Datganiadau i'r Wasg

Fferm Oes Haearn Bryn Eryr nawr ar agor yn Sain Ffagan

Yr adeilad cyntaf i gael ei gwblhau fel rhan o broject ailddatblygu Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

Mae Bryn Eryr, y fferm Oes Haearn yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, nawr ar agor yn llawn i’r cyhoedd. Mae’r adeilad, sy’n seiliedig ar safle archaeolegol o gyfnod y goresgyniad Rhufeinig, yn ailgread o fferm fechan ger Llansadwrn yn nwyrain Ynys Môn.

Mae’r adeilad yn cynnwys dau dŷ crwn gyda waliau clai sy’n chwe throedfedd o drwch, a thoeau gwellt siâp côn.

Cafodd ei adeiladu gyda chymorth cannoedd o wirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol o Drelái a Chaerau. Gyda chymorth tîm adeiladu’r Amgueddfa, buont yn codi’r waliau clai, helpu i ddehongli hanes y tai ac ailddarganfod bywydau’r preswylwyr gwreiddiol.

Mae grwpiau ysgol wedi bod yn ymweld â Bryn Eryr ers blwyddyn ond erbyn hyn gall y cyhoedd ymweld â’r safle yn dilyn cwblhau’r gwaith ar y prif lwybr drwy’r coed.

Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yng nghanol y project ailddatblygu mwyaf yn ei hanes. Mae hyn yn bosibl diolch i arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Llywodraeth Cymru a noddwyr eraill. Yn 2012, derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed i gael ei roi gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru, er mwyn helpu i adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 a mwy o flynyddoedd.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

“Dylai ein gwirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol Trelái a Chaerau fod yn falch iawn o Bryn Eryr. Iddyn nhw a’n tîm adeiladu ni y mae’r diolch am allu agor yr atyniad newydd i’r cyhoedd yr haf hwn.

“Mae ail-greu'r adeilad hynod hwn o Ynys Môn, gan ddefnyddio tystiolaeth archaeolegol, yn gam arwyddocaol yn y broses o ailddatblygu Sain Ffagan.

“Dros y pum mlynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn mynegi gwerth y project ailddatblygu i bobl Cymru a thu hwnt. Gyda Bryn Eryr nawr ar agor, mae gan ein hymwelwyr le i glywed hen straeon, dysgu sgiliau traddodiadol a rhannu profiadau gyda ffrindiau a theulu.”

Dywedodd Paul, gwirfoddolwr yn Uned Adeiladau Hanesyddol Sain Ffagan, fu’n gweithio ar Bryn Eryr:

“Doeddwn i ddim yn teimlo’n dda iawn ar y dechrau ond buan y daeth gwen yn ôl i fy wyneb diolch i’r staff gwych wnaeth wneud i mi deimlo’n normal eto. Roedd fy hyder yn tyfu ac yn tyfu. Er mai dim ond gwirfoddolwr wyf i, rwy’n teimlo fel un ohonyn nhw. Mae wedi bod yn wych cael dysgu pob math o bethau diddorol.”

(i ddarllen mwy am stori Paul ewch i: https://amgueddfa.cymru/cymerran/gwirfoddoli/cwrdd/)

 

Dywedodd Richard Bellamy, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru:

 

“Mae ailgread Bryn Eryr wedi bod ar y gweill ers blynyddoedd, gyda sylw manwl yn cael ei roi i’r manylion lleiaf er mwyn sicrhau bod y fferm orffenedig mor gywir â phosibl. Mae’n wych o beth bod cannoedd o wirfoddolwyr wedi rhoi o’u hamser i helpu i wneud yr ailgread hwn yn bosibl ac ymgysylltu â’n treftadaeth – ac maen nhw’n haeddu diolch o galon am eu hymroddiad.

 

“Dyma’r adeilad cyntaf i gael ei gwblhau fel rhan o broject Creu Hanes yn Sain Ffagan, sydd yn bosibl diolch i’r grant o £11.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri – arian a gasglwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld yr adeiladau a’r gofodau arddangosfa wedi’u cwblhau – bydd yn sicrhau bod Sain Ffagan yn well nac erioed, ac yn adrodd hanes Cymru i’r byd.”

 

Bydd sesiynau galw heibio am ddim i’r teulu ynghylch Bryn Eryr, bywyd ar fferm o’r Oes Haearn, yn ystod gwyliau’r haf.

Llun 25–Sad 30 Gorffennaf 12–3pm.

Llun 8–Sad 13 Awst 12–3pm.

Llun 22–Sad 28 Awst 12–3pm.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd Amgueddfa Cymru.

 

Diwedd