Datganiadau i'r Wasg

David Hurn: Llun am Lun yn dychwelyd i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Arddangosfa newydd o ffotograffau o gasgliad personol y ffotograffydd David Hurn yn agor heddiw (23 Hydref) yn oriel ffotograffau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Merch ifanc yn llawn llawenydd ar ôl cael ei gwasanaeth Bedydd Esgob. Llundain, Lloegr
© David Hurn / Magnum Photos / Amgueddfa Cymru

Bydd David Hurn: Llun am Lun, i'w gweld tan 27 Mawrth 2022 ac yn adeiladu ar lwyddiant arddangosfa Llun am Lun yn 2017 ac yn rhoi llwyfan i ragor o weithiau o gasgliad ffotograffau preifat David Hurn. Mae'r arddangosfa yn cyflwyno detholiad o waith gan ffotograffwyr blaenllaw a gasglwyd gan Hurn drwy gyfnewid llun am lun.

Ffotograffydd o dras Cymreig yw David Hurn, sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae David Hurn wedi bod yn gasglwr ffotograffau brwd trwy gydol ei yrfa fel ffotograffydd dogfennol ac fel aelod o Magnum Photos, fel arfer drwy gyfnewid lluniau gyda'i gyd-ffotograffwyr.

Bydd David Hurn: Llun am Lun yn arddangos 68 o ffotograffau sy'n dyst i lygad ffotograffig David, ei gefnogaeth i ffotograffwyr eraill, a'i werthfawrogiad o dechnegau ffotograffig amrywiol dros yrfa ryfeddol o drigain mlynedd a mwy. Cafodd yr arddangosfa ei churadu gan Martin Parr yn 2017 i nodi pen-blwydd 70 Magnum Photos a dathlu'r gymuned o ffotograffwyr y bu David Hurn yn rhan ohoni am 55 o flynyddoedd.

Ymhlith yr uchafbwyntiau mae ffotograff gan Christopher Anderson o Hilary Clinton, a dynnwyd yn 2013 cyn ei hymgyrch arlywyddol; ffotograff gan David Hurn o'r actor llwyfan a ffilm Peter O'Toole; a ffotograffau gan enwau mawr Magnum o bobl gyffredin o bob cwr o'r byd.

Yn 2017 rhoddodd David Hurn gasgliad mawr o ffotograffau yn rhodd i Amgueddfa Cymru. Roedd dwy ran i'r rhodd: oddeutu 1,500 o'i ffotograffau eu hun, yn rhychwantu ei yrfa drigain mlynedd fel ffotograffydd dogfennol; a rhyw 700 o ffotograffau o'i gasgliad preifat a gasglodd yn ystod ei yrfa.

Dywedodd David Hurn

"Roedd cael arddangosfa yn Amgueddfa Cymru yn gwireddu breuddwyd i mi, ac mae agor fy ail arddangosfa yma yn fraint o'r mwyaf. Rwy'n cofio ymweld â'r Amgueddfa yn fachgen ifanc gyda Mam. Roedd hi'n arfer sôn am yr holl weithiau oedd wedi cael eu 'rhoi' i'r Amgueddfa, felly mae'n fraint cael ystyried fy hun yn 'roddwr' i'n hamgueddfa genedlaethol.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys gwaith rhai o ffotograffwyr gorau'r byd, a dyma'r tro cyntaf erioed i waith nifer ohonynt gael ei weld yng Nghymru.

Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn mwynhau gweld y ffotograffau o nghasgliad yn yr arddangosfa, ac am flynyddoedd i ddod yn oriel ffotograffiaeth hyfryd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd."

Dywedodd Bronwen Colquhoun, Uwch Guradur Ffotograffiaeth, Amgueddfa Cymru

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i David am roi ei gasgliad rhyfeddol i Amgueddfa Cymru, gan ein galluogi i gynnal yr arddangosfa hon a chodi proffil yr Amgueddfa fel canolfan bwysig i ffotograffiaeth yn y DU.

Hoffem ddiolch hefyd i Magnum Photos a Martin Parr am eu cefnogaeth gyda'r arddangosfa."