Datganiadau i'r Wasg

Hwyl Gŵyl Fwyd Sain Ffagan

Cymerwch stondinau o fwydydd a diodydd gorau Cymru, pinsied go-lew o hanes, mynediad am ddim, a’r cyfan wedi’i weini mewn leoliad awyr-agored unigryw! Dyna fydd ar y fwydlen yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru dros benwythnos 10 ac 11 Medi 2016, 10am-5pm wrth i Ŵyl Fwyd Sain Ffagan ddychwelyd i’n diddanu.

Bydd dros 80 o stondinau yn cuddio rhwng yr adeiladau hanesyddol yn cynnwys o bob cwr o Gymru cynnyrch i’w flasu a’i brynu. Gall ymwelwyr hefyd brynu bara a theisennau cartref ym mhopty Turog, neu selsig porc cartref o foch wedi’u magu yn yr Amgueddfa.

Bydd digon at ddant pawb – o glasuron traddodiadol i fwyd mentrus newydd, o fwyd môr i paella o Sbaen, o gaws i frownis siocled a seidr Cymreig. Ymhlith y stondinau i’ch denu bydd:

Cafe Mor, Cottage Sweets, Delicia Cakes & Teas, Glam Lamb, Leaf and Petal, Llanfaes Dairy Ice Cream, Morgans Family Butchers, Pulled Pork People, Samosaco, The Blaenafon Cheddar Company LTD, The Chocolate Brownie Company, The Spanish Buffet , Williams Brothers Cider,

Bydd hyn yn siŵr o ddod â dŵr i’r dannedd, ond bydd digonedd o arddangosiadau a gweithgareddau yno hefyd at ddant y teulu cyfan.

Dewch i rannu ryseitiau teuluol gyda ni yn Sefydliad y Gweithwyr Oakdale rhwng 1am a 3pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Galwch draw i Siop Gwalia a mynd i siopa yn y 1920au. Yno hefyd bydd rhai o aelodau Cymdeithas Y Rhyfel Mawr yn esbonio profiadau milwyr a nyrsys yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bydd ein gwartheg model yn barod i’w godro rhwng 10am a 5pm, a rhagor o weithgareddau fferm ar gael  rhwng 10:30 ac 11:30am, a 2:30 a 3:30pm. Ymunwch ag Adele Nozedar, yr Hedgerow Guru, ar daith i ddysgu mwy am y myrdd o blanhigion bwytadwy yn y gerddi, neu beth am bysgota plu yn llyn y Castell gyda’r Pencampwr Byd, Hywel Morgan?

 

Beth sydd tu ôl i’r ffens? Mae’n gyfnod cyffrous i’r Amgueddfa wrth i ni parhau â’n project ailddatblygu mwyaf erioed. Bydd cyfle i ymwelwyr weld beth sydd tu ôl i’r ffens a sut mae’r project yn dod ymlaen. Mae’r contractwyr, Kier Construction, yn cynnal cyfres o deithiau ugain munud am 12pm, 1pm a 2pm, i bobl dros 18 oed yn unig.

 

Meddai Bernice Parker, Swyddog Digwyddiadau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; “Yr Ŵyl Fwyd yw un o ddigwyddiadau mwyaf poblogaidd y flwyddyn. Mae’n gyfle gwych i ymwelwyr ddod i flasu bwydydd newydd, siarad â chynhyrchwyr brwdfrydig a mwynhau diwrnod yn atyniad treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru. 

“Yn ogystal ag 80 a mwy o stondinau bwyd, gall ymwelwyr hefyd fwynhau cerdded drwy Gymru yn gweld adeiladau a gerddi hanesyddol o bob cwr a phrofi crefftau a gweithgareddau traddodiadol. Mae’n lleoliad gwych gyda rhywbeth at ddant pawb – a’r cyfan am ddim!”

 

Mae’r gwaith adeiladu yn parhau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru wrth i’r sefydliad weld y datblygiad mwyaf yn ei hanes. Ariannwyd y fenter gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (HLF), Llywodraeth Cymru a chefnogwyr eraill. Yn 2012 derbyniodd Sain Ffagan y grant mwyaf erioed a ddyfarnwyd i broject yng Nghymru er mwyn adrodd hanes bywyd yng Nghymru dros 200,000 o flynyddoedd a mwy.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

Diwedd

Twitter - @Stfagans_museum

Facebook – facebook.com/stfagans