Datganiadau i'r Wasg

Portread o Picton i gael ei dynnu i lawr a’i ail-ddehongli yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mae portread o’r Is-gadfridog Syr Thomas Picton wedi’i dynnu i lawr o oriel Wynebau Cymru yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd yn cael ei gadw yn storfeydd yr Amgueddfa cyn cael ei ail-ddehongli a’i arddangos eto dros y misoedd nesaf.

Gwnaed y penderfyniad i dynnu’r portread i lawr fel rhan o Ail-fframio Picton, project gan bobl ifanc sy’n cynnwys Amgueddfa Cymru a’n partner cymunedol, Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP).

Cafodd Picton ei ystyried yn arwr am flynyddoedd, ond mae hefyd yn adnabyddus am ei driniaeth greulon o bobl Ddu - yn gaethweision a phobl rydd - ac am ganiatáu arteithio yn ystod ei gyfnod fel Llywodraethwr Trinidad, o 1797-1803. Mae tîm y project wedi treulio dros flwyddyn yn archwilio hanes Picton, ei le o fewn yr Amgueddfa, a sut y cafodd ei goffáu dros y blynyddoedd.

Bydd portread arall, o’r enw ‘William Lloyd: Gwrychwr a Thorrwr Ffosydd’ yn cymryd lle portread Picton. Cafodd hwn ei baentio gan yr artist o’r Iseldiroedd, Albert Houthuesen, gafodd ei swyno gan fywydau’r glowyr yn Nhrelogan, Sir y Fflint tra’r oedd ar ei wyliau gyda’i wraig yn y 1930au. Paentiodd Houthuesen bortreadau mawr o’r glowyr, gan roi iddynt angerdd oedd yn beth prin ym mhortreadau’r cyfnod.

Dywedodd Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil, Amgueddfa Cymru:

“Mae hwn yn gam pwysig arall i Amgueddfa Cymru wrth i ni archwilio ein casgliadau cenedlaethol ac ystyried pwy ydyn ni’n eu harddangos yn oriel Wynebau Cymru, a pham. Mae’r project hwn yn tynnu un gwaith i lawr - portread sy’n mawrygu unigolyn a gyflawnodd greulondeb mawr fel Llywodraethwr Trinidad, hyd yn oed yn ôl safonau ei oes - ac yn ei le yn gosod portread sy’n dathlu gweithiwr, rhywun y gallwn ei ystyried fel arwr heddiw.

Yn y dyfodol, bydd Amgueddfa Cymru yn creu adnoddau addysg ar hanes cymunedau sy'n profi anghydraddoldeb hiliol, a’r hyn maent wedi’i gyflawni o fewn ein cymdeithas. Bydd hyn yn cyd-fynd â newidiadau diweddar Llywodraeth Cymru i’r cwricwlwm.”

Dywedodd Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr Panel Cynghori Is-Sahara:

“Wrth i ni geisio creu Cymru sy’n gynhwysol a hafal, yn canolbwyntio ar gyd-dynnu cymunedol, ac yn gwerthfawrogi gwahanol ddiwylliannau ein gwlad, mae angen i ni ddathlu’r bobl sy’n cynrychioli ein cymdeithas. Dylai’r bobl hyn gael eu gweld yn oriel Wynebau Cymru”.

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Amgueddfa Cymru fod dau waith celf newydd wedi’u comisiynu yn dilyn galwad agored i artistiaid ail-ddehongli gwaddol Picton. Y ddau sydd wedi’i dewis i greu’r gweithiau comisiwn yw Gesiye, artist amlddisgyblaethol o Drinidad a Tobago, a Laku Neg, grŵp o bedwar artist o gefndir Trinidadaidd o’r DU sy’n hyrwyddo mynegiant celfyddydol Affricaniaid ledled y byd.