Datganiadau i'r Wasg

Datganiad gan Amgueddfa Cymru ynglŷn â gweithredu diwydiannol

Mae gweithredu diwydiannol gan Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) yn effeithio ar nifer o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd. Mae PCS yn anghytuno â newidiadau arfaethedig i lwfansau am weithio ar benwythnosau.

Gobeithiwn ddatrys yr anghydfod cyn gynted ag sy’n bosibl. Mae cynrychiolwyr o'r Amgueddfa wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o PCS ar ddau achlysur yn yr wythnosau diwethaf. Pwrpas y cyfarfodydd hyn oedd i edrych ar y posibilrwydd o gytundeb.

 

Er bod y trafodaethau hyn yn parhau, mae'r Amgueddfa yn mynd rhagddo gydag ymgynghori unigol fel y cynlluniwyd. Mae’r broses ymgynghori unigol cyfredol yn rhoi cyfle i’r holl staff yr effeithir arnynt ddweud eu dweud ar y cynnig, ac rydym yn falch bod staff yn cymryd y cyfle i wneud hynny.

 

Cynhaliwyd cyfarfod ar wahân gyda chynrychiolwyr o’n Hundebau Llafur yn ddiweddar i drafod y nifer o benwythnosau a weithir gan ein staff - un o’r prif bwyntiau a godwyd hyd yma drwy’r broses ymgynghori unigol.

 

Rydym yn deall bod cael gwared ar y Taliadau Premiwm yn fater sensitif i staff ond mae'n rhaid i ni arbed arian. Nid yw’n sefyllfa ariannol wedi newid. Mae Amgueddfa Cymru yn wynebu 4.7% o doriad pellach yn ein cyllideb, ar ben 25% o leihad termau real yn ein hincwm dros y pum mlynedd diwethaf.

 

Hoffem sicrhau ein hymwelwyr ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw ein hamgueddfeydd ar agor a chynnal ein gwasanaethau ar eu cyfer, ond rydym yn argymell iddynt edrych ar ein gwefan, www.amgueddfacymru.ac.uk, am yr wybodaeth ddiweddaraf cyn teithio’n unswydd i un o’n Hamgueddfeydd.

 

Mae pum amgueddfa genedlaethol ar agor wythnos yma gan gynnwys Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lechi Cymru ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Mae’r manylion fel a ganlyn:

 

Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

Mae Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru ar agor fel arfer.

 

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor gan gynnwys oriel Esblygiad Cymru, y siop, caffi a’r bwyty ond gall rhai orielau fod ar gau. Am ragor o wybodaeth yn ystod y gweithredu diwydiannol, ffoniwch 029 20573 339 (10am - 5pm dydd Mawrth - dydd Sul).

 

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae safle, siopau a chaffi Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ar agor ond gall rhai o’r adeiladau hanesyddol fod ar gau. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’n hadeiladau a’n digwyddiadau yn ystod y gweithredu diwydiannol, ffoniwch 029 20573 500.  Bydd digwyddiad Y Frwydr ar 28 a 29 Mai yn parhau.

 

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar agor gan gynnwys y caffi. Bydd y mwyafrif o’n horielau ar agor a’n rhaglen ddigwyddiadau yn parhau heblaw am Lofrudd y Glannau ar 13 Mai a Locomotif Stem Penydarren ar 14 Mai

 

Amgueddfa Lechi Cymru

Mae Amgueddfa Lechi Cymru ar agor o 9 hyd at 13 Mai a 16 hyd at 20 Mai (11am – 4pm) gyda gwasanaeth cyfyngedig. Bydd mynediad ar gael i’r arddangosfeydd, ffilm, gweithdai a pheiriannau statig. Bydd yr Amgueddfa ar gau ar 14 & 15 Mai a 21 & 22 Mai.

 

Mae Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru ar gau dros dro. Ni fydd Amgueddfa Wlân Cymru ar agor ar 14, 18 a 20 Mai fel y cyhoeddwyd o’r blaen gan fod pob digwyddiad wedi’i ganslo yn anffodus.