Datganiadau i'r Wasg

Brenhinoedd Tanddaearol

 Yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 5 Hydref, mae “Brenhinoedd Tanddaearol” yn arddangosfa hynod ddiddorol sy’n cynnwys glowyr sydd wedi goroesi a’u perthnasau y tynnwyd llun ohonynt gan ddefnyddio proses o’r enw ffotogrametreg, sy’n trosi delweddau dau ddimensiwn yn bortreadau tri dimensiwn.

 

Mae’r canlyniadau yn bortreadau digidol 3D unigryw ynghyd â straeon yn eu lleisiau eu hunain o’r glowyr a’u perthnasau. 

Brenhinoedd Tanddaearol

Mae "Vision Fountain’s Kings of The Underground" yn dal atgofion a ffisiognomïau (nodweddion wyneb) y genhedlaeth ddiwethaf o lowyr Cymreig. Mae Vision Fountain yn rhan annatod o gymunedau glofaol ar draws holl faes glo De Cymru gyda’u stiwdio symudol, yn dal portreadau 3D ac yn recordio tystiolaeth lafar wrth iddynt fynd.

 

Mae gweithiau celf wedi cael eu cynhyrchu hefyd drwy weithdai gyda disgyblion ysgolion cynradd a ysbrydolwyd gan straeon y glowyr a theuluoedd.

 

Roedd glowyr Cymru’n gweithio yn un o’r ardaloedd oedd yn cael ei gloddio fwyaf dwys ar y ddaear ac yn cynhyrchu glo gorau’r byd a helpodd i yrru’r chwyldro diwydiannol.

 

Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys gwragedd glowyr a’r glowyr sy’n gweithio ar hyn o bryd yng ngwaith tanddaearol olaf Cymru, Aberpergym.

 

Dywedodd Richard Jones, Cyfarwyddwr Creadigol, Vision Fountain:

 

“Mae prosiect Brenhinoedd Tanddaearol yn cofnodi wynebau a thystiolaeth y genhedlaeth ddiwethaf o lowyr Cymreig. Ni ddylem byth fel cenedl anghofio mai’r glowyr hyn, ynghyd â’u cyndadau, a adeiladodd y Gymru fodern.

 

Mae'r prosiect wedi defnyddio technoleg, sy'n boblogaidd mewn diwylliant hapchwarae a rhith-realiti (VR), i greu prosiect traws-genhedlaeth y gall pobl ifanc ymgysylltu ag ef yn hawdd.

 

Mae wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd gweithio gyda glowyr Cymru. Mae’n drist, ond hefyd yn berthnasol, fod nifer o’r glowyr, a fu’n ymwneud â’r prosiect hwn ar y dechrau, wedi marw ers hynny, sy’n tanlinellu pwysigrwydd dal eu llun a’u tystiolaethau ar gyfer yr archif Gymreig.”

 

 Dywedodd Jacqueline Roach, Swyddog Arddangosfeydd a Rhaglenni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau:

 

“Mae wedi bod yn bleser pur cefnogi’r prosiect anhygoel hwn sydd wedi dal straeon pwysig dynion a merched y cymunedau glofaol hyn. Trwy’r dechnoleg anhygoel a ddefnyddiwyd, a’r straeon mae wedi ysbrydoli a chysylltu cenedlaethau trwy weithdai a chelf.”

 

Roedd y prosiect yn bosibl gyda chyfraniadau hael gan staff Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda.

 

Mae’r prosiect wedi’i gefnogi a’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Diolch i holl Chwaraewyr y Loteri.

 

Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb. 

 

Rydyn ni’n elusen, ac mae ein teulu o saith amgueddfa a chanolfan gasgliadau wedi’u gwasgaru ar draws Cymru. Ein nod yw ysbrydoli pawb trwy stori Cymru – yn ein hamgueddfeydd, yn ein cymunedau ac yn ddigidol. 

 

Mae ein croeso am ddim diolch i nawdd Llywodraeth Cymru ac rydyn ni'n croesawu pobl o bob cymuned.

 

Dewch i fod yn rhan o stori Cymru – trwy ymweld â ni, gwirfoddoli, ymuno neu gyfrannu. 

www.amgueddfa.cymru