Datganiadau i'r Wasg

Canfod Trysor yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru

Mae dau ganfyddiad – celc o geiniogau o Oes y Rhufeiniaid a broetsh arian o'r Oesoedd Canol – wedi cael eu datgan yn drysor ar ddydd Mawrth 28 Mehefin 2022 gan Ms Katie Sutherland, Crwner Cynorthwyol Gogledd Cymru (Dwyrain a Chanol).

Cafodd y celc ceiniogau Rufeinig (Achos Trysor 20.08) ei darganfod gan Wayne Jones wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir fferm yng Nghymuned Helygain, Sir y Fflint ar 14 Mehefin 2020. Mae'r celc ceiniogau yn cynnwys 13 denarii arian wedi'u bathu rhwng OC 64 ac OC 117. Mae'r denarius cyntaf yn y celc yn dyddio o oes yr Ymerawdwr Nero (OC 54-68) a'r olaf o oes yr Ymerawdwr Trajan (OC 98-117). Mwy na thebyg i'r celc gael ei gladdu yn fuan wedi hyn, tua OC 117-125. 

 

Roedd Mynydd Helygain yn fwynglawdd plwm pwysig yn Oes y Rhufeiniaid Mae hwch (ingot) blwm Rufeinig a ganfuwyd yn 2019 yn Yr Orsedd, Wrecsam, wedi cael ei gysylltu'n gemegol â phlwm o Fynydd Helygain, ac mae rhagor o dystiolaeth o fwyngloddio a smeltio plwm yn nechrau Oes y Rhufeiniaid wedi ei ganfod yn y Gogledd Ddwyrain a Chaer. Efallai bod cysylltiad rhwng claddu'r celc hwn a'r gwaith mwyngloddio yn yr ardal.

 

Dywedodd Alastair Willis, Uwch Guradur Nwmismateg ac Economi Cymru yn Amgueddfa Cymru:

Mae'r celc ceiniogau hwn yn ychwanegu at gorff cynyddol o dystiolaeth o weithgarwch y Rhufeiniaid yn Helygain a'r cyffiniau yn y ganrif gyntaf a'r ail ganrif OC, a mwy na thebyg taw gwaith mwyngloddio Mynydd Helygain oedd y canolbwynt.”

 

Mae Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir y Fflint yn gobeithio caffael y celc ar gyfer eu casgliad, yn dilyn gwerthusiad anibynnol gan y Pwyllgor Gwerthuso Trysorau.

 

Dywedodd Sophie Fish, Rheolwr Amgueddfeydd, Diwylliant a Threftadaeth Sir y Fflint:

Mae hwn yn ganfyddiad cyffrous iawn o'n gorffennol Rhufeinig. Mae'n ddiddorol dychmygu pwy oedd perchennog y ceiniogau a beth fydden nhw wedi ei brynu gyda'r arian. Ein gobaith yw eu harddangos yn Amgueddfa yr Wyddgrug fel rhan o arddangosiad newydd o weithgarwch y Rhufeiniaid ar draws Sir y Fflint.”

 

Canfuwyd broetsh 'gwarthol' cylchog arian bychan (Achos Trysor 19.42) o'r Oesoedd Canol gan Scott Bevan ar 14 Hydref 2019 wrth ddefnyddio datgelydd metel ar dir âr yng Nghymuned Erbistog, Wrecsam. Mae ffrâm y broetsh wedi ei addurno â bandiau ardraws main gyda niello du (aloi o fetel a sylffwr) wedi’i fewnosod. Ar y pin siap dagr mae addurn wedi’i naddu hefyd, yn ogystal â dau ‘warthol’ (dau allwthiad crwm yn ymestyn o ben y pin er mwyn ei atal rhag dal ar ddillad).  Mae’r broets yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg neu ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

 

Dywedodd Sian Iles, Curadur Archaeoleg Ganoloesol a Diweddar Amgueddfa Cymru:

‘Mae broetshys cylchog arian fel yr esiampl o Erbistog yn cael eu cofnodi yn gynyddol yng Nghymru, diolch i Ddeddf Trysor 1996 a’r Cynllun Henebion Cludadwy.  Mae’r dystiolaeth gynyddol gyfoethog hon yn ein galluogi i adeiladu darlun gwell o sut y byddai hunaniaeth bersonol yn cael ei ddangos yng Nghymru’r Oesoedd Canol, drwy wisgo gemwaith ac addurniadau personol arall.’

 

Mae Amgueddfa ac Archifau Cyngor Bwrdeistref Wrecsam wedi dangos diddordeb mewn caffael y broetsh ar gyfer eu casgliadau, yn dilyn prisiad annibynnol gan y Pwyllgor Prisio Trysor.

 

DIWEDD