennym ni.

5.4 Yn achos Delweddau i'w lawrlwytho, byddwn yn galluogi'r delweddau i gael eu lawrlwytho oddi ar ein gweinydd FTP (File Transfer Protocol) am gyfnod o un mis o ddechrau cyfnod y Drwydded.

6. Polisi Diddymu a Dychwelyd

6.1 Os byddwch chi'n dewis diddymu Archeb wedi i'r Delweddau gael eu hanfon cadwn yr hawl i godi 50% o'r ffioedd (heb gynnwys TAW a chostau dosbarthu) yn ôl ein disgresiwn.

6.2 Yn unol bob amser â gofynion Amod 10, os bydd y Delweddau yn cael eu dosbarthu wedi'u difrodi neu yn anghyflawn mewn unrhyw fodd, rhaid i chi ein hysbysu ni ymhen 7 niwrnod drwy e-bostio neu ffonio neu yn ysgrifenedig, a dychwelyd y Delweddau i ni yn ddiymdroi wedyn.

6.3 Byddwn yn archwilio'r Delweddau a ddychwelir ac yn eich hysbysu chi drwy ebost o fewn cyfnod rhesymol a ydyn ni'n cytuno bod y Delweddau yn ddiffygiol. Os byddwn ni'n cytuno bod y delweddau yn ddiffygiol, byddwn yn darparu Delweddau newydd o fewn 7 niwrnod.

7. Ffioedd a Thalu

7.1 Y Ffioedd sy'n daladwy am gyflenwi Delweddau yw'r hyn a nodir ar y wefan pan fyddwch yn gosod eich Archeb. Nodir y Ffioedd mewn £ (punnoedd sterling) heb TAW a chostau dosbarthu fydd yn cael eu codi yn unol â'r cyfraddau perthnasol ar y dyddiad y byddwch chi'n gosod eich Archeb [insert link to delivery charges]. Mae'r Ffioedd i'w talu mewn punnoedd sterling (GBP) oni chytunir yn wahanol gyda chi.

7.2 Bydd y Ffioedd ynghyd â'r costau dosbarthu perthnasol yn daladwy gennych o fewn 30 niwrnod ar y mwyaf ar ôl dyddiad ein hanfoneb, er y gallwch ddewis talu yn syth ar-lein. Caiff TAW ei chodi ar bob cwsmer o fewn yr Undeb Ewropeaidd oni bai bod y cwsmer yn darparu rhif cofrestru TAW dilys. Ni fydd TAW yn cael ei chodi mewn achosion o'r fath.

7.3 Gellir talu ar-lein drwy ddefnyddio unrhyw un o'r cardiau debyd neu gredyd canlynol: JCB, Solo, Switch (DU), Mastercard, Visa, Visa Delta, Visa Electron a Visa Purchasing. Defnyddir system dalu “Paypal”.

8. Tollau Mewnforio

8.1 Os byddwch chi'n gosod Archeb am Ddelweddau i'w dosbarthu y tu allan i'r DU, efallai y gellir codi tollau neu drethi mewnforio arnynt pan fo'r dosbarthiad yn cyrraedd pen ei daith. Chi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw dollau neu drethi mewnforio o'r fath. Sylwer nad oes gennym ni reolaeth dros y costau hyn ac na allwn ragweld cyfanswm y costau hyn. Cysylltwch â'ch swyddfa dollau leol am ragor o wybodaeth cyn gosod eich Archeb.

8.2 Sylwer hefyd fod yn rhaid i chi gydymffurfio â holl ddeddfau a rheoliadau cymwys y wlad y dosberthir y cynnyrch iddi. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw dor-cyfraith gennych chi yn erbyn cyfreithiau o'r fath.

9. Diogelwch a Phreifatrwydd

Ni fyddwn ni na Paypal yn cadw manylion eich cerdyn credyd wedi i'ch Archeb gael ei phrosesu. Fodd bynnag, os hoffech chi i ni gadw eich manylion ebost a phost er mwyn inni ddarparu newyddion a chynigion, yna gallwch ddewis gwneud hynny wrth osod eich Archeb. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich manylion i unrhyw drydydd parti.

10. Cyfyngiad ar Atebolrwydd

10.1 Hyd yr eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn darparu unrhyw warant benodol na goblygedig dros y Delweddau, eu hansawdd na'u haddasrwydd at eu diben.

10.2 Ni fyddwn yn atebol i chi:

(a) am unrhyw ddatganiad a wneir (oni bai ei fod yn dwyllodrus); na

(b) am unrhyw golled, costau neu dreuliau anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol sy'n codi o gyflenwi'r nwyddau neu mewn cysylltiad â hynny.

10.3 Heblaw mewn perthynas â marwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod ni, ni fydd ein hatebolrwydd cyfan dan y Contract neu yn gysylltiedig ag ef yn fwy na'r Ffioedd.

11. Digwyddiadau y tu hwnt i'n Rheolaeth

Os methwn gyflawni unrhyw rai o'n rhwymedigaethau dan y Contract oherwydd unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth gan gynnwys, er enghraifft, diffyg argaeledd Delweddau am ba reswm bynnag, rhaid peidio ag ystyried bod methiant o'r fath yn torri ein rhwymedigaethau ni a/neu'r Contract tan ein bod yn medru cyflawni'r rhwymedigaethau (os medrwn eu cyflawni o gwbl).

12. Terfynu

12.1 Heb ragfarnu unrhyw hawliau eraill a all fod ar gael ichi, boed dan yr amodau hyn neu yn y gyfraith, bydd gennym ni hawl i derfynu'r Contract yn syth wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig os byddwch chi:

  • (a) yn torri unrhyw rai o ddarpariaethau'r Contract; neu
  • (b) yn torri darpariaethau'r Drwydded; neu
  • (c) yn mynd yn fethdalwr.

12.2 Wedi terfynu'r Contract, bydd y Drwydded yn cael ei therfynu'n awtomatig a rhaid i chi ddychwelyd y Delweddau i ni yn ddiymdroi neu eu dinistrio (fel sydd yn berthnasol).

13. Y Cytundeb Llawn

13.1 Y telerau a'r amodau hyn ac unrhyw ddogfen y cyfeirir yn benodol ati ynddynt, gan gynnwys heb gyfyngiad y Drwydded, yw'r cytundeb llawn rhyngom parthed testun unrhyw Gontract ac maent yn disodli unrhyw gytundeb, dealltwriaeth neu drefniant blaenorol rhyngom, boed ar lafar neu yn ysgrifenedig.

13.2 Rydym ni a chi yn cydnabod, wrth wneud Contract, nad yw'r naill neu'r llall ohonom wedi dibynnu ar unrhyw osodiad, ymgymeriad nac addewid a roddwyd gan y llall neu a awgrymwyd gan unrhyw beth a ddywedwyd neu ysgrifennwyd mewn trafodaethau rhyngom ni a chi cyn y Contract hwnnw ac eithrio'r hyn a nodir yn benodol yn y telerau a'r amodau hyn.

14. Hawl i Amrywio'r Telerau a'r Amodau hyn

14.1 Mae gennym yr hawl i adolygu a newid y telerau a'r amodau hyn o dro i dro i adlewyrchu newidiadau yn amodau'r farchnad sy'n effeithio ar ein busnes, newidiadau technoleg, newidiadau i ddulliau talu, newidiadau i ddeddfau a gofynion rheoliadol perthnasol a newidiadau yng ngallu ein system.

14.2 Byddwch yn rhwym i'r telerau a'r amodau fydd mewn grym pan fyddwch yn archebu Delweddau gennym, oni bai bod unrhyw newid i'r telerau a'r amodau hyn yn angenrheidiol o ganlyniad i ddeddf neu awdurdod llywodraethol (ac os felly bydd yn berthnasol i Archebion blaenorol a osodwyd gennych), neu os byddwn yn eich hysbysu o'r newid i'r telerau a'r amodau hyn cyn i ni anfon y Gydnabyddiaeth Archeb (ac os felly bydd hawl gennym i gymryd yn ganiataol eich bod wedi derbyn y newid i'r telerau a'r amodau, oni bai eich bod yn ein hysbysu i'r gwrthwyneb o fewn dau (2) Ddiwrnod Gwaith ar ôl cael y Gydnabyddiaeth Archeb).

15. Hawliau Trydydd Partïon

Nid ydym ni na chi yn bwriadu y gellir gorfodi unrhyw rai o'r amodau hyn, yn rhinwedd Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999 neu fel arall, gan unrhyw berson nad yw'n barti i'r Contract.

16. Y Gyfraith a'r Awdurdodaeth Lywodraethol

16.1 Bydd yr amodau hyn a'r Contract yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr a'u dehongli yn unol â hi.

16.2 Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn dyfarnu bod unrhyw un o'r amodau hyn (neu ran ohonynt) yn annilys, yn ddi-rym neu yn anorfodadwy caiff ei ddileu, a bydd yr amodau sy'n weddill yn parhau mewn grym yn llawn ac, os oes angen, yn cael eu newid yn ôl y gofyn i roi'r amodau hynny ar waith.

17. Sylwadau neu Gwynion

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, sylwadau neu gwynion cysylltwch â'r Swyddog Trwyddedu Delweddau ar (029) 2057 3280