Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin — Llyfrgell Luniau Arlein

C. All pob delwedd yn y Llyfrgell Luniau gael ei harchebu?
A. Mae pob delwedd ar y wefan ar gael fel ffeiliau digidol eglurder uchel a gellir eu prosesu drwy FTP neu ar ddisg.

C. Sut alla i archebu o’r casgliad?
A. Gellir archebu drwy ein llyfrgell luniau arlein. Os nad ydych chi’n gallu canfod y ddelwedd yr ydych yn chwilio amdani cysylltwch â

Kay Kays.

C. Alla i atgynhyrchu neu ddefnyddio delweddau heb ganiatâd y Llyfrgell Luniau?
A. Na. Rhaid cal caniatâd drwy’r Llyfrgell Luniau neu drwy gysylltu â’r Swyddog Trwyddedu Delweddau.

C. Sut alla i gael caniatâd i ddefnyddio’r delweddau yma?
A. Dilynwch y broses hyd nes cyrraedd y dudalen dalu. Bydd trwydded i ddefnyddio’r ddelwedd yn cael ei darparu wedi derbyn y taliad.

C. Oes angen i mi dderbyn caniatâd hawlfraint?
A. Mae pob delwedd yn y Llyfrgell Luniau wedi derbyn caniatâd hawlfraint.

C. Faint o amser fydd cwblhau’r archeb yn ei gymryd?
A. Bydd yr archeb yn cael ei brosesu cyn gynted ag y bydd tâl yn cael ei dderbyn. Gall hyn gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith os archebwyd disg, ond bydd delweddau ar y gweinydd FTP yn cael eu prosesu ar y diwrnod.

C. Pa ddulliau talu sy’n cael eu derbyn?
A. Mastercard, Visa, Visa Delta, Visa Electron, Switch (DU), Siec, Paypal neu gellir anfon taleb