Datganiadau i'r Wasg
Dwy safle Amgueddfa Cymru yn ennill gwobrau twristiaeth anrhydeddus!
Dyddiad:
2019-05-15Mae dwy o safleoedd Amgueddfa Cymru – sef Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan wedi ennill gwobrau twristiaeth nodedig yn ddiweddar am brofiad ymweliad da.

Gwobr CIE - Llechi & Sain Ffagan
Cafodd y gwobrau eu cyflwyno ar ddechrau mis Ebrill mewn seremoni fawreddog yn Glasgow gan y cwmni teithiau bws o Iwerddon, CIE Tours International, sy'n dod ag ymwelwyr i'r Amgueddfeydd bob wythnos. Mae'r cwmni yn cydnabod yn arbennig y darparwyr twristiaeth sy'n perfformio orau yn y DU, gan y 15,000 o ymwelwyr CIE a ddygwyd i'r DU yn 2018 ac sydd wedi cyflawni cyfradd boddhad cwsmeriaid o fwy na 90%.
Bu Amgueddfa Lechi Cymru dderbyn y wobr am y chweched mlynedd yn olynol gyda Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yn cipio’r wobr am y tro cyntaf eleni!
Yn 2018, bu CIE ymweld â 184 o atyniadau a 73 o westai ledled y DU. Atyniadau eraill sydd wedi derbyn y gwobrau yw Tŵr Llundain, man geni Shakespeare a Chastell Caerdydd.
Lansiwyd y gwobrau chwe mlynedd yn ôl, i gyd-fynd â gwobrau'r cwmni yn Iwerddon. Esboniodd Elizabeth Crabill, Prif Weithredwr CIE Tours International:
“Mae ein twf yn y DU yn wych, ac mae'r lefel boddhad uchel yn allweddol i hyn, felly mae'n braf cael cydnabod rhagoriaeth yn ein pumed seremoni wobrwyo. Mae pawb sydd wedi derbyn gwobr yn chwarae rôl bwysig yn croesawu ymwelwyr a sicrhau eu bod yn cael profiad cofiadwy. Mae'r cynnydd yn nifer y gwobrau yn adlewyrchu'r modd y mae darparwyr wedi mabwysiadau ein pwyslais ar safon a'r gwelliant cyffredinol mewn safonau. Mae hyn yn wych i'n cwsmeriaid ni ac i'r diwydiant yn gyffredinol. Mae ein hymwelwyr o Ogledd America yn disgwyl lefelau uchel iawn o wasanaeth ac mae sgôr o 90% gan ein hymwelwyr ni yn dipyn o gamp. Mae'r gwelliant mewn safonau mewn pum mlynedd yn rhyfeddol, ac yn profi fod ymdrechion pobl i sicrhau cynnydd yn talu ar ei ganfed."
Am rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Julie Williams 02920 573707 / julie.williams@amgueddfacymru.ac.uk ( Amgueddfa Lechi Cymru) neu Ellen Davies ( Sain Ffagan) 02920 573486 Ellen.davies@amgueddfacymru.ac.uk neu Ilya Scott, Real PR Ltd 07799 416476 ilya@real-pr.co.uk. ( ar ran CIE tours)
- Capsiwn Llun: Julie Williams, Swyddog Marchnata Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis, Janet Wilding, Pennaeth yr Uned Adeiladau Hanesyddol yn Sain Ffagan a Carys Davies, Swyddog gweinyddol yn Sain Ffagan yn derbyn y wobr CIE gan Elizabeth Crabill, Prof Weithredwraig CIE tours International Ltd.
Nodiadau i olygyddion:
-
Mae'r amgueddfa ar agor bob dydd rhwng 10am - 5pm. Am rhagor o fanylion ewch i'r wefan yn www.amgueddfa.cymru neu cysylltwch â'r amgueddfa ar 02920 573707 llechi@amgueddfacymru.ac.uk. Mae mynediad i'r amgueddfa am ddim, diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Codir tâl bach am rai o'r gweithgareddau.
-
Mae Amgueddfa Lechi Cymru wedi’i Ileoli yng ngweithdai Fictoriadd Diwydiannol a adeiladwyd I gefnogi chwaler lechi Dinoriwg uwchlaw. Erbyn heddiw mae’n dweud stori llechi gogledd Cymru i gyd. Mae mynediad am ddim drwy gefnogaeth LLywodraeth Cynulliad Cymru.
- Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am weinyddu wyth safle ar hyd a lled Cymru
- Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion
- Pwll Mawr / Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon
- Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre
- Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.
- Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis
- Y Ganolfan Gasgliadau Genedlaethol, Nantgarw
CIE tours ydi prif drefnydd blaenllaw teithiau mewnol yr Iwerddon, sydd wedi dod a dros dair miliwn o ymwelwyr o Ogledd America i deithio o amgylch Iwerddon ers sefydlu’r cwmni. Yn y blynyddoedd diweddar, mae CIE wedi ehangu ei gynnig i gynnwys yr Alban a gweddill y DU fel cyrchfan ymweld. Mae nifer o deithiau newydd yn cael eu cyflwyno yn 2018, gan gynnwys un yn cynnwys Ynysoedd Hebrides allanol a’r Gorllewin Gaeleg, ynghyd a thaith deuluol newydd yn y DU a thaith moethus yn yr Alban. www.cietours.com