Datganiadau i'r Wasg

I’r Gad yn Sain Ffagan dros Ŵyl y Banc

Yn 2016 gall ymwelwyr â Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru brofi eto fflach cleddyfau, bloedd byddinoedd a gwres y gynnau mewn digwyddiad hanes byw unigryw dros ŵyl y banc. Ymunwch â ni ar 28 a 29 Mai ar gyfer ‘Y Frwydr’ pan fyddwn yn ail-greu’r hanes gyda chymorth Cymdeithas Rhyfel Cartref Lloegr.

Llecyn tawel, prydferth yw pentref bach Sain Ffagan heddiw gyda’i amgueddfa boblogaidd, ei dai to gwellt a’i dafarn gartrefol. Anodd credu taw dyma leoliad y sgarmes fwyaf erioed ar dir Cymru.

Ym mis Mai 1648, ymladdwyd brwydr waedlyd yma rhwng 11,000 o ddynion. Chwalwyd byddin y Brenhinwyr gan y Seneddwyr a dywedir i afon Elai lifo’n goch gan waed y 700 o wŷr Morgannwg a laddwyd ar faes y gad.

Camwch yn ôl ganrifoedd i ddysgu am fywyd milwr yn y 17eg ganrif a siarad â’r pentrefwyr a chlywed eu gobeithion a’u hofnau. Profwch nerfau a chyffro’r milwyr cyn y frwydr a gweld arfau replica – cannon, mysgedau powdwr gwn wedi’u llwytho o’r blaen, cleddyfau a bilwgau – yn cael eu paratoi. Gwrandewch ar y cadfridogion yn trefnu’u gwŷr a rhyfeddu ar ddawn y marchogion yn herio’r gelyn. Gwyliwch y frwydr yn datblygu wrth i’r ddwy fyddin groesi cleddyfau ar faes y gad!

Dywedodd Bethan Lewis, Pennaeth Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; 

“Rydyn ni wrth ein bodd yn llwyfannu’r frwydr hon ar gyfer ein hymwelwyr dros ŵyl y banc.

“Gall pobl gamu’n ôl mewn amser a phrofi brwydr ym 1648 gyda’u llygaid eu hunain. Bydd rhywbeth yma i bawb – o grefftau a choginio i sgyrsiau gyda milwyr a phentrefwyr, neu fwynhau golygfeydd gwych taran y gynnau a fflach y cleddyfau. Peidiwch â methu penwythnos hynod gyffrous! Prynwch eich tocynnau ar unwaith!

Dywedodd Jason Taylor, Cyfarwyddwr Gweithredu, Kier Construction,

“Rydyn ni’n falch iawn i gefnogi y digwyddiad ail greu brwydr Sain Ffagan. Bydd y digwyddiad yn gyfle da i ymwelwyr, teuluoedd a phlant gamu nol mewn hanes a phrofi hanes byw yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru.”

Mae’r gwaith adeiladu yn parhau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wrth i’r sefydliad weld y datblygiad mwyaf yn ei hanes. Ariannwyd y fenter gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed a ddyfarnwyd i broject yng Nghymru er mwyn adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy.

Oedolion £10, Plant £5 (16 ac iau)

Archebwch drwy www.ticketlineuk.com/event/st-fagans neu drwy ffonio (029) 2023 0130.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gymorth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i bob un o saith amgueddfa Amgueddfa Cymru.

 

DIWEDD