Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn defnyddio ei chasgliadau i wella lles mewn cartrefi gofal

Yn dilyn llwyddiant project Amgueddfa Cymru, Cysur mewn Casglu, yn ystod pandemig Covid-19, mae adnoddau digidol newydd wedi’u datblygu i gysylltu pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal ac yn wynebu ynysu cymdeithasol â chasgliadau cenedlaethol Cymru.

Diolch i gyllid gan Ymddiriedolaeth Austin and Hope Pilkington ac Ymddiriedolaeth Elusennol D’Oyly Carte, mae cyfres o ffilmiau wedi’u creu gan artistiaid a phobl greadigol o bob cwr o Gymru i wella lles pobl sydd wedi’u hynysu.

 

Mae’r ffilmiau’n amrywio o daith feddylgar ar lan y môr wedi’i hysbrydoli gan luniau John Dilwyn Llewelyn, i olwg greadigol ar gasgliad cerameg Amgueddfa Cymru, ac artist gwydr wedi’i ysbrydoli gan y casgliadau o wydr Rhufeinig. Mae curaduron yr Amgueddfa hefyd wedi bod yn rhannu eu hoff wrthrychau o’r casgliadau, a byddwn yn creu cyfres o ffilmiau wedi’u hysbrydoli gan eu dewisiadau.

 

Mae’r holl ffilmiau wedi cael eu creu er mwyn i bawb eu mwynhau - boed hynny yn bobl mewn gofal, adref, neu unrhyw grŵp sy’n cwrdd yn rheolaidd ac yn chwilio am weithgareddau ystyrlon a hwyliog i wella lles y rheini sy’n cymryd rhan.

Caiff y project ei gefnogi gan dîm sy’n cynnwys Amgueddfa Cymru, Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn, Cymdeithas Alzheimer, Innovate Trust a Bwrdd Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwent Fwyaf.

Dywedodd Sharon Ford, Rheolwr Rhaglenni Lles Amgueddfa Cymru:

“Rydyn ni wedi cael ymateb gwych gan bobl mewn cartrefi gofal, sydd wedi defnyddio’r adnoddau ac wedi cyfrannu at eu llunio drwy rannu eu hatgofion, rhoi adborth a chynnig syniadau ar gyfer themâu newydd.

“Gobeithio y gall mwy o gartrefi gofal ar hyd a lled Cymru fanteisio ar yr adnoddau sydd ar gael i gychwyn sgyrsiau a sbarduno atgofion melys, ac i wella iechyd meddwl pobl sy’n wynebu cael eu hynysu.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Austin and Hope Pilkington ac Ymddiriedolaeth Elusennol D’Oyly Carte am eu cefnogaeth hael i broject Cysur mewn Casglu. Y gefnogaeth hon sydd wedi’n galluogi ni i ddatblygu mwy o adnoddau.

“Diolch i chwaraewyr y People’s Postcode Lottery sy’n cefnogi gweithgareddau addysg ac ymgysylltu ar hyd ein saith amgueddfa, gan helpu i wireddu projectau fel hwn.”

 

Ers mis Medi 2020, mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn creu adnoddau ar gyfer cartrefi a grwpiau gofal sydd eisiau cymryd rhan mewn sgyrsiau a gweithgareddau diddorol yn seiliedig ar wrthrychau o gasgliadau’r amgueddfa.

Cafodd yr adnoddau eu creu gan Amgueddfa Cymru gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn, Cymdeithas Alzheimer, Innovate Trust a Bwrdd Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwent Fwyaf, yn ogystal â nifer o gartrefi a grwpiau yn ne Cymru.

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau, sydd am ddim i’r cyhoedd diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Gyda’n gilydd, mae’n gartref i gasgliadau celf, hanes, treftadaeth a gwyddoniaeth y genedl, fydd yn parhau i dyfu er mwyn i genedlaethau heddiw ac yfory eu mwynhau.

Enillodd un o’r amgueddfeydd, Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru sy’n trafod hanes a diwylliant Cymru, wobr Amgueddfa’r Flwyddyn y Gronfa Gelf yn 2019.

Fel elusen gofrestredig, mae Amgueddfa Cymru’n gwerthfawrogi pob cefnogaeth. Cefnogir y rhaglen ddigwyddiadau ac arddangosfeydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.

 

DIWEDD