Datganiadau i'r Wasg

Amgueddfa Cymru yn caffael casgliad newydd o wrthrychau sy'n taflu goleuni ar fywyd LHDTC+ yng Nghymru

Mae Amgueddfa Cymru wedi caffael casgliad pwysig o wrthrychau fydd yn helpu i roi llais i brofiadau LHDTC+ yng Nghymru. 

Reg Mickisch and George Walton ar wyliau 

Roedd y casgliad yn eiddo i Reg Mickisch a George Walton, cwpwl hoyw wnaeth gyfarfod yn 1949 ac oedd gyda'i gilydd am dros 60 mlynedd, cyn marw o fewn ychydig fisoedd i'w gilydd yn 2011. Gallwch ddarllen eu hanes rhyfeddol yn llyfr gwobrwyog Mike Parker, On the Red Hill.

Mae'r casgliad yn cynnwys albymau ffotograffau, sleidiau a dogfennau sy'n cofnodi eu bywyd dyddiol o'r 1930au hyd at 2011. Yn eu plith mae teithiau beic drwy Gymru, ymweliadau ag Ewrop yn y 50au a'r 60au, ac eitemau yn cofnodi'r tai gwely a brecwast roedden nhw'n eu rhedeg yn y Canolbarth. Eu seremoni bartneriaeth sifil yn 2006 oedd y cyntaf yn nhref Machynlleth. 

Mae'r casgliad wrthi'n cael ei gatalogio a'i ddigido.

Dywedodd Mike Parker, awdur On the Red Hill , wnaeth roi'r gwrthrychau i Amgueddfa Cymru: 

"Pan fu farw Reg a George, roedd eu harchif rhyfeddol o ffotograffau, paentiadau, dyddiaduron a llythyrau mor gyffrous i fi â'r hen dŷ hyfryd wnaethon nhw ei adael i ni.  Roeddwn i'n gwybod rhai o'r straeon ar ôl blynyddoedd o gyfeillgarwch, ond fe ddysgais i gymaint mwy, a sylweddoli'n gyflym bod rhaid i fi wneud rhywbeth gyda'r cyfan. 

Roedden nhw'n ddynion arbennig, a doeddwn i ddim am iddyn nhw ddiflannu. Trodd yr ysfa honno yn On the Red Hill⁠, a nawr bydd y cyfan yn cael ei archifo am byth yn y Casgliad Cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru.  Byddai Reg a George yn synnu, ond yn llawn cyffro."

Dywedodd Curadur Hanes LHDTC+ Amgueddfa Cymru, Mark Etheridge: 

"Mae hwn yn gaffaeliad sylweddol, a bydd yn rhan bwysig o'r Casgliad Cenedlaethol fydd yn ein helpu i adrodd hanes pobl LHDTC+ yng Nghymru. ⁠Ymgartrefodd Reg Mickisch a George Walton yng Nghymru yn y 70au, ac mae eu casgliad yn codi'r llen ar fywyd hoyw yn y cyfnod. 

Mae'n bwysig bod straeon LHDTC+ yn dod yn rhan o'n cof cenedl, gan sicrhau y gall cenedlaethau’r dyfodol ddysgu am hanes a diwylliant LHDTC+ yng Nghymru."

Mae Amgueddfa Cymru wrthi'n casglu gwrthrychau a straeon am fywyd LHDTC+ yng Nghymru. Os hoffech chi gyfrannu at y casgliad, anfonwch e-bost at ⁠sainffagan@amgueddfacymru.ac.uk .

 

DIWEDD