Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa Leonardo da Vinci yng Nghaerdydd

Darluniau o’r  Casgliad Brenhinol i’w gweld yn 2019

Ym mis Chwefror 2019, i nodi 500 mlwyddiant marwolaeth Leonardo da Vinci, bydd 12 o ddarluniau gorau meistr y Dadeni o’r Casgliad Brenhinol i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd (1 Chwefror–6 Mai 2019) fel rhan o arddangosfa aml-leoliad ar draws y DU.

Bydd Leonardo da Vinci: Dyn y Darluniau yn gyfle i fwy o bobl nag erioed weld gwaith yr artist rhyfeddol hwn. Bydd 12 darlun sy’n cyfleu amrediad diddordebau Leonardo – paentio, cerflunio, pensaernïaeth, cerddoriaeth, anatomeg, peirianneg, cartograffeg, daeareg a botaneg – i’w gweld yng Nghaerdydd yn ogystal a Belfast, Birmingham, Bryste, Glasgow, Leeds, Lerpwl, Manceinion, Sheffield, Southampton a Sunderland ac un lleoliad arall i’w gadarnhau.

Er ei fod yn uchel ei barch fel paentiwr yn ei ddydd, dim ond tua 20 paentiad a gwblhawyd ganddo. Roedd ganddo enw da fel cerflunydd a phensaer, ond nid oes unrhyw gerflun nag adeilad o’i waith wedi goroesi. Roedd yn beiriannydd sifil a milwrol, a bu’n gweithio gyda Machiavelli ar ddargyfeirio’r afon Arno, ond ni wireddwyd y cynllun. Fel anatomydd, bu’n gyfrifol am ddifynio 30 corff, ond ni chyhoeddwyd ei waith anatomegol arloesol. Bu’n ysgrifennu traethodau ar baentio, dŵr, mecaneg, twf planhigion ac amryw o bynciau eraill, ond ni orffennodd yr un ohonynt. Gyda chymaint o’i waith heb ei wireddu neu wedi’i ddinistrio, felly, mae campau mwyaf Leonardo i’w cael ar ddalenni o bapur.

Mae’r darluniau yn y Casgliad Brenhinol wedi bod yno ers marwolaeth yr artist 500 mlynedd yn ôl, ac maent yn cynnig golwg unigryw ar waith a meddwl Leonardo. Credai’n gryf bod tystiolaeth weledol yn fwy effeithiol na dadleuon academaidd, gan fod delwedd yn cyfleu gwybodaeth yn fwy cywir a chryno na geiriau. Nid oedd yn bwriadu i bobl weld y rhan fwyaf o’r darluniau sydd wedi goroesi – roedd yn darlunio er mwyn datblygu ei syniadau, a chwilio am y deddfau oedd yn sail i’r holl greadigaeth yn ei dyb ef.

Bydd arddangosfeydd Leonardo da Vinci: Dyn y Darluniau yn cynnwys enghreifftiau o’r holl ddeunyddiau darlunio a ddefnyddiwyd gan yr artist, yn cynnwys ysgrifbin ac inc, sialc coch a du, dyfrlliw a phwyntil. Byddant hefyd yn cyflwyno gwybodaeth newydd am arferion gweithio a phrosesau creadigol Leonardo, a gasglwyd trwy waith ymchwil gwyddonol gan ddefnyddio amrediad o dechnegau yn cynnwys delweddu uwchfioled, adlewyrcholeg isgoch a fflwroleuedd pelydr-X. Bydd y canfyddiadau hyn i gyd i’w gweld mewn llyfr newydd arloesol, Leonardo da Vinci: A Closer Look a gyhoeddir gan Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol ym mis Chwefror 2019.

Roedd Leonardo’n defnyddio inc wedi’i wneud o afalau derw a sylffadau haearn, sy’n dryloyw dan olau isgoch, felly roedd modd gweld ei frasluniau mewn sialc du am y tro cyntaf. Dangosodd astudiaeth o’r Dilyw, tua 1517–18 (i gael ei arddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd) fod Leonardo wedi tynnu llun cwlwm chwyrlïog o egni mewn sialc du, o dan batrwm y glaw a’r tonnau.

Y tro diwethaf i weithiau gan Leonardo da Vinci gael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd oedd 2007.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

"Mae’n bleser gennym weithio mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol er mwyn dod â darluniau anhygoel un o feistri’r Dadeni i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

“Mae’n gyffrous cael bod yn rhan o raglen uchelgeisiol fydd yn galluogi i gynulleidfaoedd ledled y DU weld  gwaith Leonardo. Gobeithiaf y bydd ymwelwyr yma yng Nghymru yn achub ar y cyfle i weld y casgliad rhyfeddol hwn o ddarluniau a dysgu mwy am fywyd Leonardo da Vinci.”

Dywedodd Martin Clayton, Pennaeth Printiau a Darluniau, Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol:

“Mae casgliad darluniau Leonardo da Vinci yn un o drysorau’r DU; yn rhyfeddol o hardd ac yn brif ffynhonnell i’n gwybodaeth am yr artist. Ein gobaith yw y bydd cynifer â phosibl o bobl ar draws y DU yn manteisio ar y cyfle gwych hwn i weld y gweithiau, sy’n rhoi cipolwg ar un o feddyliau mawr ein hanes a’i holl gampau.”

Amgueddfa Cymru sy’n rhedeg saith amgueddfa genedlaethol Cymru, sy’n denu cyfanswm o 1.7 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn, gyda mynediad am ddim diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Yr amgueddfeydd unigol yw:

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe
  • Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre
  • Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion

 

Gyda’n gilydd, ni yw sefydliad treftadaeth mwyaf poblogaidd trigolion Cymru.

Ein pwrpas yw defnyddio ein hamgueddfeydd a’n casgliadau i ysbrydoli pobl i feithrin eu hunaniaeth a’u lles, i ddarganfod, mwynhau a dysgu’n ddwyieithog a deall lle Cymru yn y byd.

Diwedd

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Lleucu Cooke, Rheolwr Cyfathrebu, Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 07961223567.

 

Nodiadau i Olygyddion

 

Leonardo da Vinci: Dyn y Darluniau (1 Chwefror–6 Mai 2019)

Arddangosfeydd o 12 darlun yn y lleoliadau canlynol:

 

Birmingham Museum and Art Gallery

Bristol Museum and Art Gallery

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Kelvingrove Art Gallery and Museum, Glasgow

Leeds Art Gallery

Walker Art Gallery, Lerpwl

Manchester Art Gallery

Millennium Gallery, Sheffield

Southampton City Art Gallery

Sunderland Museums and Winter Gardens

Ulster Museum, Belfast

Ac un lleoliad arall i’w gadarnhau

 

Leonardo da Vinci: Dyn y Darluniau (24 Mai–13 Hydref 2019)

Arddangosfa o dros 200 darlun

The Queen's Gallery, Palas Buckingham, Llundain

 

Leonardo da Vinci: Dyn y Darluniau (22 Tachwedd 2019–15 Mawrth 2020)

Arddangosfa o 80 darlun

The Queen's Gallery, Palas Holyroodhouse, Caeredin