Sut i Ddefnyddio’r Wefan

Sut i Ddefnyddio’r Wefan

Cyflwyniad

Ar hyn o bryd, mae rhyw 4,000 o fathau cydnabyddedig o fwynau’n bodoli ledled y byd – o’r rhain, cadarnhawyd bod 350 yn bodoli yng Nghymru, gyda rhyw 50 wedi eu rhestru mewn deunyddiau ond heb gael eu cadarnhau.

Mae’r wefan yma’n cynnig rhestr gynhwysfawr ac awdurdodol o’r holl rywogaethau o fwynau sy’n hysbys yng Nghymru. Trwy wybod beth sydd gennym ni, gallwn ni werthfawrogi a chynnal ein treftadaeth ddaearegol.

Hawlfraint

Copyright in all content comprising or contained within this website remains with Amgueddfa Cymru - National Museum Wales and other copyright owners as specified.

Amgueddfa Cymru - National Museum Wales copyrighted images may be used for educational purposes provided they are for personal or school use. For all other usage please contact us using the ‘Contacts’ page. You may not reproduce images where copyright is not held by Amgueddfa Cymru - National Museum Wales, unless you have obtained the permission of the copyright holder.

Canllaw I’r Data Am Fwynau

Mae rhestr o enwau mwynau yn nhrefn yr wyddor. Fe ffeindiwch chi’ch ffordd trwy ddilyn system A-Z syml. Gallwch gyrchu data trwy ddefnyddio offeryn

. . Caiff y data o fewn pob cofnod ei rannu yn ôl y categorïau hyn.
Enw’r Mwyn Mae hyn yn dilyn sillafiad cymeradwy CNMMN – IMA (manylion CNMMN ar y dudalen isod)
Statws yng Nghymru Categorïau
achos wedi ei gadarnhau wedi ei gadarnhau – math o leoliad yng Nghymru
wedi ei gadarnhau – cofnod 1af yn y DU
wedi ei gadarnhau – 2il gofnod yn y DU
wedi ei gadarnhau – 3ydd gofnod yn y DU
heb ei gadarnhau
wedi ei wrthbrofi enw mwyn wedi ei wrthbrofi/wedi darfod
Dosbarthiad Amcan bras o amlder y mwynau yng Nghymru e.e.
Pob man
Cyffredin
Cyffredin yn lleol
Anghyffredin Prin
Cyfansoddiad cemegol Disgrifiad cyffredinol o’r cyfansoddiad cemegol
Fformwla gemegol Fformwla gemegol yn ôl yr IMA
Grŵp cemegol Grŵp cemegol bras y mwyn (e.e. silicad, sylffid)
Gwiriad Dyma sut cafodd yr enw ei gadarnhau. Dyma’r prif ddulliau a restrwyd: Gweledol Microsgop (polaru, golau adlewyrchol neu finocwlar) XRD – dadansoddiad o ddiffreithiant pelydr-X IR – dadansoddiad is-goch Microstiliwr electron Cemeg gwlyb
Lleoliadau Rhestrir prif ardaloedd y mwyn yma. Nid rhestr gynhwysfawr mo hon, ond mae’n cynnwys yr enghraifft orau neu gynrychioliadol.
Cyflwyniad Gorolwg o gyfansoddiad a lleoliad y mwyn.
Lleoliadau yng Nghymru Mwy o wybodaeth benodol am leoliadau’r mwyn yng Nghymru.
Cyd-destun Canllaw i’r cyd-destun daearegol lle mae’r mwyn yn codi. Gall rhai mwynau fod yn bresennol mewn sawl math o le (e.e. pyrit) tra bod eraill yn bresennol mewn un math o le’n unig (e.e. glawcoffan). Mae’r rhain yn berthnasol i Gymru’n unig, a cheir rhagor o fanylion am bob un o dan ‘Gwybodaeth Ddaearegol’.
System grisialau Gellir dosbarthu mwynau i saith system grisialau, ciwbig, pedronglog, trigonol, chweonglog, orthorhombig, triclinig, monoclinig. Os oes ansicrwydd, mae’n bosibl y bydd gan rai mwynau fwy nag un system wedi ei rhestru, ac mae eraill wedi eu rhestru fel amorffaidd, lle nad yw’r system grisialau’n hysbys.
Cyfeiriadau Cyfeiriadau at wybodaeth a gyhoeddwyd mewn cyfnodolion gwyddonol, llyfrau a chylchgronau.