Datganiadau i'r Wasg

Neges oddi wrth Jon Shortridge, yr Ysgrifennydd Parhaol, at staff y LCC ac at y bobl hynny sy'n gweithio dros Gyrff Cyhoeddus a

Neges oddi wrth Jon Shortridge, yr Ysgrifennydd Parhaol, at staff Llywodraeth Cynulliad Cymru ac at y bobl hynny sy'n gweithio dros Gyrff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad

Heddiw, mae Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn gwneud datganiad arall yn y cyfarfod llawn am ddyfodol cwangos Cymru. Mae'r datganiad yn dilyn ei gyhoeddiad ar 14 Gorffennaf lle dywedodd y byddai Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd Croeso Cymru ac ELWa yn dod yn rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hyn hefyd yn fodd i ddatblygu'i weledigaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel y'u hamlinellir yn 'Creu'r Cysylltiadau'.

Amgaeir copi o'r datganiad a gaiff ei wneud heddiw.

Ymwneud y mae'r cynigion hyn â gwella atebolrwydd democrataidd. Fel y dywedir yn 'Creu'r Cysylltiadau', byddwn hefyd yn achub ar bob cyfle i symleiddio'r broses benderfynu, gwella cydweithrediad ar draws y sector cyhoeddus a darparu gwasanaeth mwy effeithlon i bobl ac i gymunedau Cymru.

Ni fydd llawer ohonoch yn gweld unrhyw newid yn eich sefyllfa waith, ond bydd cryn newid yn wynebu eraill.

Bydd angen i'r sefydliadau hynny yr effeithir arnynt mewn rhyw fodd gan y cyhoeddiad hwn fynd ati i ystyried nifer o faterion yn ystod y misoedd nesaf. Bydd yr Is-adrannau yn Llywodraeth y Cynulliad sy'n noddi'r cyrff hyn yn cysylltu â hwy i drefnu cyfarfodydd gyda'r rheolwyr a'r undebau i drafod y camau nesaf.

Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth yn y man ar ein gwefan ar Ddiwygio Gwasanaethau Cyhoeddus - ac, ar gyfer staff Llywodraeth y Cynulliad, ar dudalen newyddion y Fewnrwyd.

JON SHORTRIDGE