Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Wlân Cymru yn joio Byw yn y Wlad

Galwch draw i fwynhau’r bywyd braf dros y penwythnos (Sadwrn 14 Mai 10am-3pm) yn Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-Fach, Felindre.

Mae Gŵyl y Bywyd Braf yn rhan o raglen weithgareddau’r haf yn yr amgueddfa lle gall ymwelwyr ddod yn wenynwyr cynaliadwy am y diwrnod, neu ddysgu defnyddio lliwur naturiol planhigion.

Am y drydedd flwyddyn, bydd yr Amgueddfa eto’n croesawu crefftwyr lleol o bob cwr o Sir Gaerfyrddin i ddangos eu crefft – o greu rhaffau ffrwyn ceffyl o wehyddu basgedi a gweu.

“Rydyn ni wrth ein bodd o gael cynnal yr Ŵyl eto eleni,” meddai pennaeth yr Amgueddfa, Ann Whittall. “Mae’n gyfle gwych i bobl alw draw i ddysgu mwy am grefftau a gweithgareddau cefn gwlad.”

Yn ogystal â gweld crefftwyr wrth eu gwaith, gall ymwelwyr hefyd grwydro’r Amgueddfa a mwynhau treftadaeth gyfoethog y diwydiant gwlân – diwydiant pwysig oedd i’w weld ym mhob cwr o Gymru.

Mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.