Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru’n chwilio am ddylunydd neu grefftwr ar gyfer Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

Yn dilyn seremoni’r cyhoeddiad y bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd yn 2018, mae Amgueddfa Cymru yn barod yn troi ei sylw at seremoni gadeirio Eisteddfod 2018. Bydd Amgueddfa Cymru yn dathlu pen-blwydd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 70 oed yn 2018, ac i nodi’r achlysur bydd y sefydliad cenedlaethol yn noddi’r gadair, a’r wythnos hon mae’n dechrau’r gwaith o benodi dylunydd neu grefftwr i’w chreu.

Mae Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn gartref i grefftau yng Nghymru ers ei sefydlu ym 1948. Mae noddi cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018 yn ddathliad addas ac yn barhad i’r traddodiad hwn o hybu crefftwyr a chrefftau Cymreig.

Mae gan yr Amgueddfa gasgliad helaeth o gadeiriau a deunydd eisteddfodol ac mae ei chasgliadau wedi bod yn ffynhonnell o ysbrydoliaeth i grefftwyr ac artistiaid dros y blynyddoedd. Hoffai’r Amgueddfa weld cynllun i’r Gadair sy’n cysylltu â Sain Ffagan mewn rhyw fodd, efallai wedi’i ysbrydoli gan y casgliadau, yr adeiladau, straeon neu atgofion.

Meddai Nia Williams, Cyfarwyddwr Addysg ac Ymgysylltu Amgueddfa Cymru:

“Rydym yn awyddus i weld y dylunydd neu grefftwr yn creu elfennau o’r Gadair yn Gweithdy, sef adeilad newydd pwrpasol yn Sain Ffagan, fydd yn agor i’r cyhoedd ym mis Gorffennaf. Bydd yr elfen yma yn cynnwys dehongli’r cynllun neu arddangos y broses o greu gydag ymwelwyr i’r Amgueddfa.”

I wneud cais neu am ragor o fanylion, cysylltwch â Sioned Williams (sioned.williams@amgueddfacymru.ac.uk). Y dyddiad cau yw 12pm ar 14 Gorffennaf 2017.

Prifysgol Caerdydd sy’n noddi’r goron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yn y brifddinas y flwyddyn nesaf.

 

Diwedd