Datganiadau i'r Wasg

Dangos casgliad cerameg pwysig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bydd casgliad pwysig o gerameg o’r 20fed ganrif yn cael ei ddangos yn Amgueddfa Genedlaetholo Caerdydd o ddydd Mawrth 10 Mai. Daeth y casgliad i law Ymddiriedolaeth Derek Williams fel rhan o gymynrodd Anita Besson, fu farw yn Hydref 2015, ac maent yn ei fenthyg i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Ym mis Mai bydd detholiad o 30 o uchafbwyntiau’r casgliad yn cael eu dangos yn yr Amgueddfa gyda’r casgliad llawn, sydd bron yn 80 o weithiau, yn cael ei ddangos yn 2017.

Agorodd Galerie Besson yn Arcêd Frenhinol Llundain ym 1988 – y cyntaf o orielau Bond Street i ddangos cerameg fel celf, ac oriel a dyfodd yn fuan yn ganolbwynt rhyngwladol i’r artistiaid cerameg gorau. Roedd brwdfrydedd Anita Besson dros gerameg fodern, ei hegni a’i chwaeth heb ei ail. drwy ddangos dim ond gwaith a edmygai, nid gwaith y dylai ei ddangos. Erbyn i’r oriel gau ei drysau yn 2011 roedd wedi dangos gwaith 150 o artistiaid gwahanol mewn dros 250 o arddangosfeydd, a daeth nifer o’r artistiaid hynny yn gyfeillion agos iddi. Gwaith y cyfeillion mynwesol yma yw mwyafrif ei chasgliad preifat.

Mae’r cymynrodd yn cynnwys 40 gwaith gan yr artist cerameg stiwdio nodedig Lucie Rie – artist a dderbyniodd OBE ym 1968 a chafodd ei gwneud yn Fonesig ym 1990. Sioe unigol o waith Lucie Rie oedd arddangosfa gyntaf Galerie Besson yn Ebrill 1988, ac ame ei gwaith wedi ymddangos mewn nifer o arddangosfeydd mawr dilynol.

Yno hefyd mae 5 darn gan un o fawrion cerameg yr 20fed ganrif, Hans Coper, yn ogystal â 9 darn gan 9 Ian Godfrey, 4 gan Ryoji Koie, 3 gan Vladimir Tsivin, 3 gan Shiro Tsujimura, 2 gan Claudi Casanovas ac 1 yr un gan Bernard Dejonghe, Michael Cardew, William Staite Murray, Jacqueline Lerat, Ewen Henderson a Tatsuzo Shimaoka.

Dywedodd Andrew Renton, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru; “Rydyn ni wrth ein bodd yn cael dangos y casgliad pwysig hwn yn yr Amgueddfa ac yn ddiolchgar i Ymddiriedolaeth Derek Williams am fenthyg y cymynrodd i Amgueddfa Cymru. 

Mae’r gwaith yn ategu’r gwaith o hyrwyddo arferion cerameg cyfoes yng Nghymru ac yn adeiladu ar enw da cynyddol Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd fel llwyfan i gyflwyno a dehongli cerameg gyfoes.”

Dywedodd William Wilkins o Ymddiriedolaeth Derek Williams; “Braint yr Ymddiriedolaeth yw cael ei dewis i ofalu am y waddol werthfawr hon o gerameg yr 20fed ganrif, ac i hyrwyddo’r cymynrodd cyntaf a roddwyd i’n gofal. Roedd Anita Besson yn gymorth mawr wrth adeiladu casgliad yr Ymddiriedolaeth ac yn edmygu’n gwaith, yn enwedig ein pwyslais ar y pwysigrwydd o ddangos yr holl waith yn y casgliad.”

 

Cefnogir rhaglen arddangosfeydd a gweithgareddau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. 

– Diwedd –

 

Am ragor o wybodaeth neu ddelweddau, cysylltwch â Lleucu Cooke, Swyddog Cyfathrebu:

Ffôn: (029) 2057 3185 / e-bost: Lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk 

 

Gwefan: www.amgueddfacymru.ac.uk

 

@museum_cardiff                       facebook.com/museumcardiff

 

Nodiadau i Olygyddion:

 

Casgliad Amgueddfa Cymru

 

Mae un o gasgliadau cerameg pwysig y byd yn Amgueddfa Cymru. O weithiau hanesyddol i gyfoes, mae’n cynnwys casgliad rhagorol o borslen Ewropeaidd y 18fed ganrif. Mae yno hefyd gasgliad mawr o grochenwaith a phorslen o Abertawe, Llanelli a Nantgarw yn ogystal â gweithiau gan Pablo Picasso a nifer o wneuthurwyr cyfoes.