Datganiadau i'r Wasg
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau - Gwobr Amgueddfa Gysegr gyntaf y DU
Dyddiad:
2018-06-21Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe wedi derbyn Gwobr Amgueddfa Gysegr gyntaf y DU i gydnabod y gwaith y mae'r Amgueddfa yn ei wneud yn croesawu ffoaduriaid a cheiswyr lloches.
Canmolwyd yr Amgueddfa gan banel Abertawe Dinas Noddfa am fynd “y tu hwnt i'r galw i rannu yn y gymuned sut mae ffoaduriaid yn cyfrannu at y gymdeithas ehangach.”
Yn ogystal â hyfforddiant i staff, sydd wedi cynnwys clywed profiadau personol ffoaduriaid, mae'r Amgueddfa wedi cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau i geiswyr lloches.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Cynnal grŵp misol i fenywod
- Cyflwyno gwersi gwnïo ac ysgrifennu creadigol
- Dosbarth ballet i blant sy'n ceisio lloches – rhoddwyd esgidiau a leotardau sbâr gan ysgolion dawns lleol
- Dwy arddangosfa, sef Bwyd o Bedwar Ban ac Ieuenctid, Ymfudwyr, Cymry, gan y Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) a roddodd lais i bobl ifanc oedd yn ymfudwyr cenhedlaeth gyntaf, ail genhedlaeth a thrydedd genhedlaeth, yn ogystal â helpu ymwelwyr â'r Amgueddfa i ddeall eu taith.
Canmolodd panel Abertawe Dinas Noddfa yr Amgueddfa hefyd am greu amgylchedd cynhwysol i ymfudwyr yn ceisio cymorth, a helpu i ddeall yr heriau maent yn eu hwynebu. Abertawe oedd yr ail ddinas yn y DU i ddod yn Ddinas Noddfa, symudiad cenedlaethol sy'n cynnig cysegr a chymorth i'r rhai sy'n ffoi rhag trais neu erledigaeth.
Cyflwynwyd y wobr Amgueddfa Gysegr i Steph Mastoris, Pennaeth yr Amgueddfa, mewn digwyddiad ar 20 Mehefin, ac mae'n ddilys am dair blynedd.
“Ein nod ni yw creu lle croesawgar a chynhwysol i bawb yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, waeth beth fo'u cefndir,” meddai Mr Mastoris. “Nid oes cyfyngiad ar ddiwylliant, a gobeithiwn y gall pawb ddysgu, mwynhau a chyfoethogi ein hamgylchedd pan fyddant yn dod i mewn.”
Ychwanegodd Rebecca Scott, Cydlynydd y project Dinas Noddfa yng Nghymru:
“Pleser yw cydnabod ymdrechion Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe i groesawu a chynnwys ceiswyr lloches yn ei gweithgareddau o ddydd i ddydd, yn ogystal â darparu gweithgareddau ychwanegol sydd wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion ceiswyr lloches a ffoaduriaid. Mae'r ymdrechion hyn yn dangos ffyrdd amryfal y gall unigolion a sefydliadau gyfrannu at wneud Abertawe yn lle croesawgar a diogel i bawb – o staff yn dysgu mwy am faterion sy'n ymwneud â ffoaduriaid a lloches, i gynnig llefydd hygyrch sy’n darparu cyfleoedd celfyddydol a diwylliannol a fyddai fel arall yn rhy ddrud.”