Datganiadau i'r Wasg

20 Mlynedd o Drysor

Mae dau ddarganfyddiad o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer o 20 darganfyddiad trysor pwysicaf y Deyrnas Unedig. I ddathlu 20 mlynedd ers cyflwyno’r Ddeddf Trysor ym 1996, mae’r Sunday Telegraph yn annog y cyhoedd i bleidleisio dros eu hoff drysor o’r rhestr.

Celc o 199 ceiniog arian a ddarganfuwyd yn y Fenni yw’r eitem gyntaf o Gymru. Mae’n dyddio’n ôl i 1066-87, sef dyddiau cynnar ymosodiadau’r Normaniaid ar Gymru o dan William I (‘Gwilym Goncwerwr'). Collwyd neu guddiwyd y darnau arian mewn bag brethyn ar ôl 1080. Byddent wedi bod gyfystyr â sawl mis o gyflog ar gyfer y rhan fwyaf o bobl yn ystod y cyfnod. Mae’n gelc unigryw o orllewin Prydain ar gyfer y cyfnod.

Safle yw’r ail ddarganfyddiad o Gymru, yn hytrach nag un grŵp o wrthrychau. Cafodd y man gwledda ac anheddiad cynhanesyddol ei ddadorchuddio yn Llan-faes, Bro Morgannwg.

Yn 2003, daeth Steve McGrory ac Anton Jones ar draws grŵp o fwyeill a chrochanau efydd prin ym Mro Morgannwg, a’u hadrodd i’r Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru (PAS Cymru). Cafwyd archwiliad cynnar o’r safle gan Amgueddfa Cymru, ac yna daeth yn safle cloddio pwysig ac yn broject archaeoleg cymunedol. Mae hyn wedi dadorchuddio tomen wledda anhygoel o’r Oes Haearn, yn cynnwys miloedd o esgyrn moch, llestri gwledda a bwyeill.

Mae'r safle yn cynnwys amrywiaeth o eitemau annisgwyl gan gynnwys pennau bwyeill o'r Oes Efydd o ogledd Ffrainc a nifer fawr o esgyrn moch. Un darganfyddiad arbennig o anarferol oedd dant siarc mawr gwyn, sydd wedi drysu archaeolegwyr. Cyn hyn, nid oedd unrhyw nodweddion archaeolegol hysbys yma. Mae'r safle byrhoedlog hwn a'i storïau cyfoethog wedi cael eu datgelu trwy ymchwil pellach yn dilyn yr hyn a adroddwyd i PAS Cymru.

Y Ddeddf Trysor, a ddaeth i rym ym mis Medi 1997, yw’r prif fecanwaith sy’n galluogi i drysor a ddarganfyddir gan y cyhoedd gael ei gaffael gan amgueddfeydd er budd y cyhoedd. Gall eitemau sy’n cael eu darganfod ac nad ydynt yn drysor hefyd gael eu cofnodi ar sail wirfoddol drwy PAS Cymru.

Partneriaeth yw Trysor 20 rhwng yr Amgueddfa Brydeinig, The Telegraph ac amgueddfeydd ar draws y wlad. Mae'r project yn dathlu'r holl drysor a ddarganfuwyd yng Nghymru a Lloegr yn yr 20 mlynedd ddiwethaf a’u cyfraniad tuag at ein dealltwriaeth ni o’n gorffennol.


http://www.telegraph.co.uk/wellbeing/mood-and-mind/treasure-20-vote-favourite/


#treasure20