Datganiadau i'r Wasg

Dyfarnu gwobr Richard Hamilton i Amgueddfa Cymru yn Efrog Newydd

Cyflwynwyd gwobr Richard Hamilton i Amgueddfa Cymru ddoe (dydd Iau, 3 Tachwedd 2016), mewn ffair celf ryngwladol celf  yn Efrog Newydd (The International Fine Print Dealers Association (IFPDA) Print Fair). Rhoddwyd $ 10,000 i’w wario ar un neu fwy o brintiau celf o unrhyw gyfnod.

Amgueddfa Cymru yw’r ail amgueddfa erioed i ennill y wobr a enwyd ar ôl yr artist enwog Richard Hamilton - yr arloeswr celf Pop Brydeinig. Enillwyd y wobr, a noddwyd gan Champion & Partners, yn y gorffennol gan Amgueddfa Gelf Cincinnati (2015), Amgueddfa Gelf Portland (2014), yr Amgueddfa Brydeinig (2013) ac Amgueddfa Gelf Philadelphia (2012).

Mae'r wobr, a sefydlwyd yn 2012, yn darparu hyd at $ 10,000 i gefnogi caffaeliad gan amgueddfa yn Ffair IFPDA o un neu fwy o brintiau o unrhyw gyfnod cyn diwedd y ffair.

Bydd y wobr yn galluogi Amgueddfa Cymru i barhau i ddatblygu eu casgliad. Dywedodd Uwch Guradur Printiau a Darluniau Amgueddfa Cymru, Beth McIntyre:

"Rwy'n hynod falch bod Amgueddfa Cymru wedi cael ei hanrhydeddu â Gwobr Richard Hamilton. Bydd y wobr yn galluogi'r Amgueddfa i barhau i ddatblygu'r casgliad o brintiau a chyflawni ein nod bwysig o roi mynediad i weithiau celf o safon ryngwladol i bobl yng Nghymru."

Ychwanegodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol:

"Mae hwn yn gamp fawr, nid yn unig ar gyfer ein curadur Beth McIntyre ac Amgueddfa Cymru, ond ar gyfer Cymru a'r DU. Unwaith eto, dyma gyfle i arddangos safon casgliad celf Cymru i'r Byd ac yn ychwanegu at gyfoeth y casgliad drwy wobr mor bwysig. Rhaid i mi ddiolch i’r rhai sy'n gyfrifol am ddewis Amgueddfa Cymru a Champion & Partners am ganiatáu cyfle i ni dyfu ein casgliad pwysig o gelfyddyd gain.”

Mae'r casgliad celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn cynnwys tua 40,000 o weithiau ar bapur. Mae'r rhain yn cynnwys dyfrlliwiau, lluniadau, printiau, llyfrau braslunio ac albymau. Mae'n gasgliad eang ei sail, yn amrywio o brintiau gan Rembrandt a Picasso i luniau dyfrlliw gan Cézanne a Turner a darluniau gan Burne-Jones a David Nash.