Datganiadau i'r Wasg

Dwy arddangosfa yn ceisio ailgysylltu pobl â Geiriau Diflanedig natur a diwylliant

Drwy bartneriaeth unigryw rhwng Amgueddfa Cymru a dau Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, bydd y llyfr poblogaidd Geiriau Diflanedig yn dod yn fyw mewn dwy arddangosfa ddwyieithog am y tro cyntaf yr haf hwn.

Tylluan fawr yn hedfan a llwynog yn cerrded ar draws carped porffor a coedwig o goed yn y cefndir.

Bluebell iii © Jackie Morris

Mae Geiriau Diflanedig yn archwilio’r berthynas rhwng iaith a’r byd, a phŵer natur i ddeffro’r dychymyg. Bydd yr arddangosfa deithiol, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn casglu ynghyd, am y tro cyntaf erioed, gwaith celf gwreiddiol Jackie Morris ochr yn ochr â cherddi Cymraeg wedi’u hysgrifennu gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane.

Mae’r llyfr poblogaidd Geiriau Diflanedig yn defnyddio swynganeuon cyffrous a darluniau trawiadol i ail-gyflwyno wynebau diflanedig natur i’n geirfa ac, yn ei dro, ein hysbrydoli i ymuno â’r frwydr i wrthdroi eu cyflwr. Cafodd y cyhoeddiad Cymraeg, Geiriau Diflanedig, ei gyhoeddi gan Graffeg yn 2019.

Bydd y cydweithrediad rhwng Amgueddfa Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn arddangos geiriau a dyfrlliwiau’r llyfr yn yr Ysgwrn yng Ngwynedd o ddydd Sul 25 Mehefin 2023 ymlaen ac yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc Sir Benfro o ddydd Sul 2 Gorffennaf 2023 ymlaen. 

Yn Oriel y Parc yn Nhyddewi, bydd gwrthrychau o gasgliadau hanes naturiol Amgueddfa Cymru hefyd yn cael eu defnyddio i dynnu sylw at faint o fioamrywiaeth sydd wedi’i cholli a bydd yn esbonio’r gwaith sy’n cael ei wneud i geisio atal y dirywiad hwn.

 

Dywedodd Nia Williams, Cyfarwyddwr dysgu a Rhaglenni Cyhoeddus, Amgueddfa Cymru “Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio mewn partneriaeth ag Oriel y Parc a’r Ysgwrn i gyflwyno’r arddangosfa hon i gymunedau ar draws gogledd a gorllewin Cymru.

“Ar ôl cyhoeddi Geiriau Diflanedig, dyma’r amser perffaith yma yng Nghymru i ddathlu cerddi Cymraeg Mererid Hopwood ochr yn ochr â’r darluniau hyfryd gan Jackie Morris. Rydyn ni’n falch o fod yn cyflwyno’r arddangosfa hon yn Gymraeg am y tro cyntaf.”

Dywedodd y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae Geiriau Diflanedig eisoes wedi ailgyflwyno natur i iaith a bywyd llawer o bobl ers iddo gael ei ryddhau, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yr arddangosfa hon yn helpu i ategu galw’r gwaith brwd hwn ymhellach fyth.

“Mae’r cydweithrediad unigryw hwn yn casglu ynghyd tri sefydliad â nodau ac amcanion cyffredin, i hyrwyddo natur, diwylliant a threftadaeth a thynnu sylw at y problemau sy’n effeithio ar yr elfennau pwysig hyn o’n bywydau bob dydd. 

“Bydd hefyd yn rhoi cipolwg i bobl ar yr ymdrechion sy’n cael eu gwneud i fynd i’r afael â’r bygythiadau y mae natur a’r iaith Gymraeg yn eu hwynebu, yn ogystal â’r camau y gall pobl eu cymryd i fynd i’r afael â’r problemau hyn.”

Dywedodd Jonathan Cawley, Cyfarwyddwr Cynllunio a Rheoli Tir, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, “Mae’r Ysgwrn yn gartref i lawer o rywogaethau y mae Geiriau Diflanedig/The Lost Words yn sôn amdanyn nhw, ac mae’n fraint enfawr cael dod â’r arddangosfa hon o eiriau coll i gartref bardd coll Cymru, a oedd yn adnabyddus am ei gerddi dan ysbrydoliaeth natur. Gan gysylltu harddwch rhywogaethau a’u henwau hudolus, mae Geiriau Diflanedig / Lost Words wastad yn eich ysbrydoli ac mae ei allu i ddysgu pobl ifanc am bwysigrwydd adfer natur a mabwysiadu ein treftadaeth ddiwylliannol a’r iaith Gymraeg yn Eryri yn bwysig iawn. 

Cynhelir cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau arbennig yn Oriel y Parc a’r Ysgwrn i annog rhagor o bobl i ddysgu mwy am Geiriau Diflanedig a defnyddio’r swynganeuon i’w hatgoffa o’u hatgofion hudolus o fyd natur.

Dywedodd Abby Viner, Cyfarwyddwr Rhaglenni Creadigol, Compton Verney: “Rydyn ni’n falch o fod yn gweithio gydag Amgueddfa Cymru i gyflwyno The Lost Words yng Nghymru am y tro cyntaf, ac mae wedi bod yn fraint gweithio gyda’r ddau leoliad hyn a fydd yn dangos y gwaith, gydag Amgueddfa Cymru yn ei chydlynu. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld yr arddangosfa yn y lleoliadau gwych hyn.”

Bydd Geiriau Diflanedig yn cael ei harddangos yn yr Ysgwrn, Trawsfynydd, o ddydd Sul 25 Mehefin hyd at wanwyn 2024. I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, ewch i www.yrysgwrn.com/cynllunio-eich-ymweliad/arddangosfa-geiriau-diflanedig

Bydd Geiriau Diflanedig yn cael ei harddangos yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi o ddydd Sul 2 Gorffennaf 2023 hyd at wanwyn 2024. I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa hon, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/geiriau-diflanedig/

I gael rhagor o wybodaeth am y llyfr The Lost Words, ewch i www.thelostwords.org

 

Diwedd

Capsiwn: .

Nodiadau i Olygyddion

Amgueddfa Cymru

Mae Amgueddfa Cymru yn eiddo i bawb ac mae yma i bawb ei defnyddio. Rydyn ni’n elusen ac yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol a chanolfan casgliadau, sydd wedi’u lleoli ar draws y wlad. Ein nod yw ysbrydoli pawb drwy adrodd stori Cymru yn ein hamgueddfeydd, mewn cymunedau ac yn ddigidol. 

Rydyn ni’n eich croesawu am ddim diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru ac mae hynny’n ymestyn i bobl o bob cymuned. 

Chwaraewch eich rhan yn stori Cymru: drwy ymweld, gwirfoddoli, ymuno a rhoi. 

https://amgueddfa.cymru 

 

 

Oriel y Parc

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n berchen ar Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, ac yn eu rheoli, gan weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru.

Mae’r atyniad yn oriel o safon fyd-eang sy'n arddangos celf, arteffactau a rhywogaethau o gasgliadau helaeth Amgueddfa Cymru.

Hefyd yn Oriel y Parc, ceir Canolfan i Ymwelwyr, Tŵr ar gyfer Artist Preswyl, Ystafell Ddarganfod lle cynhelir llu o weithgareddau celf a natur i’r teulu oll, Ystafell Tyddewi, lle cynhelir arddangosfeydd o gelfyddyd leol a dosbarthiadau cymunedol, a chaffi.

www.orielyparc.co.uk 

 

Yr Ysgwrn

Mae’r Ysgwrn, sef cartref Hedd Wyn, yn un o ffermdai pwysicaf Cymru. Ers 1917, mae pererinion wedi ymweld â’r Ysgwrn i gofio am Hedd Wyn a’r genhedlaeth ifanc o Gymry a gafodd eu lladd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae wedi’i leoli yng nghyffiniau Trawsfynydd, calon Parc Cenedlaethol Eryri. Cafodd y safle ei brynu ar gyfer y wlad gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn 2012 er mwyn ‘cadw’r drws ar agor’. 

Gyda chymorth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, dechreuodd yr Awdurdod brosiect cadwraeth ac adnewyddu enfawr ac ail-agorodd yr Ysgwrn i’r cyhoedd ym mis Mehefin 2017, gan fynd ymlaen i ennill llu o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys Gwobr Pensaernïaeth Cymru 2018, Gwobr Cadwraeth Gwobrau Pensaernïaeth Cymru 2018, Pensaer Prosiect y Flwyddyn Gwobrau Pensaernïaeth Cymru 2018, Adeilad y Flwyddyn Gwobrau Pensaernïaeth Cymru 2018, Gwobr Cadwraeth RICS 2018 a Gwobr Treftadaeth Ewropeaidd 2019 Europa Nostra.

Mae’r Ysgwrn yn rhoi teithiau tywys o’r ffermdy hanesyddol, gydag arddangosfeydd, siop goffi, siop amgueddfa, llwybrau tirwedd ac amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau ar y safle. 

www.yrysgwrn.com 

 

Compton Verney

Mae Compton Verney yn oriel gelf genedlaethol sydd wedi ennill gwobrau yn Swydd Warwick. Mae’r oriel mewn plasdy Sioraidd rhestredig Gradd I ac mae wedi’i lleoli ar 120 acer o dir parc rhestredig Gradd II Lancelot ‘Capability’ Brown. Gyda chwe chasgliad parhaol (Naples, Northern European Art 1450-1650, British Portraits, Chinese, British Folk Art & The Marx-Lambert Collection) ac atodlen o arddangosfeydd newidiol sy’n procio’r meddwl, mae’n amgueddfa achrededig, yn elusen gofrestredig, ac mae’r casgliad Tsieineaidd wedi’i ddynodi’n genedlaethol. 

www.comptonverney.org.uk