Datganiadau i'r Wasg

CANFOD TRYSOR YN SIR BENFRO

Dau dlws arian canoloesol yn cael eu datgan fel trysor

Mae dau ddarganfyddiad o’r canol oesoedd wedi cael eu datgan yn drysor heddiw (30 Medi 2021) gan Uwch Grwner Dros-dro Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, Mr Paul Bennett.

Cafodd tlws modrwyol arian canoloesol (Achos Trysor 19.12) ei ddarganfod gyda datgelydd metel gan Mr David Johnston ar 10 Mawrth 2019. Roedd y tlws yn ddarganfyddiad unigol o dan y borfa mewn cae yng Nghymuned Penalun, Sir Benfro. Mae’n dyddioo 12fed–13eg ganrif OC. Mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod yn bwriadu caffael y tlws ar gyfer ei chasgliad, yn dilyn gwerthusiad annibynnol drwy’r Pwyllgor Prisio Trysor.

Dywedodd Eloise Chapman, Cynorthwyydd yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod:

“Mae bob amser yn gyffrous cael cyfle i gaffael trysor ar gyfer yr Amgueddfa. Bydd y tlws hyfryd hwn yn rhoi syniad i ymwelwyr o ffasiwn y canol oesoedd a bywyd bob dydd yn yr ardal hon. Ddes dim byd fel hyn yn ein casgliad, felly byddai’n ychwanegiad gwych.”

Cafodd yr ail dlws arian canoloesol (Achos Trysor 19.27), sydd heb ei bin, ei ddarganfod gyda datgelydd metel gan Mr Kevin Higgs ar 24 Ebrill 2019. Roedd y tlws yn ddarganfyddiad unigol o dan y borfa mewn cae yng Nghymuned Treamlod, Sir Benfro. Mae’n dyddio o’r 13eg–14eg ganrif OC. Mae Amgueddfa a Pharc Maenor Scolton yn bwriadu caffael y tlws ar gyfer ei chasgliad, yn dilyn gwerthusiad annibynnol drwy’r Pwyllgor Prisio Trysor.

Dywedodd Dr Mark Redknap, Dirprwy Bennaeth Casgliadau ac Ymchwil Archaeoleg Amgueddfa Cymru:

“Diolch i’r Cynllun Henebion Cludadwy ac amodau’r Ddeddf Trysor, rydym yn creu darlun mwy cywir o ffasiwn y canol oesoedd. Roedd tlysau arian wedi’u haddurno â nielo yn boblogaidd ar draws Cymru’r canol oesoedd, ac mae’n bosib bod yr enghraifft hon wedi’i defnyddio i gau dilledyn cain.”