Datganiadau i'r Wasg

Arddangos gweithiau celf gan yr artist o Bortiwgal, Paula Rego, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Bydd dau waith celf pwysig gan yr artist o Bortiwgal, Paula Rego (ganwyd 1935), yn cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd o 2 Medi 2021 ymlaen. Mae'r gweithiau wedi'u caffael gan Ymddiriedolaeth Derek Williams ar gyfer eu casgliad mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

Dynes yn edrych ar waith Celf gan Paula Rego

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi caffael dau o weithiau pastel Rego, sef Yr Ymweliad a Marwolaeth y Forwyn o'r gyfres Cylch Bywyd y Forwyn Fair, gafodd ei chreu gan yr artist yn 2002 wedi gwahoddiad gan Arlywydd Portiwgal i greu gwaith ar gyfer capel palas swyddogol Bélem. Cwblhaodd Rego ddwsin o weithiau celf, wyth ar gyfer y capel a phedwar (sydd ychydig yn fwy) ar ei chyfer hi ei hun.

Bydd y ddau ddarn yn rhan o gasgliad Ymddiriedolaeth Derek Williams sy'n gweithio'n agos ag Amgueddfa Cymru i gasglu celf gymwys a chelf gain ôl-1900.

Mae'r Ymddiriedolaeth yn casglu ac yn cefnogi casglu celfyddyd Gymreig gyfoes a modern yn ogystal â chelfyddyd o'r DU a gweddill y byd. Ers 1992 mae Ymddiriedolaeth Derek Williams wedi bod yn greiddiol i ddatblygiad un o gasgliadau celf fodern a chyfoes gorau'r DU.

Mae Paula Rego yn artist byd-enwog ac yn arloesi ym maes paentio ffigurol modern. Mae hi'n enwog am ei darluniau cynhyrfus sy'n awgrymu perthnasau annelwig a naratifau ansicr, wedi'u hadrodd o safbwynt benywaidd. Mae ôl-arddangosfa fawr o waith Paula Rego i'w gweld yn Tate Britain ar hyn o bryd.

Yn unol â'i harddull, mae Rego yn gwrthod dilyn y traddodiad artistig diogel a chadarnhaol o adrodd hanes bywyd y Forwyn, gan adrodd o stori o safbwynt Mair ei hun. Yn Yr Ymweliad, mae'r Forwyn yn ysgytwol o ifanc, merch yn ei harddegau yn derbyn newyddion o'i beichiogrwydd gan ddwy fenyw sy'n ymddangos fel eu bod yn cynllwynio, ac yn sicr ddim yn cydymdeimlo â hi. Yn Marwolaeth y Forwyn, caiff yr olygfa ei chyfleu yn gwbl ddi-flewyn-ar-dafod, gyda chorff y Forwyn yn galed ac yn oedrannus – sy'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r darluniau traddodiadol ohoni yn ddynes ifanc, hardd mewn dillad cain sydd ar fin esgyn i'r Nefoedd.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:

"Rydym yn falch iawn o gael arddangos y gweithiau celf hyn gan yr artist byd-enwog, Paula Rego, yn enwedig yn ystod cyfnod o sylw haeddiannol i'r artist.

"Rydym wedi ymroi i barhau i rannu celf gyfoes â phobl Cymru gyda chymorth hollbwysig Ymddiriedolaeth Derek Williams, y mae ei chyfraniad unigryw at y celfyddydau gweledol yn creu gwaddol parhaus i bobl Cymru.”

 

Dywedodd William Wilkins o’r Ymddiriedolaeth Derek Williams, “'Mae’n fraint i’r Ymddiriedolaeth gaffael y gweithiau pwysig hyn gan deulu Paula Rego. Mae hi ymhlith artistiaid ffigurol gorau ein hoes.”

Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Wlân Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Mae mynediad i bob un ohonynt yn rhad ac am ddim diolch i gymorth Llywodraeth Cymru.

 

DIWEDD