Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn prynu tirlun Cyn-Raffaëlaidd Cymreig

Mae Amgueddfa Cymru wedi prynu gwaith Cyn-Raffaëlaidd pwysig o olygfa yng ngogledd Cymru, diolch i gefnogaeth y Gronfa Gelf a noddwyr preifat. Mae Traethellau Mawddach, Abermaw gan John Ingle Lee a baentiwyd ym 1863-4 yn enghraifft wych o dirlun Cymreig o Oes Fictoria.

Golygfa ddramatig o aber afon Mawddach, i’r de o Barc Cenedlaethol Eryri, yw’r paentiad olew. Mae’n edrych tua’r dwyrain a’r tir mawr o gyfeiriad y Llwybr Panorama, golygfan ger Abermaw.

Prin iawn yw’r gweithiau gan John Ingle Lee (1839-1882) sydd wedi goroesi, ac eto mae ei weithiau celf yn dod yn fwyfwy adnabyddus a phoblogaidd. Dyma weithiau artist ifanc o Lerpwl a ymdaflodd ei hun i’r byd Cyn-Raffaëlaidd pan oedd y mudiad ar ei anterth.

Ganwyd John Ingle Lee ym 1839, y pumed o saith o blant. Dan reolaeth ei ddau frawd hŷn, tyfodd busnes y teulu, George Henry Lee, i fod yn un o siopau mawr Lerpwl. Arddangosodd John ei waith am y tro cyntaf yn Academi Lerpwl ym 1859, ac o 1863 ymlaen, bu’n arddangos yn rheolaidd yn yr Academi Frenhinol yn Llundain. Er ei fod braidd yn ifanc o bosibl ar gyfer arddangosfeydd Cyn-Raffaëlaidd pwysig 1857, does dim dwywaith fod ei weithiau uchelgeisiol, gan gynnwys ei waith mwyaf adnabyddus Sweethearts and Wives (sydd i’w weld yn Oriel Gelf Walker) yn cyd-fynd â thechnegau a syniadaeth y Cyn-Raffaëliaid yn llwyr.

Ystyrir Llwybr Panorama, dafliad carreg o Abermaw, ymhlith golygfeydd godidocaf Cymru. Gwelir holl ehangder di-ben-draw'r aber ar unwaith. Mae’r paentiad hwn yn cyfleu’r effaith honno i’r dim. Gwelir llethrau serth Cader Idris ar y gorwel a chymylau tywyll yn cuddio’i chopa. Mae’r cymylau hefyd yn fantell symudliw ar yr olygfa, a’r golau’n dawnsio dros ddyfroedd a thraethellau newidiol yr aber.

Meddai Andrew Renton, Ceidwad Celf, Amgueddfa Cymru:

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r Gronfa Gelf a’r noddwyr preifat – hebddyn nhw a’u cymorth hael, ni fyddai wedi bod yn bosibl i ni brynu’r gwaith.

“Mae’n ychwanegiad pwysig at gasgliad arobryn Amgueddfa Cymru o dirluniau Cymreig. Mae hefyd yn portreadu golygfa eiconig sy’n bwysig mewn hanes celf a diwylliant llenyddol Cymru, ac mae’n ddatganiad cadarn am ran Cymru mewn celf Oes Fictoria a’r Cyn-Raffaëliaid.

“Er bod gan Amgueddfa Cymru gasgliadau helaeth o olygfeydd y ddeunawfed ac ugeinfed ganrif o ogledd Cymru, nid oes cynrychiolaeth ddigonol o dirluniau Oes Fictoria. Roedd yn gyfnod hollbwysig yn natblygiad y genre. Yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda mwy a mwy o bobl yn teithio i lefydd anghysbell ar drenau neu gerbydau, roedd Lee yn un o’r nifer gynyddol o artistiaid oedd yn gadael cadarnleoedd diwydiannol Lerpwl, Manceinion, Birmingham a’u tebyg am diroedd gwyllt a naturiol gogledd-orllewin Cymru.

“Denwyd llawer ohonynt at fynyddoedd Eryri, a dilynodd John Ingle Lee ôl troed artistiaid ac awduron mawr Prydain i’r ardal. Ymhlith yr enwogion eraill i gyrraedd a chofnodi aber afon Mawddach oedd Richard Wilson, John Varley a John Sell Cotman.

“Mae Traethellau Mawddach, Abermaw yn dangos parhad y mudiad hwnnw ar wawr yr oes ddiwydiannol.”

Meddai Stephen Deuchar, cyfarwyddwr y Gronfa Gelf: “Oherwydd hanes a chynnwys y paentiad hwn, mae’n gaffaeliad cwbl addas i Amgueddfa Cymru, ac rydym yn falch iawn o fod wedi gallu helpu. Bydd yn bleser ei weld ochr yn ochr â gweithiau eraill o gasgliadau’r Amgueddfa sy’n cyfleu harddwch digyfaddawd tirwedd Cymru.

Mae’r paentiad olew i’w weld yn orielau celf Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Yno, cewch weld enghreifftiau pwysig eraill o gelf Gyn-Raffaëlaidd, yn ogystal ag artistiaid tirluniau eraill yr oes.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe. Mae mynediad i bob amgueddfa yn rhad ac am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.

 

DIWEDD

 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Lleucu Cooke ar (029) 2057 3175 neu lleucu.cooke@amgueddfacymru.ac.uk.