Datganiadau i'r Wasg

Bywyd o dan y cyfyngiadau: Amgueddfa Cymru yn lansio apêl gyhoeddus

Mae Amgueddfa Cymru yn lansio apêl gyhoeddus a phroject arsylwi torfol digidol er mwyn casglu profiadau pobl sy’n byw yng Nghymru yn ystod cyfnod eithriadol Covid-19.

Enfys mewn ffenestr gyda'r geiriau ffydd, gobaith, cariad

Gyda chymorth pobl Cymru, bydd yr Amgueddfa yn creu cofnod a chasgliad cenedlaethol o atgofion o’r pandemig yng Nghymru. Bydd yr apel yn cychwyn ar wefan Amgueddfa Cymru www.amgueddfa.cymru a’i chyfrifon cyfryngau digidol wythnos nesaf fel rhan o #WythnosAmgueddfeydd.

 

Mae gan Amgueddfa Cymru hanes o gofnodi atgofion cenedlaethol Cymru, gan gydnabod fod bywyd pawb yn bwysig. Yn rhan o’r fenter gasglu newydd hon, bydd Amgueddfa Cymru yn lansio holiadur digidol torfol gan wahodd unigolion, cymunedau a sefydliadau ar draws Cymru i gofnodi eu profiadau o fyw dan y cyfyngiadau cyfredol ar symud.

 

Gellid olrhain y dull ymchwil hwn yn ôl i 1937. Yn ystod y cyfnod hwnnw o newid cymdeithasol digynsail (Dirwasgiad y 1930au), lansiodd yr Amgueddfa apêl gyhoeddus ac anfon dros 500 o holiaduron i wirfoddolwyr, cymunedau, sefydliadau ac ysgolion ar draws Cymru. Y dasg oedd cofnodi eu bywydau bob dydd, gan ddefnyddio’u gwybodaeth leol i lywio gwaith casglu’r Amgueddfa yn y dyfodol.

 

Mae archif Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn cynnwys bron i 800 ymateb i’r holiadur hwn, o ddiwedd y 1930au hyd y 1980au, gyda llawer o’r gwirfoddolwyr gwreiddiol yn cadw cofnod o’u bywydau dros ddegawdau.

 

Yn ei lyfr Amgueddfeydd Gwerin / Folk Museums, a gyhoeddwyd ym 1948, disgrifiodd Iorwerth Peate yr angen i amgueddfeydd gasglu diwylliant a hanes cyfoes.

Roedd yn grediniol nad oedd hi’n ddigon i arddangos a chadw’r hyn a fu; roedd hi’n hanfodol eu bod yn olrhain a chofnodi’r hyn a oedd yn digwydd yn y presennol a’r dyfodol.

 

Yn rhan o’r fenter hon, bydd Amgueddfa Cymru yn adeiladu rhwydwaith o gasglwyr cymunedol; yn casglu hanes llafar; yn creu oriel ar-lein o ddelweddau mewn partneriath â Chasgliad y Werin Cymru ac ymatebion i’r holiaduron; ac yn casglu gwrthrychau sy’n berthnasol i’r pandemig yng Nghymru wedi i’r cyfyngiadau ar symud gael eu codi.

Bydd yr holiadur yn llywio datblygiad casgliad Covid-19 Cymru. Gofynnir i’r rheini sy’n cymryd rhan bennu gwrthrychau o’u cartrefi a’u cymunedau sy’n cynrychioli eu profiad nhw o fywyd o dan y cyfyngiadau ar symud. Wrth i’r cyfyngiadau godi, bydd yr Amgueddfa yn cysylltu â’r gwirfoddolwyr er mwyn casglu a dogfennu eu gwrthrychau.

 

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

 

“Ni yw amgueddfa genedlaethol Cymru, ac mae gennym gyfrifoldeb i greu cofnod a chasgliad cenedlaethol o atgofion o’r pandemig yng Nghymru – dyma stori ein bywydau ar yr eiliad hon, yn gofnod o brofiad byw pawb yng Nghymru. Mae’n gyfnod digynsail ac mae’n rhaid i ni ei chofnodi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

“Roedd Amgueddfa Cymru’n eiriolwr cynnar o’r dull hwn o gasglu – dull sy’n gosod gwybodaeth y gymuned wrth ei wraidd, ac sy’n parhau hyd heddiw.”

 

DIWEDD