Datganiadau i'r Wasg

Artist yn chwarae’i ran yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae ardal chwarae awyr agored ddyfeisgar ac unigryw wrthi’n cael ei dylunio ar gyfer Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Fel rhan o’i gyfnod preswyl yn yr amgueddfa awyr agored mae’r artist Nils Norman yn datblygu ardal chwarae newydd. Noddir y rhaglen breswyl gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn rhoi cyfle i artistiaid ymateb yn greadigol i broject ailddatblygu Sain Ffagan rhwng 2015 a 2018.

Lansiwyd y cynllun yn 2015 gyda phedwar artist, ac mae Nils yn un o’r ail don o artistiaid preswyl yn Sain Ffagan. Bydd pob artist preswyl yn canolbwyntio ar elfen wahanol o’r ailddatblygiad.

Ei dasg yw creu ardal chware unigryw ar gyfer Sain Ffagan sy’n creu cyswllt â’r casgliadau ac yn meithrin chwarae creadigol a synhwyrus. Bydd yn gwneud defnydd o ddeunyddiau naturiol, mor gynaliadwy â phosibl, yn ystyried yr amgylchedd ac yn addas i blant o bob oed a gallu.

Yn ei waith bydd Nils yn plethu celf gyhoeddus, pensaernïaeth a chynllunio trefol. Mae’n gweithio yn Llundain ond wedi cwblhau projectau celf cyhoeddus a meysydd chwarae ledled y byd, o Efrog Newydd a Genefa, i Ddenmarc a Llundain.

Nils Norman sy’n arwain yn gwaith, ond gyda chymorth dau artist. Mae Fern Thomas ac Imogen Higgins yn gweithio yng Nghymru ac wedi cynorthwyo â’r gwaith ymchwilio, paratoi a chynnal gweithdai i bobl ifanc gyfrannu at y datblygu, a gweithio ar eu projectau eu hunain. Artist tir yw Imogen sydd newydd raddio gyda BA Cerameg o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Mae’n gweithio fel artist celf gyfranogol mewn cymunedau ar draws Caerdydd a’r Cymoedd ac yn defnyddio deunyddiau naturiol a dulliau adeiladu cynaliadwy yn ei gwaith. Graddiodd Fern Thomas ag MA mewn Cerflunio Cymdeithasol o Brifysgol Oxford Brookes yn 2012 ac mae wedi arddangos ei gwaith ym Mexico, Seland Newydd, yr Almaen, yr UDA ac ar draws y DU. Cynhaliwyd ei sioe unigol gyntaf, When the Moon Fell out of Orbit, yn Oriel Mission yn 2012.

Mae’r artistiaid hefyd wedi bod yn trafod syniadau gyda staff, teuluoedd, pobl ifanc a phlant ac yn ymchwilio i’r casgliadau hanes ac archaeoleg, a’r archifau papur, sain a ffilm yn Sain Ffagan i chwilio am ysbrydoliaeth.

Dywedodd Siân Lile-Pastore, Uwch Swyddog Addysg, Cyfranogiad a Dehongli Amgueddfa Cymru; “Mae creu ardal chwarae yn yr Amgueddfa yn greiddiol i’r arlwy dehongli newydd yn Sain Ffagan.

“Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu artist mor dalentog â Nils yma fel rhan o’r cynllun preswyl ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr i weld ei syniadau ar gyfer ardal chwarae gyffrous fydd yn creu cyswllt i’r casgliadau ac yn annog chwarae, ond a fydd, yn fwy na dim, yn sbort!”

Mae gwaith adeiladu yn parhau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wrth i’r sefydliad weld y datblygiad mwyaf yn ei hanes. Ariannwyd y fenter gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed a ddyfarnwyd i broject yng Nghymru er mwyn adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru.