Datganiadau i'r Wasg

Peidiwch â’i wastraffu!

Bydd arddangosfa fawr i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau o 22 Hydref, yn canolbwyntio ar y pethau anhygoel y gellir eu gwneud gyda gwastraff a sbwriel.

Ci rhaff

Mae’r arddangosfa Am Wastraff! yn edrych ar rywfaint o’r cynnyrch cyffrous sy’n cael ei wneud yng Nghymru gyda gwastraff sy’n amrywio o gewynnau budr i’r polythen sy’n cael ei ddefnyddio gan ffermwyr i lapio silwair.

Mae ailgylchu wedi bod yn digwydd erioed, am fod deunyddiau crai wedi bod yn brin ar hyd y blynyddoedd. Ond newidiodd hynny wrth i fasnach byd-eang a mwyngloddio ar raddfa anferth ei gwneud yn haws cael gafael ar fwynau prin a thanwydd ffosil. Nawr mae gwledydd y Gorllewin yn poeni bod hyn yn drychineb amgylcheddol ac mae ailgylchu yn gyffredin unwaith eto.

Mae ffordd bell i fynd, fodd bynnag, fel mae’r arddangosfa’n dangos. O’r 9.5 biliwn o ganiau alwminiwm gaiff eu gwneud yn y DU bob blwyddyn, dim ond eu hanner sy’n cael eu hailgylchu, er bod modd ailgylchu alwminiwm drosodd a throsodd.

Ac er ein bod yn gyfarwydd ag ailgylchu papur, metelau a phlastig, mae’r arddangosfa’n dangos cyn lleied o’r deunyddiau hyn sy’n cael eu hailgylchu yn hytrach na phydru mewn safleoedd tirlenwi.

Un o’r eitemau mwyaf trawiadol yw gwrthrych wedi’i wneud o gewynnau sy’n cael eu hailgylchu gan gwmni o Rydaman. Mae Nappicycle yn rhan o Natural UK Ltd, ac wedi datblygu proses arloesol i adfer deunydd o gewynnau budr – rhywbeth sy’n hanfodol o ystyried bod pob cewyn yn cymryd 500 mlynedd i ddadelfennu. Pe bai’r Esgob William Morgan, a anwyd ym 1545, wedi defnyddio cewynnau, fydden nhw’n dal heb bydru!

Hefyd i’w weld bydd orang-utan mawr wedi’i wneud o hen raffau campfa gan yr artist o Gaerdydd, Dominic Gubb, fydd hefyd yn dangos rhai o’i anifeiliaid wedi’u gwneud o bennau mop a hen soffas lledr.

Bydd hefyd gyfle i bobl Abertawe weld beth sy’n digwydd i’w gwastraff wedi’i ailgylchu gyda ffilm o safle byrnu’r cyngor yn Llansamlet sy’n dangos beth sy’n digwydd i gynnwys y bagiau gwyrdd a phinc.

Dywedodd Jacqui Roach, curadur Am Wastraff!:

Mae’n anhygoel beth ellir ei greu allan o’r hyn sy’n cael ei daflu. Ac o ystyried faint o amser mae’n cymryd i bethau ddadelfennu - canrifoedd yn aml - mae’n amlwg ein bod yn rhedeg allan o le ac amser i ddelio â’r gwastraff. Er mwyn parhau i fyw ar y blaned hon, rhaid i ni ailgylchu llawer mwy. Rwy’n gobeithio y bydd yr arddangosfa hon yn agoriad llygad ac yn gwneud i bobl ystyried ffyrdd newydd a chreadigol o gwtogi’r deunydd gaiff ei yrru i safleoedd tirlenwi.

Bydd yr arddangosfa’n cynnwys dros 50 o wrthrychau o bob cwr o’r byd wedi’u gwneud o ddeunyddiau anarferol, fel rygiau wedi’u gwneud o saris o India, bag ysgwydd o Dde Affrica wedi’i wneud o deiar car a phlât rhifau, a chwt ci o Frasil wedi’i wneud o hen diwbiau past dannedd.

Bydd hefyd yn adrodd straeon gwrthrychau bob-dydd fel can diodydd a phâr o jîns, a bydd cyngor defnyddiol i ailgylchwyr heddiw ynglŷn â chasglu bagiau ailgylchu gan gyngor Dinas a Sir Abertawe.

Bydd Am Wastraff! i’w weld o ddydd Sadwrn 22 Hydref tan 30 Ebrill 2017 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.