Datganiadau i'r Wasg

Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn Ennill £100,000 Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019

Cafodd Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ei chyhoeddi fel Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019 neithiwr (3 Gorffennaf 2019), y wobr amgueddfa fwyaf mawreddog yn y byd. Cyflwynwyd y wobr o £100,000 gan yr artist Jeremy Deller, i David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru mewn seremoni yn yr Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain.

Dewiswyd yr enillydd o bum amgueddfa ar y rhestr fer: HMS Caroline (Belfast), Nottingham Contemporary, Amgueddfa Pitt Rivers (Rhydychen), Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru (Caerdydd) a V&A Dundee. Mae pob un o'r amgueddfeydd eraill yn y rownd derfynol yn derbyn gwobr o £10,000.

 

AMGUEDDFA BUDDUGOL

 

Sain Ffagan yw un o atyniadau treftadaeth mwyaf poblogaidd Cymru, sy’n archwilio hanes a diwylliant y wlad. Y llynedd cwblhaodd yr amgueddfa ei phrosiect Creu Hanes, ailddatblygiad gwerth £30 miliwn i fod yn Amgueddfa Hanes Genedlaethol i Cymru, gan agor orielau a gweithdy newydd a thrawsnewid ei phrofiad ymwelwyr. Drwy gydol y datblygiad, parhaodd yr amgueddfa ar agor, gan groesawu 3 miliwn o ymwelwyr i fwynhau tai o'r Oes Haearn a chanolfan grefftau newydd, yn ogystal â chynnwys 720,000 o bobl wth drawsnewidiad yr amgueddfa trwy raglen gyhoeddus ddychmygus. Roedd hyn yn adlewyrchu nod yr amgueddfa o greu hanes 'gyda' yn hytrach na 'dros' bobl Cymru.

 

Mae'r Gronfa Gelf yn gwobrwyo Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn flynyddol i un amgueddfa ragorol, sydd, ym marn y beirniaid, wedi dangos dychymyg, arloesedd a chyflawniad eithriadol dros y 12 mis blaenorol. Dyma'r wobr celfyddydau fwyaf ym Mhrydain a'r wobr amgueddfa fwyaf nodedig yn y byd.

 

Y beirniaid ar gyfer Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf 2019 oedd: David Batchelor, artist; Brenda Emmanus, darlledwr a newyddiadurwr; Bridget McConnell, Prif Weithredwr, Glasgow Life; Bill Sherman, Cyfarwyddwr, Sefydliad Warburg.

 

Dywedodd Stephen Deuchar, Cyfarwyddwr y Gronfa Gelf a chadeirydd y beirniaid:

 

“Mae Sain Ffagan yn byw, yn anadlu ac yn ymgorffori diwylliant a hunaniaeth Cymru. Mae'n gofeb i ddemocratiaeth amgueddfa fodern, ac mae wedi cael ei thrawsnewid trwy brosiect datblygu mawr sy'n cynnwys cyfranogiad uniongyrchol cannoedd o filoedd o ymwelwyr a gwirfoddolwyr, gan roi'r celfyddydau ac adeiladu mewn i gyd-destunau ffres - cymdeithasol a gwleidyddol, hanesyddol a chyfoes. Gwnaed y lle hudol hwn gan bobl Cymru ar gyfer pobl ym mhobman, ac mae'n sefyll fel un o'r amgueddfeydd mwyaf croesawgar a deniadol unrhyw le yn y DU.”

 

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Amgueddfa Cymru:

 

“Mae hawl gan bob dinesydd gymryd rhan mewn diwylliant. Rwy'n falch iawn bod Sain Ffagan wedi cael ei chydnabod gan feirniaid Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf am waith yr Amgueddfa, i roi cyfle i bawb ymgysylltu â diwylliant mewn ffordd ystyrlon.

 

“Diolch i staff yr amgueddfa, a'n holl ymwelwyr, cefnogwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid sydd wedi dod yn rhan o deulu Amgueddfa Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Hebddoch chi, ni fyddai Sain Ffagan yr Amgueddfa y mae hi heddiw.

 

“Credwn y gall sefydliadau diwylliannol fod yn storïwyr gwych. Dyma stori y byddwn yn ei rhannu am flynyddoedd lawer i ddod! Diolch i’r Gronfa Gelf! ”

 

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

"Mae hyn yn newyddion gwych ac yn gydnabyddiaeth ardderchog o waith caled, ymrwymiad a brwdfrydedd staff Amgueddfa Cymru.  Yn sicr, mae wedi bod yn anrhydedd i Lywodraeth Cymru i gefnogi'r Amgueddfa i wireddu ei gweledigaeth ar gyfer Sain Ffagan."