Datganiadau i'r Wasg

Cymru Lân, Gwlad y Gwlan

Mae gwŷl ffilmiau ieuenctid ryngwladol Cidwm Cymru:16 Wicked Wales:16 wedi cydweithio ag Amgueddfa Wlân Cymru a Cambrian Mountain Wool CIC i lansio cystadleuaeth newydd sbon i ddylunio gwobrau gwlân Cymreig ar gyfer y seremoni wobrwyo.

Dywedodd Rhiannon Hughes a Jonathan White, cyfarwyddwyr yr wŷl: “Gan fod hon yn wŷl ffilmiau gwbl ryngwladol fydd yn croesawu trefnwyr a chyfarwyddwyr ifanc o 14 o wledydd gwahanol, rydyn ni am ddangos Cymru ar ei gorau. Un o ddiwydiannau mawr ein gwlad yw gwlân, ac rydyn ni’n hynod falch o’n ffermwyr defaid a safon cynnyrch gwlân Cymru. Rydyn ni’n eithaf siŵr taw dyma’r tro cyntaf i wlân Cymreig gael ei ddefnyddio i greu gwobrau ffilm.”

Mae ysgolion hefyd yn cyfrannu. Bydd Amgueddfa Wlân Cymru yn Dre-fach Felindre yn gofyn am help ei Fforwm Ieuenctid, yn ogystal â disgyblion Ysgol Y Llys ym Mhrestatyn fydd yn creu ffilm ddogfen Gymraeg gydag isdeitlau Saesneg am y diwydiant gwlân yng Nghymru. Caiff y ffilm ei dangos gyntaf yn agoriad yr ŵyl ym Mhrestatyn ar ddydd Mercher, 21 Medi.

Wrth siarad am y gystadleuaeth dywedodd Ann Whittall, Pennaeth Amgueddfa Wlân Cymru: "Mae’n llwyfan gwych i ddylunwyr ifanc arddangos ei sgiliau mewn modd creadigol. Mae’n fraint cael bod yn rhan o’r broses ddyfarnu ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld y cynnyrch gorffenedig."

Dywedodd Suzi Parks ar ran Cambrian Mountain Wool CIC: “Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cyfle i weithio gyda Cidwm Cymru ac Amgueddfa Wlân Cymru i hyrwyddo cyfarwyddwyr a dylunwyr ifanc, a gwlân Cymreig. Byddwn ni’n darparu gwlân Cambria hyfryd i ddylunwyr y gwobrau ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld eu cynlluniau creadigol.”

Mae briff dylunio a ffurflenni cais ar gael drwy e-bostio rhiannon52@mail.com neu fynd i wefan www.amgueddfa.cymru/cidwm-cymru-2016/