Datganiadau i'r Wasg

Ydych chi’n cofio Sefydliad y Gweithwyr Oakdale?

Symudwyd Sefydliad y Gweithwyr Oakdale i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ym 1989, ac ers hynny mae wedi dod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd yr Amgueddfa. Nawr, mae staff Sain Ffagan am glywed eich straeon am y ‘Stiwt mewn digwyddiad arbennig yng Nghanolfan Gymunedol Oakdale, am 2pm ar ddydd Mercher 18 Mai.

Bwriad Sain Ffagan yw dod â Sefydliad y Gweithwyr yn fyw eto ac rydyn ni’n chwilio am straeon newydd a ffotograffau o’r adeilad cyn iddo gael ei symud. Oeddech chi’n arfer chwarae snwcer neu biliards yno? Efallai eich bod chi yn un o’r gigs a gynhaliwyd yno yn y 1980au, neu’n aelod o’r cwmni drama amatur. Mae staff yr Amgueddfa am glywed gan unrhywun all daflu goleuni ar hanes yr adeilad eiconig.

Adeiladwyd Sefydliad y Gweithwyr Oakdale ym 1917 diolch i gyfraniadau hael y gweithwyr eu hunain, a bu’n ganolfan gymunedol i’r dref tan ei symud i Sain Ffagan. Mae tua 500,000 yn ymweld â’r adeilad bob blwyddyn gellir ei logi hefyd ar gyfer cynhadledd neu barti priodas.

Dywedodd Sioned Williams, Prif Guradur: Hanes Modern Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; “Sefydliad y Gweithwyr oedd calon y dref, ac mae cymaint o hanes yno. Ganrif yn ddiweddarach, rydyn ni’n gofyn i drigolion Oakdale rannu eu hatgofion a’u profiadau o’r adeilad hynod hwn.

“Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i bobl leol ddod i ddeall mwy am ein gwaith ni a chlywed staff yr Amgueddfa yn esbonio’r project ail-ddehongli.”

Cefnogir y project gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Grant Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog.

 

DIWEDD

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae mynediad am ddim i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru – gan gynnwys Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.