Datganiadau i'r Wasg

Arddangosfa Artes Mundi 9 yn cael ei hesyn tan 5 Medi 2021

Cyhoeddi arddangosfa eilflwydd gwobr Artes Mundi 9 ym mis Mai

Bellach cyhoeddir enillydd Gwobr £40,000 Artes Mundi 9 – gwobr fwyaf y DU ar gyfer celfyddyd
gyfoes ryngwladol – a ddetholir gan banel o reithwyr arbenigol o blith yr artistiaid ar y rhestr fer,
Firelei Báez (Y Weriniaeth Ddominicaidd), Dineo Seshee Bopape (De Affrica), Meiro Koizumi
(Japan), Beatriz Santiago Muñoz (Puerto Rico), Prabhakar Pachpute (India) a Carrie Mae Weems
(UDA), yn ddigidol ym mis Mai pryd y gobaith yw y bydd ymwelwyr yn gallu profi’r arddangosfa yn y
cnawd.


Gan ymdrin â rhai o faterion pwysicaf ein hoes drwy’r gweithiau sydd ar ddangos, mae Artes Mundi 9
wedi cael ei hestyn tan ddydd Sul 5 Medi. Ar hyn o bryd wedi’i gosod ar draws Amgueddfa
Genedlaethol, Caerdydd, Chapter a g39, mae’r arddangosfa’n barod i agor i’r cyhoedd unwaith i
Gymru ddychwelyd i gyfyngiadau Haen 2. Hyd at yr adeg honno, gall cynulleidfaoedd brofi rhagflas o
waith pob artist ar-lein drwy fideos tywys byrion a ffotograffiaeth lonydd ar www.artesmundi.org.


Yn ogystal â gosodwaith fideo amlsianel sydd wedi’i ailgyflunio’n bwerus gan Meiro Koizumi, mae
Artes Mundi 9 yn dangos am y tro cyntaf yn y byd weithiau newydd o bwys gan gynnwys gosodwaith
ffotograffig Carrie Mae Weems The Push, The Call, The Scream, The Dream, ffilm newydd, About
Falling, gan Beatriz Santiago Muñoz, a chyfres o baentiadau mawr deinamig gan Firelei Báez. Mae
gosodwaith ymdrwythol gan Dineo Seshee Bopape sy’n cynnwys cerfluniaeth, arlunio a sain yn
defnyddio pridd a chlai o safleoedd sanctaidd Cymreig wedi’u cyfuno â phridd o leoliadau eraill ym
mhedwar ban byd gan gynnwys Île de Gorée, Senegal; afon James, Richmond, Virginia; afon
Mississippi, New Orleans; a Choedwig Achimota, Accra, Ghana. Ac mae Prabhakar Pachpute wedi
datblygu gosodwaith o baentiadau ar faneri cynfas sy’n parhau â’i ymdriniaeth â’r gweithiwr unigol
yng nghyd-destun grymoedd corfforaethol ac economaidd mawr.


Mae rhaglen gyhoeddus rymus wedi’i lansio ar-lein ochr yn ochr â’r arddangosfa ar ffurf cyfres o
sgyrsiau, fideos, podlediadau a gweithgareddau a digwyddiadau wedi’u ffrydio’n fyw ac y gellir eu
lawrlwytho. Yn dechrau gyda thrafodaethau panel, bydd y rhain yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach o
waith, syniadau, testunau a theithi meddwl pob un o’r artistiaid ar y rhestr fer a’i waith.