Datganiadau i'r Wasg

CANFOD TRYSOR YN SIR FYNWY A CHASNEWYDD

Celciau o’r Oes Efydd a broetsh arian canoloesol yn cael eu datgan fel trysorCelciau o’r Oes Efydd a broetsh arian canoloesol yn cael eu datgan fel trysor

Mae tri chanfyddiad trysor o gyfnod Oes yr Efydd a’r cyfnod canoloesol wedi cael eu cadarnhau yn drysor heddiw (dydd Gwener 6 Awst) gan Ddirprwy Grwner Gwent, Ms Naomi Rees.

Cafodd y ddau gelc o’r Oes Efydd (yn dyddio i 1000-800 CC) a broetsh arian canoloesol (yn dyddio i’r 13eg-14eg ganrif) oll eu darganfod gan bobl â datgelyddion metel.

Canfuwyd celc o offer efydd (Trysor 17.18) yn dyddio o Oes yr Efydd gan Brendan Bishop wrth iddo ddefnyddio’i ddatgelydd metel yng Nghymuned Trefynwy, Sir Fynwy rhwng mis Mehefin 2016 a mis Ionawr 2017. Yn gynwysedig yn y celc oedd dau ddarn o gyllell socedog efydd, dwy fwyell socedog efydd gydag addurn asen ar eu hwynebau a darn o lafn o fwyell socedog efydd arall. Cawsant eu claddu bron i 3,000 o flynyddoedd yn ôl (oddeutu 1000-800 CC), fel offrwm crefyddol mwy na thebyg, wedi’u gosod o fewn pydew ar wahân yn y ddaear, gan gymuned fach o ffermwyr oedd yn byw gerllaw. 

Mae Amgueddfa Mynwy yn gobeithio caffael y celc hwn i gryfhau ei chasgliad archeolegol ac fel bod y canfyddiad yn hygyrch i’r cyhoedd gerllaw’r ardal lle cafodd ei ganfod. 

Canfuwyd ail gelc o offer efydd (Trysor 17.18) gan Darren Jessett wrth iddo ddefnyddio’i ddatgelydd metel yng Nghymuned Llanofer, Sir Fynwy ym mis Mai 2017. Mae’r celc o bump arteffact yn cynnwys dwy fwyell efydd socedog gydag addurn asen, darn o fwyell socedog efydd plaen, darn o fwyell adeiniog efydd a muchudd castio efydd. 

Mae Amgueddfa’r Fenni yn gobeithio caffael y celc hwn, gan gryfhau ei chasgliad cynyddol o ganfyddiadau Oes yr Efydd o Sir Fynwy, er budd y cyhoedd.

Dywedodd Curadur Amgueddfeydd Sir Fynwy, Anne Rainsbury:

“Celciau Oes yr Efydd yw un o ddirgelion mawr cynhanes, a cheir theorïau hynod ddiddorol am pam fyddai pobl wedi mynd ati’n fwriadol i gladdu casgliadau o fwyelli toredig, ynghyd â bwyelli cyfan ac offer eraill. Mae lleoliadau’r celciau hyn yn cael eu mapio’n ofalus er mwyn cynnig darn arall o wybodaeth yn y jig-sô hwn, felly mae’r canfyddiadau hyn yn bwysig iawn. Rydym yn falch iawn eu bod yn gallu cael gofod yn ein hamgueddfeydd ac yn helpu i adrodd straeon pobl oedd yn byw yn Sir Fynwy filoedd o flynyddoedd yn ôl.”

Canfuwyd broetsh ganoloesol addurniadol wedi ei mewnosod gyda nielo (Trysor 19.02) ym mis Ionawr 2019 gan Steve Cashmore a Mark Jones yng Nghymuned Langstone, Casnewydd. Yn ôl Dr Mark Redknap, Dirprwy Bennaeth Casgliadau ac Ymchwil Archaeoleg Amgueddfa Cymru, mae arddull y broetsh yn dod o’r 13eg neu’r 14eg ganrif: 

“Wedi’u gwisgo gan fwyaf fel pethau cau ffrog, mae gan y broetsh penodol hwn far-croes crwm i warchod rhag rhwygo defnydd. Mae’r darganfyddiad newydd hwn yn ychwanegu at ein dealltwriaeth o’i gylchrediad eang yn y Gymru ganoloesol, mae enghreifftiau tebyg wedi cael eu darganfod yn y Fenni ac yn bellach i ffwrdd ym Mro Morgannwg, Sir y Fflint, Sir Frycheiniog ac ar Ynys Môn.”

Mae Amgueddfa ac Oriel Casnewydd yn bwriadu caffael y froetsh hon ar gyfer ei chasgliad, yn dilyn gwerthusiad annibynnol drwy’r Pwyllgor Prisio Trysor.

DIWEDD