Datganiadau i'r Wasg

LLONG OFOD TIM PEAKE YN GLANIO YNG NGHAERDYDD

  • Bydd taith genedlaethol Llong Ofod Tim Peake a gyflwynir gan Samsung a Science Museum Group yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd rhwng 15 Tachwedd 2018 a 10 Chwefror 2019.
  • Gall ymwelwyr ail-fyw'r daith yn ôl o'r Orsaf Ofod Ryngwladol gyda thechnoleg rithwir.

Bydd y llong ofod a gludodd gofodwr Prydeinig cyntaf yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd i'r Orsaf Ofod Ryngwladol ac yn ôl, yn glanio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar ddydd Iau 15 Tachwedd.

Caiff y capsiwl Soyuz TMA-19M ei arddangos, o gymhlethdod yr offer llywio i olion gorlosg y gwres a gynhyrchwyd wrth ddychwelyd i atmosffer y ddaear, ynghyd â'r parasiwt 25m o led fel rhan o daith genedlaethol a gyflwynir gan y Science Museum Group a'r arloeswyr technolegol rhyngwladol Samsung. Hefyd yn yr arddangosfa bydd siwt ofod argyfwng Sokol KV-2 Tim Peake, antena'r llong, ac arddangosiadau rhyngweithiol am yr Orsaf Ofod Ryngwladol(ISS) a bywyd yn y gofod.

Yn ategu'r llong eiconig bydd rhithdaith Space Descent VR - antur unigryw yn manteisio ar dechnoleg rhithwir Samsung Gear VR. Gyda llais Tim Peake ei hun yn adrodd yr hanes, mae Glaniad Gofod VR yn ail-greu'r daith 250 milltir ryfeddol o'r Orsaf Ofod i'r Ddaear yn y capsiwl Soyuz. Rhaid bod yn 13 oed neu hŷn i fwynhau Glaniad Gofod VR. Gallwch brynu tocynnau ar y diwrnod am £6 y pen.

Cynhelir rhaglen o weithgareddau wedi'u seilio ar alldaith Principia Tim Peake drwy gydol yr arddangosfa, gyda diwrnod arbennig i'r teulu ar 17 Tachwedd a digwyddiad Nadolig arallfydol ar 15 ac 16 Rhagfyr.

Bydd rhaglen allestyn hefyd yn ategu'r daith er mwyn cyrraedd plant mewn ysgolion fydd o bosib yn dilyn trywydd pynciau STEM.

 

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: Rydyn ni'n llawn cyffro wrth groesawu capsiwl Soyuz TMA-19M i Gaerdydd ac i Gymru. Mae'r capsiwl Soyuz yn symbol o un o'n campweithiau technolegol mwyaf, ac mae hwn yn gyfle di-ail i ymwelwyr hen a newydd weld y llong a gludodd Tim Peake nol o’r Orsaf Ofod Ryngwladol.”

 

Dywedodd Ian Blatchford, Cyfarwyddwr y Science Museum Group: "Mae'n anghyffredin i wrthrychau pwysicaf casgliadau mawr Prydain i fynd ar daith i bob cwr o'r ynys. Rydw i wrth fy modd â llwyddiant y daith Soyuz hyd yn hyn ac yn falch y bydd pobl yn cael cyfle i weld yr arteffact rhyfeddol hwn o'n hanes diweddar yn y gofod yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd."

 

 

Dywedodd Kate Beaumont, Cyfarwyddwr Cynnyrch, Gwasanaethau a Strategaeth Fasnachol Samsung Electronics UK & Ireland:

"Mae Samsung yn credu y gall technoleg danio chwilfrydedd a bod yn wir gaffaeliad i ddysgu gydol oes, ac mae'r gofod wrth gwrs yn dal dychymyg pawb. Fel busnes, arloesi a newid yw ein bara menyn, ac at hynny mae angen talent gynyddol amrywiol. Drwy greu profiadau megis Glaniad Gofod gyda'r technoleg Gear VR a'i roi o fewn cyrraedd i ysgolion a chymunedau ar draws y DU, gallwn ysbrydoli pobl ifanc i ymwneud â phynciau STEM.

 

Cludodd y Soyuz TMA-19M y criw o dri, Tim Peake, Yuri Malenchenko a Tim Kopra ar Alldaith 46/47 Asiantaeth Ofod Ewrop i'r ISS ar 15 Rhagfyr 2015, gan ddychwelyd ar 18 Mehefin 2016. Y llynedd, caffaelwyd y capsiwl gan y Science Museum Group.

Wrth drafod y caffaeliad, dywedodd gofodwr Asiantaeth Ofod Ewrop Tim Peake: "Rydych chi'n teimlo cysylltiad agos iawn â'ch llong ofod oherwydd mae'n bendant yn achub eich bywyd. Rydw i wrth fy modd fod fy nghapsiwl Soyuz i, y TMA-19M, yn dychwelyd yn ddiogel i'r DU a gobeithio yn tanio dychymyg y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a pheirianwyr."

Mae gwybodaeth i ymwelwyr a manylion digwyddiadau arbennig, gan gynnwys Glaniad Gofod VR a gweithgareddau ategol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i'w gweld ar wefan yr Amgueddfa www.museum.wales/cardiff (codir tâl ac mae amodau ychwanegol ar gyfer Glaniad Gofod VR).

Llwyddwyd i lwyfannu Space Descent VR a llong ofod Tim Peake diolch i gefnogaeth Samsung a chydweithrediad hael Tim Peake ac Asiantaeth Ofod Ewrop. Bydd rhaglen allestyn hefyd yn ategu'r daith er mwyn cyrraedd plant mewn ysgolion fydd o bosib yn dilyn trywydd pynciau STEM.

 

– DIWEDD –