Datganiadau i'r Wasg

Dadorchuddio gosodwaith newydd gan Cerith Wyn Evans yng Nghaerdydd

Heddiw, dadorchuddiodd yr artist rhyngwladol adnabyddus Cerith Wyn Evans gerflun neon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Crëwyd Radiant Fold (…the Illuminating Gas) (2017/18) yn arbennig ar gyfer Amgueddfa Cymru, a dyma'r ail rodd a dderbyniwyd drwy gynllun Great Works y Gymdeithas Gelf Gyfoes.  

Cerith Wyn Evans gyda Radiant Fold (...the Illuminating Gas)

Radiant Fold (...the Illuminating Gas) - manylion

 

 

 

 

 

Ysbrydolwyd Radiant Fold (…the Illuminating Gas) gan ffurfiau cyfrin gwaith eiconig Marcel Duchamp, The Bride Stripped Bare by Her Bachelors, Even (1915-23). Mae tair disg wen o neon gwyn llachar yn troi ffurfiau gwreiddiol Duchamp yn wrthrychau tri dimensiwn, ac aml-ddimensiwn. Llywiwyd datblygiad y gwaith gan bensaernïaeth a hanes yr Amgueddfa, ac o'i hongian ar ongl o'r nenfwd mae'n rhagfyrhau persbectif gan orfodi canfyddiadau anghyfarwydd a thorri ar ein rhychwant golwg.

 

Nod y cynllun Great Works, a gefnogir drwy haelioni Sefydliad Sfumato, yw taclo'r prinder o weithiau gan artistiaid blaenllaw o Brydain sydd i'w gweld yn amgueddfeydd y DU dros yr ugain mlynedd diwethaf. Hwn fydd y cerflun neon mawr cyntaf gan Cerith Wyn Evans i'w gaffael gan amgueddfa yn y DU a hynny gan Amgueddfa Cymru – un o'r mannau cyntaf i'r artist brofi celf pan yn blentyn. Caffaeliad cyntaf y cynllun Great Works y llynedd oedd paentiad mawr newydd gan Glenn Brown ar gyfer Oriel Gelf Laing yn Newcastle.

Nicholas Thornton, Pennaeth Celf Gain Amgueddfa Cymru: "Mae Cerith Wyn Evans yn un o artistiaid mwyaf Cymru ac wedi meithrin proffil rhyngwladol diolch i gyfres o arddangosfeydd a gweithiau comisiwn blaenllaw. Roedd y ffaith nad oedd ei waith yn rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru yn ddiffyg y bu'r Amgueddfa yn eiddgar i'w unioni ers blynyddoedd. Roedd cynllun Great Works yn gyfle heb ei ail i gaffael gwaith pwysig gan Cerith wedi'i ddatblygu yn arbennig ar gyfer yr Amgueddfa a'i horielau. Mae Radiant Fold (…the Illuminating Gas) yn gaffaeliad gwych i'r casgliad, a hoffai Amgueddfa Cymru ddiolch i Cerith a'r Gymdeithas Gelf Gyfoes am hwyluso'r broses."

Caroline Douglas, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Gelf Gyfoes: "Mae Cerith Wyn Evans wedi meithrin enw mawr yn rhyngwladol dros y 30 mlynedd diwethaf, ond mae ei gyswllt â Chymru yn dod o'r galon. Mae'n hollol amlwg y dylai Amgueddfa Cymru fod yn gartref i un o'i weithiau blaenllaw. Mae wedi bod yn bleser cydweithio â Cerith a bod yn rhan o'r sgwrs fu'n ymwneud â'r comisiwn hwn. Mae'n bennaf adnabyddus am ei ddefnydd o neon, yn enwedig wedi ei gomisiwn cyffrous ar gyfer Tate Britain yn 2017, ac rwy'n ffyddiog y bydd Radiant Fold (…the Illuminating Gas) yn denu a rhyfeddu cynulleidfaoedd Caerdydd am flynyddoedd i ddod."

Bydd y gwaith yn cael ei arddangos yn Oriel 24 rhwng 10 Mawrth a 2 Medi 2018. 

Am ganrif a mwy mae'r Gymdeithas Gelf Gyfoes wedi cyfeirio cefnogaeth at gelf gyfoes i amgueddfeydd ym mhob cwr o'r DU. Yn ogystal â rhoddion arbennig i'r Tate, gan gynnwys y gweithiau cyntaf gan Picasso, Matisse, Anthony Caro a Damien Hirst i'w caffael gan gasgliadau yn y DU, mae gan y Gymdeithas Gelf Gyfoes wedi bod yn hael eu cefnogaeth i amgueddfeydd rhanbarthol. Caffaelwyd gwaith cyntaf Francis Bacon gan Huddersfield ym 1952, gosodwaith gan Olafur Eliasson gan Eastbourne yn 2003, darn gan Kader Attia gan Athrofa Gelf Fodern Middlesbrough yn 2016 a gosodwaith gan Dineo Seshee Bopape gan Oriel Towner yn Eastbourne yn 2017. Mae Amgueddfa Cymru hefyd wedi derbyn nifer o roddion pwysig gan y Gymdeithas Gelf Gyfoes ers 1910, gan gynnwys gweithiau gan Andrea Büttner, Patrick Caulfield, Henri Gaudier-Brzeska, Duncan Grant, Patrick Heron, John Hoyland a Joan Miró.

Cefnogir y cynllun Great Works gan haelioni Sefydliad Sfumato.

 

– DIWEDD –

NODIADAU I OLYGYDDION

 

Proses ymgeisio Great Works

 

Diben y cynllun Great Works yw galluogi i un amgueddfa neu oriel yn y DU bob blwyddyn brynu un gwaith gan artist blaenllaw o Brydain. Mae hawl gan y saith deg o amgueddfeydd sy'n aelodau o'r Gymdeithas Gelf Gyfoes ymgeisio, ac mae'r mwyafrif y tu allan i Lundain.  Gofynnir i'r ymgeiswyr wneud achos cryf yn esbonio sut y byddai'r caffaeliad o fudd i'w cynulleidfa, i'w gwaith ysgoloriaethol a'u proffil. Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gwneud achos dros gaffael gwaith gan artist sydd â chysylltiad cryf â chasgliadau, lleoliad neu fro y sefydliad.

 

Cerith Wyn Evans

 

Mae gwaith Cerith Wyn Evans yn canolbwyntio ar gyfathrebu syniadau drwy gyfrwng ffurf. Mae'n defnyddio amrywiaeth eang o gyfryngau yn ei waith cysyniadol, gan gynnwys gosodwaith, cerfluniau, ffotograffiaeth, ffilm a thestun. Mae arddangosfa fawr newydd o'i waith yn agor yn Amgueddfa Tamayo, Mexico yn Chwefror 2018. Ymhlith ei arddangosfeydd unigol eraill mae Comisiwn Duveen Tate Britain, Llundain a Haus Konstruktiv, Zurich (2017); Museion Bolzano, yr Eidal (2015); Oriel Sackler y Serpentine, Llundain (2014); TBA-21 Augarten, Vienna (2013); pafiliwn De La Warr, Dwyrain Sussex, y DU (2012); Kunsthall Bergen, Norwy (2011); Tramway, Glasgow (2009); Inverleith House, Caeredin(2009); MUSAC, Leon, Ffrainc (2008); Musée d’art moderne de la ville de Paris (2006) a Kunsthaus Graz (2005). Mae Cerith wedi cyfrannu at nifer o arddangosfeydd grŵp ledled y byd, gan gynnwys Skulptur Projekte Münster, yr Almaen a 57fed Biennale Venice (2017); ‘Moscow Biennial’ (2011); ‘Aichi Triennale’ Nagoya, Japan (2010); ‘Yokohama Triennale’, Japan (2008); ‘Istanbul Biennial’ (2005);a chynrychiolydd Cymru yn 50fed Biennale Venice (2003). 

Mae Cerith Wyn Evans yn byw ac yn gweithio yn Llundain ac yn cael ei gynrychioli gan White Cube, Llundain a Hong Kong.