Datganiadau i'r Wasg

Chwilota’r traeth i ddatgelu gorffennol Abertawe

Pobl ifanc Abertawe yn darganfod eu treftadaeth

Crochenwaith, metalwaith, esgyrn, pibell glai a gwaelodion poteli gwin yn dyddio’n ôl i’r 1600au – daeth y gorffennol yn fyw i griw o bobl ifanc Abertawe ar 17 Medi wrth iddynt chwilota am ‘drysor’ ym Mae Abertawe.

 

Y digwyddiad hwn oedd y cyntaf mewn cyfres o weithgareddau gan Amgueddfa Abertawe fel rhan o’u project newydd ‘Trysorau Coll Bae Abertawe’. Mae’r project wedi’i ysbrydoli gan ychwanegiadau newydd at gasgliadau archaeoleg yr amgueddfa, gafodd eu darganfod gan bobl yn defnyddio ddatgelyddion metel yn y bae, ac sy’n cynnwys offer o’r Oes Efydd a bathodynnau pererindod canoloesol fydd yn cael eu harddangos y flwyddyn nesaf.

 

Yn arwain y chwilota roedd Paul Huckfield o Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent, ac roedd dros 40 aelod o’r Clwb Archaeolegwyr Ifanc lleol yn bresennol, yn ogystal â Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc Canolfan Dylan Thomas, rhieni, defnyddwyr ddatgelyddion metel a staff amgueddfa.

 

Bu’r criw yn rhyfeddu at weddillion coed cynhanesyddol a hen longddrylliadau, gan lwyddo hefyd i gasglu pob math o wrthrychau diddorol. Bydd yr eitemau hyn yn cael eu golchi yn yr amgueddfa a’u cofnodi gan y Clwb Archaeolegwyr Ifanc, sy’n cyfarfod yn yr amgueddfa unwaith y mis.

 

Dywedodd Rhianydd Biebrach, Swyddog Project Saving Treasures; Telling Stories yn Amgueddfa Cymru: “Mae’n wych bod gan bobl Abertawe'r cyfle hwn i ddod i weld y dreftadaeth sy’n llythrennol o dan eu traed ym Mae Abertawe. Mae gweld yr holl eitemau a gollwyd gan bobl Abertawe dros y canrifoedd yn pwysleisio faint o brysurdeb sydd wedi bod yn yr ardal hon ac yn datgelu llawer am fywydau’r rhai fu yma o’n blaenau. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld Amgueddfa Abertawe a’r project Trysorau Coll yn dod â’r eitemau hyn yn fyw dros y misoedd nesaf.”

 

Bydd y project Trysorau Coll Bae Abertawe yn parhau tan haf 2017. Caiff ei ariannu gan broject Saving Treasures; Telling Stories, partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru a’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru, a gefnogir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

 

I wybod mwy am y Clwb Archaeolegwyr Ifanc neu Sgwad Sgwennu Pobl Ifanc Abertawe ewch i http://www.yac-uk.org/clubs/glamorgan, a http://www.dylanthomas.com/cy/allgymorth-a-dysgu/sgwad-sgwennu-pobl-ifanc-abertawe/

 

Mae amgueddfeydd ledled Cymru yn dathlu a hyrwyddo digwyddiad diwylliannol nodedig yng Nghymru yr wythnos hon, sef ail Ŵyl Amgueddfeydd Cymru rhwng 22 - 30 Hydref. Fe fydd dros 100 o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ar gael i’r teulu oll, o hwylnosau, sgyrsiau, teithiau cerdded, helfeydd a sesiynau trin a thrafod i gloddio archeolegol, ailactio, gwisgo gwahanol ddillad, te parti a gweithgareddau yn seiliedig ar Nos Galan.

 

Fe gewch wybod pa ddigwyddiadau ac arddangosfeydd sydd ymlaen drwy fynd i www.amgueddfeydd.cymru.