Datganiadau i'r Wasg

Casgliad Ffotograffiaeth David Hurn yn cael ei roi i Amgueddfa Cymru

David Hurn yw un o ffotograffwyr dogfennol mwyaf dylanwadol Prydain. Ac yntau bellach yn byw ac yn gweithio yma yng Nghymru, mae wedi dychwelyd at ei wreiddiau Cymreig – ac yma y bydd ei gasgliad o ffotograffau’n aros diolch i’w rodd hael.

Mae David Hurn, y ffotograffydd Magnum, wedi rhoi casgliad mawr o ffotograffau i Amgueddfa Cymru. Mae’r casgliad yn rhannu’n ddwy ran, sef tua 1,500 o’i ffotograffau ef ei hun sy’n cwmpasu ei yrfa drigain mlynedd a mwy; a thua 700 o ffotograffau gan ffotograffwyr eraill o’i gasgliad preifat. 

Bydd detholiad o ffotograffau o gasgliad preifat David yn cael eu harddangos am y tro cyntaf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 30 Medi 2017 ymlaen. Bydd Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn yn lansio oriel ffotograffiaeth newydd.

Ffrwyth chwe degawd a mwy o gasglu yw casgliad preifat David o ffotograffau, a gafodd yn bennaf trwy gyfnewid llun am lun â’i gyd-ffotograffwyr, lawer ohonynt yn gydweithwyr iddo yng nghwmni Magnum. Trwy hynny, mae wedi creu casgliad pwysig ac amrywiol sy’n cynnwys gweithiau gan ffotograffwyr blaenllaw’r 20fed a’r 21ain ganrif, megis Henri Cartier Bresson, Eve Arnold, Sergio Larrain, Bill Brandt, Martine Franck, Bruce Davidson a Martin Parr, a ffotograffwyr sy’n dod yn amlycach megis Bieke Deporter, Clementine Schneidermann a Diana Markosian.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae David wedi bod yn dewis ffotograffau o’i archif ef ei hun sy’n ddetholiad o waith ei oes. Mae’r casgliad o tua 1,500 o brintiau newydd yn cynnwys gwaith a wnaed yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Iwerddon, Arizona, Califfornia ac Efrog Newydd. Hefyd yn y casgliad mae rhai o’i ffotograffau enwocaf, fel Dawns y Frenhines Charlotte, Barbarella a Grosvenor Square. Fodd bynnag, ei ffotograffau craff a gofalus o Gymru yw prif ffocws y casgliad. Yn dilyn rhodd hael David, Amgueddfa Cymru yw ceidwad y casgliad mwyaf o’i luniau yn y byd.

Meddai David, “Fy atgofion gweledol/diwylliannol cynharaf yw ymweld â’r Amgueddfa pan oeddwn i’n bedair neu’n bump oed. Dwi’n cofio’r cerflun drwg, y Gusan gan Rodin, a chasys yn llawn stwff oedd pobl wedi ei roi. Wel, bellach mae gen i gyfle i dalu rhywbeth yn ôl – bydd rhywbeth gen i yno am byth. Mae’n fraint o’r mwyaf.”

Mae casgliadau ffotograffau cyfredol Amgueddfa Cymru’n unigryw am eu bod yn cwmpasu cynifer o feysydd a phynciau, gan gynnwys celf, hanes cymdeithasol a diwydiannol a’r gwyddorau naturiol. Mae hefyd yn cynnwys ffotograffau pwysig iawn, fel rhai o’r ffotograffau cynharaf i gael eu tynnu yng Nghymru gan y ffotograffydd arloesol John Dillwyn Llewelyn a’i deulu. Bydd rhodd David yn gweddnewid casgliadau ffotograffiaeth yr Amgueddfa ac yn creu cyfleoedd cyffrous i ehangu’r casgliadau mewn ffyrdd newydd.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Bydd y rhodd hynod hon gan David Hurn yn codi proffil Amgueddfa Cymru gan ei sefydlu’n ganolfan bwysig ym maes ffotograffiaeth – yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Rydym yn gwybod fod gan ein hymwelwyr ddiddordeb mewn ffotograffiaeth a bydd ein harddangosfa ym mis Medi yn lansio oriel ffotograffiaeth gyntaf yr Amgueddfa.

“Rydym yn hynod ddiolchgar i David am ei rodd hael, fydd yn sbardun i raglen ffotograffiaeth bwysig a hanfodol Amgueddfa Cymru, a bydd o fudd i bobl Cymru a thu hwnt.”

Bydd yr arddangosfa yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn dilyn cyflwyniad o waith David Hurn yn Photo London, y digwyddiad ffotograffiaeth rhyngwladol a gynhelir bob blwyddyn yn Somerset House, Llundain. Wedi’i guradu gan Martin Parr a David Hurn, mae arddangosfa Photo London yn dathlu pen-blwydd Magnum Photos yn 70 oed. Bydd David yn trafod ei gasgliad â Martin Parr fel rhan o raglen sgyrsiau Photo London ar ddydd Gwener 19 Mai,  http://photolondon.org/event/david-hurn-in-conversation-with-martin-parr/.

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sydd, at ei gilydd, yn denu tua 1.7 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn. Mae mynediad i bob amgueddfa yn rhad ac am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Dyma nhw:

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
  • Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre
  • Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

 

At ei gilydd, ein hamgueddfeydd ni yw’r corff treftadaeth sy’n denu’r mwyaf o ymwelwyr o blith trigolion Cymru.

Trwy ein hamgueddfeydd a’n casgliadau, ein nod yw ysbrydoli pobl i feithrin eu hunaniaeth a’u lles; i ddarganfod, mwynhau a dysgu’n ddwyieithog a deall lle Cymru yn y byd.

Diwedd