Datganiadau i'r Wasg

Brwydr Coed Mametz ar lwyfan yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae 2016 yn flwyddyn canmlwyddiant Brwydr Coed Mametz, un o’r brwydrau mwyaf arwyddocaol a gwaedlyd i gael ei hymladd gan filwyr Cymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ym mis Gorffennaf bydd y frwydr yn dod yn fyw ar lwyfan yng Nghaerdydd. Bydd InterAct (Cymru), mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru, yn llwyfannu eu cynhyrchiad ‘Mametz Wood’ yn Narlithfa Reardon Smith, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf (1pm, 3pm a 6pm) a dydd Sul 10 Gorffennaf (1pm, 3pm). Mynediad am ddim, addas i oed 8+.

Mae’r cynhyrchiad wedi’i ysgrifennu gan Lyon Devereux a’i gynhyrchu gan InterAct (Cymru), cwmni theatr cydweithredol o ogledd Cymru. Cafodd ei berfformio gyntaf yng Ngŵyl Caeredin yn 2014, a chafodd adolygiadau 4*. Wedi’i seilio ym Mrwydr Coed Mametz yn y Somme ym 1916, mae’n dilyn hanes grŵp bychan o filwyr o’r 38ain Adran (Gymreig) a’r penbleth oedd yn wynebu nyrs wedi’i lleoli tu ôl i flaen y gad.

Mae’r perfformiad yn rhan o raglen ddigwyddiadau sy’n cyd-fynd ag arddangosfa Uffern Rhyfel: Brwydr Coed Mametz a’r Celfyddydau, sydd i’w gweld yn yr Amgueddfa tan 4 Medi, ac sydd yn edrych ar gelf, barddoniaeth a rhyddiaith rhai oedd yn bresennol a phobl wnaeth ymateb i’r frwydr yn ddiweddarach.

Mae’r digwyddiad yn rhan o raglen Amgueddfa Cymru i goffáu canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Noddir y rhaglen Cymru’n Cofio 1914-1918 a’r gweithgareddau cysylltiedig yn hael gan Lywodraeth Cymru (MALD), Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog a noddwyr eraill.

Dywedodd Emma Routley, Cydlynydd Coffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf, Amgueddfa Cymru: “Rydym yn falch iawn y bydd InterAct (Cymru) yn perfformio’r cynhyrchiad hwn yn yr Amgueddfa i nodi can mlynedd union ers y frwydr. Mae’r ddrama yn cyfleu profiadau’r milwyr ym Mametz a dewrder ac aberth milwyr Cymru drwy gydol y Rhyfel.

“Bydd cyfle hefyd i ymweld â’r arddangosfa yn yr Amgueddfa, sy’n rhannu profiadau’r milwyr drwy eu celf, barddoniaeth a rhyddiaith.”

Diwedd

 

Am fwy o wybodaeth, delweddau neu gyfleoedd am gyfweliad, cysylltwch â Catrin Taylor, Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol ar (029) 2057 3175 neu e-bostiwch lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.

 

Ewch i wefan www.cymruncofio.org am fwy o wybodaeth am y rhaglen bedair blynedd.

Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914 - 1918

www.cymruncofio.org