Datganiadau i'r Wasg

£275k o hwb ychwanegol i Amgueddfa Cymru

O gelf Tsieineaidd i ddeinosoriaid bach, hebogiaid tramor a chasgliadau hygyrch ar-lein – caiff ymwelwyr saith Amgueddfa Cymru fanteisio ar beth wmbreth o fentrau newydd y flwyddyn nesaf, diolch i nawdd hael chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

Mae tîm Datblygu’r Amgueddfa, dan arweinyddiaeth y Cyfarwyddwr newydd, Richard Nicholls, wedi cadarnhau y bydd y loteri elusennol yn rhoi £275k tuag at ein rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd yn 2017.

 

Bydd cyfran o’r arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer arddangosfa newydd sbon i deuluoedd, Disgwyl Deinosoriaid, (27 Mai - 5 Tachwedd 2017) yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Dyma gyfle prin i gael cipolwg cyffrous ar fywyd teuluol y deinosoriaid trwy eu hwyau, nythod ac embryonau.

 

Hefyd, yn y gwanwyn byddwn yn lansio Casgliadau Ar-lein Amgueddfa Cymru, sy’n digwydd diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery. Bydd yn cynnwys dros 500,000 o gofnodion o gasgliadau’r Amgueddfa ac yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer unrhyw un sy’n creu deunyddiau dysgu, sy’n astudio, neu sydd â diddordeb mewn projectau celf neu ddiwylliant. 

 

Mae chwaraewyr y People’s Postcode Lottery wedi rhoi eu cefnogaeth hael i Amgueddfa Cymru ers 2013. Mae’r loteri elusennol yn cyfrannu at y rhaglen cyhoeddus, ond mae hefyd yn ein galluogi i ddatblygu’r gwaith sydd eisoes ar y gweill i gynorthwyo ymwelwyr - a phlant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gael eu hallgau o fyd addysg ffurfiol yn benodol - i feithrin sgiliau newydd, magu hunanhyder, a chael profiadau fydd yn codi eu golygon ac yn eu helpu i chwilio am ragor o gyfleoedd ym myd addysg a gwaith.

 

Dechreuodd Richard Nicholls yn ei rôl newydd yn Gyfarwyddwr Datblygu Amgueddfa Cymru ym mis Awst, yn dilyn pum mlynedd yn Gyfarwyddwr Adnoddau Incwm gydag Age Cymru. Cyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr Cynhyrchu Incwm Tenovus Cancer Care ac yn Bennaeth Rhoddion Mawr/Pennaeth Datblygu a Pherthynas ag Alumni ym Mhrifysgol Lerpwl. Meddai:

“Mae’r sialensiau ariannol sy’n wynebu cyrff y sector cyhoeddus, fel yr Amgueddfa, yn amlwg. Dyma pam mae nawdd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery yn hollbwysig os ydym am gynnal safon ein gwasanaethau a’r rhaglen amrywiol y mae ein hymwelwyr yn eu disgwyl.

 

“Mae’r People’s Postcode Lottery wedi bod yn gefnogwyr brwd ohonom ers blynyddoedd, ac rydym yn gwerthfawrogi’u cefnogaeth yn fawr. Mae’r tîm Datblygu wedi gwneud gwaith gwych yn datblygu’r bartneriaeth dros nifer o flynyddoedd.”

 

Fel Cyfarwyddwr Datblygu, bydd blaenoriaethau Richard yn cynnwys ysbrydoli cefnogwyr i gyrraedd lefel newydd o gefnogaeth, cynyddu aelodaeth a datblygu hyfforddiant codi arian i staff.