Datganiadau i'r Wasg

Safle archaeolegol o oes yr haearn yng ngorllewin Cymru

Datganiad gan Amgueddfa Cymru a Cadw

"Ym mis Mawrth 2018, darganfuwyd grŵp o arteffactau metel o oes yr haearn mewn cae yng ngorllewin Cymru. Mae'r rhain bellach yn destun achos trysor parhaus yng Nghymru.


"Cynhaliwyd gwaith cloddio cychwynnol ar y safle dros yr haf, wedi'i ariannu'n rhannol gan Cadw, gan Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed. Datgelodd hyn ddarganfyddiadau arwyddocaol a chyffrous pellach mewn safle archeolegol o oes yr haearn nas gwelwyd o'r blaen.


"Fodd bynnag, bydd angen gwneud gwaith cloddio llawn ar y safle a dadansoddi'r canfyddiad cyn y gallwn ddeall ei bwysigrwydd yn llawn. Mae'r safle bellach yn safle wedi’i diogelu’n gyfreithiol.


"Mae Amgueddfa Cymru yn gweithio gyda'i phartneriaid ar yr achos trysor parhaus hwn ac yn datblygu cynnig ariannol llawn ar gyfer ymchwilio pellach. Bwriedir datblygu project ehangach, i gynnig cyfleoedd i gymunedau lleol ger y man canfod i ymgysylltu â'r darganfyddiad hwn ac i fod yn rhan o’r broses o ddatgelu straeon newydd am eu gorffennol cynhanesyddol."