Datganiadau i'r Wasg

Ail-greu’r Deinosor Cymreig

Bydd atyniad cyffrous newydd i’w weld yn orielau Hanes Natur Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o ddydd Mawrth 5 Gorffennaf ymlaen. Bydd ail-gread maint llawn o’r deinosor Cymreig Dracoraptor hanigani i’w weld ar graig wrth ymyl deinosoriaid eraill yr Amgueddfa yn oriel Esblygiad Cymru.

Cafodd esgyrn y deinosor Cymreig Dracoraptor hanigani (sy’n golygu draig-leidr) eu darganfod yn 2014 ar draeth Larnog ger Penarth, de Cymru, gan y brodyr Nick a Rob Hanigan. Anifail bychan cigysol tua maint ci mawr oedd y deinosor – cefnder pell i’r Tyrannosaurus rex – ac mae’r sgerbwd i’w weld ym mhrif neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar hyn o bryd.

Comisiynwyd Bob Nicholls, palaeo-artist o Fryste, i greu’r model maint llawn. Bu’n gweithio’n ddiwyd ar y project am fisoedd er mwyn sicrhau ei fod yn fanwl gywir. Mae gwyddonwyr yn credu y gallai'r corff fod wedi’i orchuddio mewn mân-blu, gyda chwils ar hyd y cefn o bosibl. Cafodd y rhain eu hychwanegu yn ofalus gan Bob.

Roedd y deinosor Cymreig newydd yn gefnder pell iawn i’r Tyrannosaurus rex ac yn byw ar ddechrau’r Cyfnod Jwrasig (201 miliwn o flynyddoedd yn ôl) - felly mae’n bosibl mai dyma ddeinosor Jwrasig hynaf yn y byd. Roedd yn greadur bychan a main, tua 70cm o daldra a rhyw 200cm o hyd, gyda chynffon hir i helpu gyda chydbwysedd, ac roedd yn chwim ac ystwyth. Roedd yn byw mewn cyfnod pan oedd de Cymru yn llawer cynhesach a’r deinosoriaid yn dechrau amrywio. Mae’n perthyn i’r Coelophysis oedd yn byw rhyw 203 i 196 miliwn o flynyddoedd yn ôl mewn ardal sydd erbyn heddiw yn ne-orllewin UDA.

Dywedodd yr artist Bob Nicholls, wnaeth greu’r model: “Does dim braint fwy i balaeo-artist na chael bod y cyntaf i ddangos i’r byd sut roedd anifail cynhanesyddol yn edrych.

“Cymerodd dri mis i mi adeiladu’r Dracoraptor. O’r ymchwil cychwynnol i gerflunio, mowldio a chastio’r model, heb sôn am ychwanegu plu, llygaid gwydr a phaentio’r croen, roedd yn broses hir. Roeddwn yn falch o weld y fersiwn gorffenedig ond rwy’n edrych ymlaen yn arw at ei weld yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd – dyna pryd y bydd yr wythnosau o waith caled yn talu ar eu canfed.

“Mae’n swnio fel stori ddigon syml, ond o feddwl am y peth yn iawn, mae’n anhygoel cael bod yn rhan o stori 200 miliwn o flynyddoedd oed – mae’n rhoi croen gŵydd i mi.”

Dywedodd Dr Caroline Buttler, Pennaeth Palaeontoleg, Amgueddfa Cymru: “Mae’n anhygoel i weld y deinosor yn dod yn fyw, a dyma un o’r modelau mwyaf realistig i mi weld erioed. Bydd ymwelwyr o bob oed – yn blant ac oedolion – wrth eu boddau.”

“Mae sgerbwd ffosiledig y deinosor, sydd i’w weld yn y brif neuadd, wedi bod yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n wych bod cyfle erbyn hyn i weld sut y byddai’r creadur wedi edrych.

“Mae’r deinosor Cymreig wedi cipio dychymyg y cyhoedd a phalaeontolegwyr yr Amgueddfa ac roeddem eisiau creu model 3D er mwyn dod â’r deinosor yn fyw. Roedd y model yn bosibl diolch i haelioni Noddwyr Amgueddfa Cymru a chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. Rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth.”

Cefnogir rhaglen arddangosfeydd a digwyddiadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i’r Amgueddfa.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. 

– Diwedd –