Datganiadau i'r Wasg

Diwrnod o Hwyl y Nadolig

Yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol, Caerdydd
11 Rhagfyr 2004
11.30am–4.30pm

Mwynhewch yr ŵyl gyda diwrnod llawn hwyl y Nadolig yn rhad ac am ddim yn yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol.

  • Straeon o'r Lein Ddillad — bydd On the Other Hand Puppet Theatre Company yn perfformio sioe bypedau hudol sy'n edrych ar thema ailgylchu drwy stori Esgimo sy'n taflu sbwriel a stori Horace y bin sbwriel unig.
  • Cerddoriaeth dymhorol gan bumawd pres o'r Coleg Cerdd a Drama Brenhinol
  • Cynlluniwch eich cerdyn Nadolig eich hun ar sail tirluniau gaeafol Turner sydd i'w gweld yn yr arddangosfa Turner yn y Gogledd, 1799
  • Gwrando ar straeon y Nadolig yn Gymraeg a Saesneg a'u gweld nhw'n dod yn fyw
  • The Flying Buttresses — dewch i gwrdd â'r ddau byped bach hyn gyda chymeriadau mawr
  • Gwestai arbennig — Siôn Corn

Bydd mins peis a gwin gaeaf ar werth yn siop goffi a bwyty'r amgueddfa hefyd.