Datganiadau i'r Wasg

Bydd cannoedd o fodelau gwych yn ganolbwynt i’r arddangosfa Ceir Model Oxford yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Oxford Diecast: Taith Trwy Amser

Y Wagen Reilffordd

Mini Cooper - Oxford Diecast

Ar un cyfnod, roedd ceir Corgi yn llenwi hosanau Nadolig plant o bob cwr. Nawr, mae rhai o’r teganau eiconig hyn – gafodd eu gwneud yn Abertawe – i’w gweld mewn arddangosfa arbennig yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Bydd cannoedd o fodelau gwych yn ganolbwynt i’r arddangosfa newydd dros gyfnod y Nadolig, fydd yn edrych ar hanes a chynnyrch Oxford Diecast. Mae’r cwmni, sydd â’i bencadlys yn Abertawe, yn allforio’r ceir bach i bedwar ban byd.

Sefydlwyd Oxford Diecast ym 1993, o weddillion cwmni Mettoy, fu’n cynhyrchu ceir Corgi (ymysg pethau eraill) yn Abertawe o’r 1940au ymlaen. Daw’r enw Corgi o’r ci Cymreig eiconig.

Yn ei anterth, roedd Mettoy yn cyflogi 3,500 o weithwyr yn Abertawe, ac roedd yn wneuthurwr pwysig gan gynhyrchu eitemau plastig a thunplat, ynghyd â’r ceir bach. Yn y blynyddoedd cynnar, roedd yn cynhyrchu mecanwaith ar gyfer grenâd llaw, raseli, rhannau ceir - hyd yn oed peli troed i’w defnyddio yn Wembley.

Erbyn heddiw, mae cwmni Oxford Diecast yn perthyn i Lyndon Davies, ddechreuodd gyda Mettoy yn y 1970au pan oedd yn 16 oed, gan ddod i wybod am bob agwedd ar y gwaith. Wedi i Mettoy ddioddef trafferthion ariannol yn y 1980au, cychwynnodd Lyndon a dau gydweithiwr eu cwmni eu hunain, gan sefydlu Oxford Diecast ym 1993.

Erbyn hyn maent yn cynhyrchu dros 400 math newydd o fodel bob blwyddyn, gyda thryciau, awyrennau, bysiau a cherbydau’r fyddin ochr yn ochr â’r ceir. Mae’r casgliad hyd yn oed yn cynnwys model o stondin cŵn poeth a lorri eiconig y cwmni Coca Cola.

Y curadur Ian Smith fu’n gyfrifol am gasglu’r eitemau ynghyd, ac mae’n dweud y bydd yr arddangosfa yn cynnwys modelau hen a newydd, o’r Corgi olaf i gael ei gynhyrchu yn Abertawe i’r modelau Oxford newydd: “Mae Oxford Diecast yn gwmni Cymreig sydd wedi llwyddo mewn marchnad fyd-eang. Caiff safon a chywirdeb modelau Oxford eu parchu dros y byd. Bydd yr arddangosfa yn apelio at bob oed, o blant i gasglwyr modelau ac unrhyw un, fel fi, sydd ag atgofion melys o chwarae gyda theganau Corgi. Mae’r Aston Martin James Bond, gyda’r sedd sy’n neidio allan, yn dal gen i!”

Mae prif swyddfa Oxford Diecast yn dal i fod yn Abertawe, ac mae llawer o’r gwaith dylunio yn dal i ddigwydd yma.

Dywedodd Lyndon Davies: “Mae Oxford wedi bod yn adeiladu’r brand yn ddiwyd dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Mae’r casgliad yn cynnwys ceir, ond hefyd tryciau, awyrennau ac, yn fwy diweddar, locomotifau symudol. Rydym yn gweithio gyda llawer o wneuthurwyr ceir blaenllaw wrth ddatblygu eitemau newydd, o Rolls Royce i Land Rover. O’n canolfan ddosbarthu yn Abertawe, rydym yn allforio cynnyrch i bedwar ban byd. Mae tasg anferth yn wynebu ein tîm yn Abertawe wrth geisio cynnal lefel y cynnyrch newydd wrth i ni ehangu i feysydd newydd. Bydd yn wych cael y cyfle i arddangos rhai o’n modelau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Bydd yr arddangosfa i’w gweld o 17 Rhagfyr tan 29 Ionawr.