Datganiadau i'r Wasg

‘Uffern Rhyfel!’: Brwydr Coed Mametz a’r Celfyddydau

Arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae 2016 gan mlynedd ers brwydr Coed Mametz, un o’r brwydrau mwyaf gwaedlyd ac arwyddocaol a ymladdwyd gan filwyr Cymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae Arddangosfa newydd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ‘Uffern Rhyfel!’: Brwydr Coed Mametz a’r Celfyddydau (30 Ebrill – 4 Medi 2016) yn edrych ar gelf, barddoniaeth a rhyddiaith y gwŷr a brofodd y frwydr drostynt eu hunain, yn ogystal ag ymatebion diweddarach.

 

Canolbwynt yr arddangosfa yw paentiad Christopher Williams Cyrch yr Adran Gymreig yng Nghoed Mametz, a gomisiynwyd gan David Lloyd George ym 1916 ac a welwyd am flynyddoedd yn ystafell groeso 10 Stryd Downing. Hefyd yn yr arddangosfa mae gweithiau gan y Gymraes Margaret Lindsay Williams. Roedd hi’n artist uchel ei pharch, ond er gwirfoddoli fel artist rhyfel cafodd ei gwrthod am ei bod yn fenyw. Ym 1916 paentiodd waith mawr yn dangos triniaeth milwyr yn Ysbyty Frenhinol Caerdydd mewn ward a ailenwyd yn ddiweddarach yn ‘Ward Mametz’.

 

Bu’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ysbrydoliaeth i lifeiriant o lenyddiaeth a barddoniaeth. Drwy ysgrifennu, roedd y milwyr yn mynegi eu hemosiynau, boed yn wladgarwch, arwriaeth ac edmygedd neu arswyd, dicter a thristwch. Cofnododd y beirdd Robert Graves a Siegfried Sassoon eu profiadau o Frwydr Mametz yn eu cerddi a daw teitl Saesneg yr arddangosfa o gerdd Robert Graves, A Dead Boche.

 

Yno hefyd oedd yr artist a’r bardd Llewelyn Wyn Griffiths, a gofnododd ei brofiadau yntau yn Up to Mametz. Felly hefyd y llenor David Jones a ymladdodd ym Mrwydr Mametz gyda’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ac a gofnododd ei brofiadau mewn celf a gair.

 

Dyma’r casgliad mwyaf o ddarluniau rhyfel David Jones i gael eu harddangos gyda’i gilydd. Mae yma chwech ar hugain braslun o’i gyfnod yn y fyddin, yn darlunio’r bobl a’r lleoliadau a welai. Wedi’r rhyfel, tyfodd David Jones yn un o artistiaid a beirdd modernaidd pwysicaf yr 20fed ganrif. Roedd ei brofiadau o fywyd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, yn enwedig Brwydr Mametz, yn un o’r dylanwadau mwyaf ar ei waith cymhleth a chain a bydd yr arddangosfa yn amlygu sut y dylanwadodd ei brofiadau ar ei waith drwy gydol ei yrfa. Bydd adran bwysig yn edrych ar weithiau a gynhyrchodd tra’n gweithio ar In Parenthesis, gan gynnwys darluniau wedi’u cyhoeddi a ddefnyddiodd fel wynebddalen ac ôlddalen.

 

Dechreuodd David Jones ar ei gerdd fawr In Parenthesis oddeutu 1927 gan ei chwblhau ym 1937. Mae’n dilyn hanes y Preifat ifanc John Ball sy’n ymuno â chwmni o filwyr Cymreig i ymladd yng Nghoed Mametz.

 

Ym mis Mai 2016 caiff opera fawr newydd, In Parenthesis, ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Mileniwm Cymru. Fe’i comisiynwyd i ddathlu pen-blwydd Opera Cenedlaethol Cymru yn 70 gyda’r prif waith wedi’i gyfansoddi gan Iain Bell a’r libreto gan Emma Jenkins a David Antrobus.

Gwnaed ymchwil manwl, newydd gan Beth McIntyre, Uwch Guradur Printiau a Darluniau Amgueddfa Cymru tra’n paratoi ‘Uffern Rhyfel!’: Brwydr Coed Mametz a’r Celfyddydau a gwnaed nifer o ganfyddiadau newydd. Dywedodd Beth:

“O’r diwedd, gallwn ni hawlio Christopher Williams yn un o’r artistiaid rhyfel cyntaf, ochr yn ochr ag enwau mwy adnabyddus megis Muirhead Bone. Ni chafodd ei gydnabod fel artist rhyfel swyddogol ar y pryd ond mae gennym ddogfennau o’r llywodraeth yma a llythyrau yn dangos ei fod yn Ffrainc ym 1916.

“Mae’r arddangosfa bwysig hon yn ystyried ymateb pobl i’r frwydr – y gwaith celf, y farddoniaeth a’r llenyddiaeth. Mae yma waith gan rai oedd yn bresennol ym Mametz yn ogystal â gwaith gafodd ei greu wedi hynny mewn ymateb. Ystyrir sut y seriwyd y frwydr hon ar gof cenedl gan ddod i gynrychioli dewrder ac aberth milwyr Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Gwelir effaith y frwydr ar bobl hyd heddiw yng ngwaith yr awdur a’r bardd Owen Sheers.

“Ysbrydolodd Brwydr Mametz cymaint o gelf, barddoniaeth a rhyddiaith. Roeddwn i wrth fy modd i ganfod mwy nag ugain o gerddi sy’n crybwyll brwydr Mametz yn benodol, yn ogystal â nifer fawr o ddarluniau, lluniau dyfrlliw a phaentiadau. Mae’r arddangosfa hon yn adrodd hanes y milwyr drwy gyfrwng eu celf, eu barddoniaeth a’u rhyddiaith, a nifer o ddogfennau a gwrthrychau eraill, a gobeithio y bydd ymwelwyr â’r Amgueddfa yn mwynhau’r arlwy.” 

Bydd cyfres lawn o weithgareddau yn ategu’r arddangosfa – ewch i www.amgueddfacymru.ac.uk am ragor o wybodaeth. 

Mae’r arddangosfa yn rhan o raglen Amgueddfa Cymru i goffau canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf. Daw cefnogaeth hael i’n rhaglen Cymru’n Cofio - Wales Remembers 1914 – 1918 a’n gweithgareddau ategol gan Lywodraeth Cymru (CyMAL), Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog a rhoddwyr eraill.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o leoliadau Amgueddfa Cymru, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

Diwedd

 

Am ragor o wybodaeth, delweddau neu gyfweliadau cysylltwch â Catrin Taylor, Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol drwy ffonio (029) 2057 3185 neu e-bostio catrin.taylor@amgueddfacymru.ac.uk.

 

Am ragor o wybodaeth am ein rhaglen goffa bedair mlynedd ewch i www.cymruncofio.org.

Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 - 1918

www.cymruncofio.org

 

Twitter #WW1 @cymruncofio

 

In Parenthesis

Dysgwch ragor am In Parenthesis a’r gerdd hir y seiliwyd yr opera arni ar wefan www.inparenthesis.org.uk.

 

amguededfacymru.ac.uk/caerdydd

@museum_cardiff

#cymruncofio

 

Cefnogir y gwaith o ail-arddangos casgliadau’r Lluoedd Arfog a gwaith allestyn cymdeithasol ategol yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru gan Gronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog.

 

Diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery am gefnogi rhaglen arddangosfeydd a digwyddiadau Amgueddfa Cymru.