Datganiadau i'r Wasg

Dau ysgeintiwr arian yn cwblhau darn canol Bodelwyddan o’r 18fed ganrif

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae Darn Canol Arian Williams – neu Ddarn Canol Bodelwyddan – wedi bod yn cael ei arddangos yng Nghastell Bodelwyddan. Er ei fod yn drysor poblogaidd yn yr amgueddfa a’r tŷ hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, roedd dau ysgeintiwr ar goll o’r darn canol arian - y cynharaf o’i fath ym Mhrydain.

Bellach, mae'r ddau ysgeintiwr siwgr wedi cael eu hailddarganfod, a’u prynu gan Amgueddfa Cymru gyda chefnogaeth Cwmni Goldsmiths. Yr wythnos hon, fe’u hunwyd gyda’r darn canol a wnaed ym 1730 gan Edward Feline ar gyfer teulu Williams Bodelwyddan.

 

Mae’n debyg mai darn canol Bodelwyddan yw'r darn unigol pwysicaf o arian yng nghasgliad celf cenedlaethol Cymru. Dyma'r enghraifft Brydeinig hynaf o ddarn canol arian neu surtout de table o ddechrau'r 18fed ganrif – math hollol newydd o wrthrych moethus a ddatblygodd yn Ffrainc yn llys Louis XIV tua 1680, ac un a chwaraeodd ran allweddol yn niwylliant bwyta ffurfiol Baróc Ewrop. Felly mae'n ganolog i hanes arferion a bwyta ar ddechrau’r 18fed ganrif, yn ogystal â dylunio ac addurno gydag arian.

Daeth y darn canol i feddiant Amgueddfa Cymru ym 1995 heb ei chwe ysgeintiwr arian. Bu’r pedwar ysgeintiwr llai, ar gyfer pupur a mwstard sych, ar goll ers 1961 ond daethant i’r golwg yn 2012 ac fe’u prynwyd gan yr Amgueddfa gyda chymorth y Gronfa Gelf. Mae'r ddau ysgeintiwr diwethaf, a brynwyd gan yr Amgueddfa gyda chymorth Elusen Cwmni Goldsmiths, yn cwblhau'r darn canol. Bydd yn parhau i gael ei arddangos yng Nghastell Bodelwyddan am y dyfodol rhagweladwy.

Dywedodd Andrew Renton, Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru:

"Roeddem wastad wedi gobeithio y byddai’r ddau ysgeintiwr, a gollwyd yn y 1950au, yn ail-ymddangos. Gyda'r rhain, dyma’r enghraifft gyflawn gynharaf o’r math prin iawn hwn o waith arian bwrdd Baróc Prydeinig. Rydym yn falch y bydd yr eitem werthfawr hon yn parhau i gael ei harddangos i ymwelwyr yng Nghastell Bodelwyddan, ei chartref."

Dywedodd Kevin Mason, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Castell Bodelwyddan:

"Rôl yr Ymddiriedolaeth yw sicrhau bod pobl leol yn cael mynediad at rai o'n trysorau cenedlaethol pwysig. Mae'r ysgeintwyr hefyd yn arbennig o arwyddocaol i hanes Bodelwyddan. Diolch i ymdrech benderfynol gan staff yr amgueddfa, mae eu gosodiad yn cynrychioli popeth sy'n dda am ein partneriaeth hirdymor gydag Amgueddfa Cymru."

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa ledled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.


Mae mynediad i bob Amgueddfa am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.


Cefnogir rhaglen arddangosfeydd a gweithgareddau Amgueddfa Cymru gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.