Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn penodi Cyfarwyddwr Datblygu Busnes newydd

Mae Amgueddfa Cymru’n falch o gyhoeddi penodiad Nia Elias yn Gyfarwyddwr Datblygu Busnes newydd y sefydliad. Bydd Nia yn ymuno ag Amgueddfa Cymru ym mis Ebrill 2021 er mwyn helpu i gynyddu potensial masnachol y sefydliad – un o brif flaenoriaethau Amgueddfa Cymru dros y blynyddoedd nesaf.

Yn ei rôl newydd, bydd Nia yn gyfrifol am reoli a darparu arweinyddiaeth strategol ar draws Amgueddfa Cymru ym meysydd codi arian, gweithgarwch masnachol, nawdd corfforaethol a busnes, datblygu busnes a chynhyrchu incwm.

Mae gan Nia gyfoeth o brofiad a chysylltiadau ar draws y sector diwylliannol, wedi gweithio yn Blood Cancer UK, Canolfan Mileniwm Cymru, Oriel Tate, Somerset House Trust ac Imperial War Museum, London. Yn ei rolau blaenorol, mae Nia wedi arwain adrannau codi arian a chynhyrchu incwm masnachol, yn ogystal â gweithio ym maes profiad cwsmer ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr.

Yn siaradwraig Cymraeg o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol sydd bellach yn byw ym Mro Morgannwg gyda'i theulu, mae Nia hefyd yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phanel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg.

Dywedodd Neil Wicks, y Prif Swyddog Gweithredu:

"Croeso mawr i dîm Amgueddfa Cymru Nia.

"Mae'r 12 mis diwethaf wedi bod yn arbennig o heriol i lawer o sefydliadau sy'n dibynnu ar incwm masnachol i weithredu'n effeithiol. Nid yw Amgueddfa Cymru yn eithriad.

"Rydym nawr yn canolbwyntio ar gefnogi ein cymunedau wedi COVID-19, ac yn edrych ymlaen at ailagor ein hamgueddfeydd, gobeithio. Bydd cynyddu ein potensial masnachol yn caniatáu i'r gwaith hwn ddigwydd, a sicrhau bod modd i ni gyflawni dros bobl Cymru a thu hwnt.”

Dywedodd Nia Elias,

“Braint o’r mwyaf yw cael ymuno â thîm Amgueddfa Cymru. Edrychaf ymlaen at weithio â chydweithwyr yn yr Amgueddfa a ledled Cymru a thu hwnt er mwyn datblygu cyfleoedd a phartneriaethau newydd. Rwy’n edrych ymlaen at weld ein gwaith o adfer a thyfu gweithgarwch masnachol yn cyfrannu at alluogi i bawb yng Nghymru ddefnyddio ein hamgueddfeydd ar gyfer dysgu, creadigrwydd a mwynhad."

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i'r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

 

Enillodd un o amgueddfeydd y teulu, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, sy'n trafod hanes a diwylliant Cymru wobr Amgueddfa'r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru'n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People's Postcode Lottery. 

 

Diwedd