Datganiadau i'r Wasg

ENILLYDD GWOBR ARTES MUNDI 8

 

Mae Apichatpong Weerasethakul wedi’i ddewis o restr fer o 5 o artistiaid pwysicaf y byd i ennill prif wobr y DU am gelfyddyd gyfoes ryngwladol, Artes Mundi 8.

Cyhoeddwyd Apichatpong Weerasethakul fel enillydd y wobr eilflwydd a’r swm o £40,000 gan y cerddor mawr ei pharch ac enwebai Gwobr Cerddoriaeth Cymru Gwenno mewn seremoni a gynhaliwyd yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a lywyddwyd gan Frances Donovan.

Cyhoeddwyd hefyd enillydd gwobr ar wahân yn sgil pleidlais gan y cyhoedd am y gwaith celf mwyaf poblogaidd yn yr arddangosfa. Dyfarnwyd Gwobr Brynu Ymddiriedolaeth Derek Williams i Anna Boghiguian  a bydd ei gwaith yn awr yn cael ei ychwanegu at gasgliad parhaol Amgueddfa Cymru.  Mae ei gwaith yn ymwneud â’r diwydiant dur, gan symud heibio i’r diwydiant byd-eang anhysbys ac i mewn i fywydau’r cymunedau sydd o’i gwmpas, gan gynnwys Port Talbot, Cymru, gerllaw.

 

Yn ôl enillydd Artes Mundi 8, Apichatpong Weerasethakul, “Mae’n ddiwrnod arbennig iawn. Roeddwn yn barod yn ddiolchgar iawn i fod ar y rhestr fer gyda chyn nifer o artistiaid ysbrydoledig eraill, ond mae ennill y wobr wir wedi fy synnu! Rwy’n gweithio mewn ffordd bersonol iawn a dwi’n ddiolchgar iawn, drwy Artes Mundi, bod modd i’r gwaith gyffwrdd ac ysbrydoli pobl ledled y byd.

 

“Mae ennill gwobr fel hyn yn fy annog i barhau i weithio ac i barhau i ofyn cwestiynau am ein byd ni. Mae Artes Mundi yn ein hatgoffa bod hi’n bwysig i ni fel artistiaid gael y rhyddid i fynd i’r afael â beth mae’n ei olygu i fyw yn y byd heddiw, o safbwynt cymdeithasol a gwleidyddol.”

 

Yn ôl Karen Mackinnon, Cyfarwyddwr Artes Mundi, “Pleser o’r mwyaf i ni yw cyhoeddi Apichatpong Weerasethakul fel enillydd Artes Mundi 8. Yn yr amserau cythryblus yma, mae celfyddyd sy’n mynd i’r afael â phryderon cymdeithasol perthnasol yn cynnig ystyr i’n bywydau; gall herio, addysgu a chysuro. Mae’r holl artistiaid sydd ar y rhestr fer wedi cynhyrchu gwaith neilltuol i arddangosfa Artes Mundi 8 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

 

Dewiswyd Apichatpong Weerasethakul gan y beirniaid eleni oherwydd ei ymagwedd unigryw tuag at ei osodweithiau oriel lle mae’n gofyn cwestiynau taer o ffilm a sinema fel gwaith artistig a diwylliannol estynedig. Drwy ei waith mae’n creu gofod trothwyol lle mai strategaeth wrthsafol radical yw’r dychymyg. Mae a wnelo ei weithiau amlweddog lawn cymaint ag anferthedd y cyflwr dynol ag y maent â gormes gwleidyddol a rhyddid personol. Llongyfarchiadau Apichatpong!”

Mewn datganiad ar y cyd nododd rheithgor Artes Mundi 8, “Roedd tasg ddigon diflas yn wynebu’r beirniaid o gofio’r rhestr fer ragorol o artistiaid yr oedd eu gwaith dros y degawd diwethaf ynghyd â beth oedd ar ddangos yng Nghaerdydd o ansawdd anghyffredin. Trawyd y rheithgor gan gydlyniad y gwaith yn ei grynswth yn ogystal â’r cryfderau unigol.

Pan fydd amserau’n galed, nid yw weithiau’n ddiogel siarad yn rhy agored am wleidyddiaeth ac mae Apichatpong Weerasethakul yn cynnig i ni ambell offeryn cynnil i ddal ein tir; mae methodoleg cuddliw a amlygir yn Invisibility yn arf pwerus yn yr amserau helbulus hyn. Er, yn y gorllewin, fod Weerasethakul yn fwyaf adnabyddus fel cyfarwyddwr ffilmiau hir, dymunai’r rheithgor dalu gwrogaeth i’r ffordd egnïol y mae ei waith oriel yn gofyn cwestiynau taer o wneud ffilmiau, adrodd straeon a sefyllfa wleidyddol a chymdeithasol yr artist.”

 

 

Bydd gwaith Apichatpong Weerasethakul ochr yn ochr â gweithiau’r artistiaid eraill ar y rhestr fer ar ddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 24 Chwefror.