Datganiadau i'r Wasg

Darganfod y deinosor coll yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Wedi dyddiau o chwilio, mae’r deinosor oedd ar droed yng Nghaerdydd wedi ymddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, ac mae’n gyfeillgar wedi’r cyfan, meddai Amgueddfa Cymru.

Dros y penwythnos diwethaf, bu siopwyr a cherddwyr yn helpu i ddatrys dirgelwch y ddelw ddrylliedig o T. H. Thomas (1839–1915) – un o sylfaenwyr Amgueddfa Cymru a’r person cyntaf i ganfod olion deinosor yng Nghymru. Daeth i’r amlwg fod y difrod i’r ddelw, ffenestri siopau wedi torri a’r coprolite (dom deinosor) yng nghanol y ddinas, a’r olion troed a’r faner faluriedig y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, i gyd wedi eu hachosi gan ddeinosor mawr.

 

Mae arbenigwyr yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd wedi cadarnhau fod y deinosor hwn, sydd wedi ymgartrefu yn yr Amgueddfa bellach, yn un cyfeillgar yn edrych ar ôl ei rai bach. Mae’n debyg i’r Dracoraptor - y deinosor Cymreig a ddisgrifiwyd yn wyddonol y llynedd. Roedd Dracoraptor yn un o’r theropodau cigysol cyntaf ac yn heliwr bach heini - ddim llawer mwy na rhyw 70cm o daldra. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod preswylydd newydd yr Amgueddfa yn dipyn mwy o faint.

 

Mae’r deinosor, sydd wedi bod ar hyd a lled Caerdydd ers dydd Iau diwethaf, nawr yn gwahodd y cyhoedd i ymweld ag Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i ddysgu sut fyddai teulu o ddeinosoriaid yn byw miliynau o flynyddoedd yn ôl. Gall ymwelwyr wneud hyn yn arddangosfa newydd yr Amgueddfa, Deinosoriaid yn Deor (27 Mai – 5 Tachwedd 2017), a gefnogir gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

 

Mae’r arddangosfa ryngweithiol, sy’n dod i Gymru am y tro cyntaf ac yn rhan o Flwyddyn Chwedlau Cymru, yn rhoi cyfle i ymwelwyr brofi bywyd teuluol deinosor drwy gyfrwng wyau, nythod ac embryonau. Bydd tri embryo deinosor go iawn i’w gweld o fewn wyau, yn ogystal â replicas wyau, nythod deinosoriaid adnabyddus a sgerbydau o bob cwr o’r byd.

 

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd  y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith:

 

“Yn ystod Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn cysylltu pobl â diwylliant a threftadaeth gyfoethog Cymru trwy greu digwyddiadau a phrofiadau y gallant ymgolli ynddynt. Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi’r rhaglen wych hon o weithgareddau yn arwain at agoriad swyddogol yr arddangosfa newydd, sy’n siŵr o fod yn hynod boblogaidd dros yr haf.

 

“Mae’r deinosor ar grwydr wedi creu tipyn o gynnwrf drwy’r ddinas, a rhwng hynny a draig Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn goruchwylio pethau o ben y Castell a dreigiau Cadw yn cadw golwg ar eu rhai bach yng Nghastell Caerffili, mae’n argoeli i fod yn haf chwedlonol yng Nghymru. Mae partneriaeth ‘Deino-Ddraig’ Cadw ac Amgueddfa Cymru yn cynnig cyfle unigryw i ymwelwyr archwilio hanes daearegol a gorffennol chwedlonol Cymru drwy gyfrwng digwyddiadau hwyliog ac atyniadol.”

 

Y gwneuthurwyr modelau rhyngwladol o Gaerdydd, Specialist Models, sy’n gyfrifol am yr olion traed a modelau a welwyd o gwmpas y ddinas, ac maent wrth eu bodd yn cael gweithio gartref. Bu’r Amgueddfa hefyd yn gweithio’n agos â’r rheolwyr project Sarah Cole Productions fu’n arwain project City of the Unexpected a’r asiantaeth PR lwyddiannus, Working Word.

 

Ychwanegodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

 

“Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi profi rhywbeth arbennig – ymdrech wych gan staff yr Amgueddfa, ar y cyd â chwmnïau lleol, i dynnu sylw at ran annatod o dreftadaeth wych Cymru.

 

“Mae’r deinosoriaid wedi dal dychymyg y cyhoedd ers i’r cyntaf gael ei ddisgrifio’n wyddonol bron i ddwy ganrif yn ôl. Mae ein casgliad ffosilau a deinosoriaid yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn, ac mae gwaith ein curaduron yn sicrhau bod casgliad Cymru, a’n gwybodaeth am y deinosoriaid, yn dal i dyfu.”

 

Bydd arddangosfa Deinosoriaid yn Deor i’w gweld o 27 Mai tan 5 Tachwedd 2017 (10am–4.45pm, mynediad olaf am 4pm). Gallwch brynu tocynnau yn yr Amgueddfa neu drwy ticketlineuk.com (£7 oedolion, £5 gostyngiadau, £3 plant, £17/£13 teuluoedd). Mae mynediad am ddim i blant 3 oed ac iau.

 

Caiff Deinosoriaid yn Deor a’r gweithgareddau diweddar eu cefnogi gan Croeso Cymru drwy’r Gronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth, chwaraewyr y People’s Postcode Lottery, Western Power Distribution a’r SRK.

amgueddfa.cymru/deinoyndeor

#DeinosBach

 

Wedi i ymwelwyr ddarganfod Deinosoriaid yn Deor, gallant barhau ar yr antur drwy fynd ar ôl eu perthynas chwedlonol - y ddraig. 

 
Mae cyfle i deuluoedd ac anturiaethwyr o bob oed gyfarfod dreigiau Cadw, Dewi a Dwynwen a’u dreigiau bach newydd yng Nghastell Caerffili tan ddydd Sul 28 Mai, cyn i Dwynwen eu cymryd ar daith o amgylch Cymru.  

 

Er mwyn dilyn hynt a helynt dreigiau Cadw a gweld lle allwch chi gwrdd â nhw dros yr haf, ewch i wefan Cadw, a rhannu’ch anturiaethau drwy’r hashnod #ChwilioamChwedlau.