Datganiadau i'r Wasg

Ap straeon newydd yn dod â Sain Ffagan yn fyw

Ers dros 70 mlynedd, mae miloedd o ymwelwyr wedi mwynhau crwydro tiroedd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Bellach, gall ymwelwyr hen a newydd gael blas gwahanol ar yr Amgueddfa diolch i ap newydd. Mae Olion yn mynd â’r defnyddiwr ar daith drwy erddi castell Sain Ffagan, drwy ffaith a ffuglen ac o’r gorffennol i’r presennol.

Partneriaeth yw menter Olion rhwng Amgueddfa Cymru, Prifysgol Caerdydd a yello brick, cwmni marchnata a chreu gemau stryd wedi’i leoli ym Mae Caerdydd.

 

Lluniwyd y rhaglen i’w defnyddio yn ystod oriau agor arferol Sain Ffagan. Mae’n para 30 munud, wedi’i rhannu’n bedair pennod, a gall gael ei mwynhau gan unigolyn neu fesul pâr. Gan dynnu ar ddeunydd o archifau’r Amgueddfa mae’r stori yn adrodd hanes cymeriadau allai fod wedi cael eu gweld yn crwydro’r castell a’r gerddi yn nechrau’r ugeinfed ganrif.

 

Dywedodd Dafydd James, Pennaeth Cyfryngau Digidol, Amgueddfa Cymru:

 

“Mae’n bleser cael cydweithio â Phrifysgol Caerdydd a yello brick i gynnig rhywbeth newydd i ymwelwyr â’r Amgueddfa.

 

“Mae’r dehongliad creadigol hwn yn herio ymwelwyr i ymwneud â Sain Ffagan mewn modd gwahanol ac i ddianc rhag prysurdeb bywyd bob dydd i fwynhau stori yn nhawelwch gerddi hanesyddol y castell. Rydyn ni’n gobeithio’n fawr y bydd yn dal dychymyg ein hymwelwyr.”

 

Meddai Dr Jenny Kidd, Uwch Ddarlithydd, Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd:

 

“Rydyn ni wrth ein bodd yn lansio Traces/Olion, penllanw partneriaeth dros nifer o flynyddoedd rhwng yello brick, Amgueddfa Cymru a Phrifysgol Caerdydd.

 

“Mae diddordeb y cyhoedd mewn amgueddfeydd a lleoliadau treftadaeth, eu hymddiriedaeth ohonynt, a’u hoffter o leoliadau fel Sain Ffagan yn parhau yn uchel. Mae Traces/Olion yn gyfle unigryw i ymwelwyr brofi, ac efallai i deimlo, rhywbeth gwahanol ar dir Sain Ffagan. Mae gennym ddiddordeb ym mhotensial profiadau treftadaeth o’r fath i esgor ar fathau gwahanol o berthynas rhwng pobl a lleoedd.”

 

Bydd angen clustffonau a dyfais symudol sydd a system weithredu diweddaraf ar gyfer

Apple a Android. Gall olion gael ei lawrlwytho o’r Siop iTunes neu Google Play. Rydym yn argymell lawrlwytho’r ap rhad ac am ddim cyn cyrraedd Sain Ffagan, ac nid oes angen cyswllt rhwydwaith tra’n ei ddefnyddio.

 

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

 

Diwedd